Thomas – William Ewart (1916-1994)

William ThomasGanwyd William Ewart Thomas ym mis Ebrill 1916 ym Mlaengarw i’w rieni William a  Mary Ellen Morton Thomas.  Cofir amdano fel bachgen direidus a bywiog nad oedd ag unrhyw ddiddordeb mewn gwaith ysgol.  Gadawodd yr Ysgol Uwchradd yn bymtheg mlwydd oed. Cafodd ei swydd gyntaf fel prentis i argraffydd yn Abertawe a bu yno am saith mlynedd.  Yn ystod y cyfnod hwn aeth i ysgol nos i ddilyn gwersi mewn pynciau a oedd yn ymweud ag argraffu a chelf o bob math.

Yn 1940 ac yntau yn 24 mlwydd oed, ymdeimlodd a galwad i’r weindigaeth gan ddilyn ôl troed ei dad a’i frawd hynaf i goleg yr enwad ym Mangor i astudio ar gyfer  ‘Tystysgrif mewn Diwinyddiaeth’.   Awgrymwyd iddo fynd i Goleg Regent’s Park, Rhydychen  i wneud ei B.D. ond penderfynnodd aros ym Mangor i wneud ei radd.  Y bwriad oedd gorffennodd ei gwrs gradd yn ôl trefn arferol bywyd coleg ond ni wnaeth hynny.  (Gorffennodd ei radd yn hwyrach yn ei oes pan dychwelyd yn ôl o’r India ar adeg o wyliau o’i waith fel cenhadwr yno).

Tra roedd yn astudio testunau Semitaidd ym Mangor, clywodd am gynllun hyfforddi dynion ifanc, a’r cefndir priodol, i fynd yn genhadon, ond er na ddigwyddodd unrhyw beth o’r cynllun arfaethedig, roedd y syniad  o fynd yn genhadwr tramor wedi cydio ynddo.  Yn 1947, sef yn ystod ei flwyddyn olaf ym Mangor, ar ôl meddwl yn hir ac o dan gryn ddynlanwad y Parchg W.R. James, cenhadwr yn Bengal, a oedd yn perthyn i’r teulu, cynigiodd William Ewart ei hun i Gymdeithas Genhadol y Bedyddwyr, fel cenhadwr i’r India.  Ar ôl ei ordeinio yn Eglwys Bethesda, Abertawe, yn haf 1947 hwyliodd i’r India i weithio yn y Kond Hills, Orissa, pan oedd yn  31 mlwydd oed. Priododd Eileen Cockermouth o Cambrio, gogledd Lloegr, yn yr India, a hwythau mewn cynhadledd gan ymserchu yn ei gilydd a dyweddio o fewn diwrnod i’r cyfarfod.

Daeth adref am flwyddyn yn 1953, ond dychwelodd yn 1954 i weithio gyda phartneriaid y B.M.S. yno fel American Disciples of Christ.  Yn 1960 daeth adref o’r India am y tro olaf ac aeth yn syth i Fangor i astudio am Dystysgrif mewn Addysg, gan lwyddo yn ei nôd yn 1961.  Ar ôl cymhwyso fel athro cafodd swydd dysgu yng Ngholeg Addysg Grefyddol yn Cumbria, Lloegr.  Bu’n trefnu gwaith i athrawon Addysg Grefyddol yn ystod y cyfnod hwn.  Roedd yn dal i bregethu ar y Suliau, ond gyda’r Methodistiaid yn bennaf.

Penderfynnodd y Methodistiad bod angen iddynt benodi person i ddarlithio ar yr Hen Destament mewn Coleg Diwinyddol yn Dahomey (Benin bellach) sef brenhiniaeth annibynnol yng Ngorllewin yr Affrig, gyda Nigeria i’r dwyrain ohoni. Byddai angen iddo ddysgu Ffrangeg yn gyntaf cyn teithio i Dahomey er mwyn cyd-weithio gyda’r Eglwys Ddiwygiedig Brotestanaidd Ffrengig.  Bu yno am ddwy flynedd rhwng 1968 a 1970.

Yn 1970 dychwelodd William Ewart i weithio yn Bradford, Swydd Efrog, ym myd Addysg i Ymfudwyr gyda’r teuloedd a ddaeth yn bennaf o Bacistan. Roedd yn athro ymgynghorol ar gyfer Astudiaethau Ethnig ac Addysg Grefyddol gan drefnu cynhadleddau a pharatoi defnyddiau ar y pynciau hyn.  Er iddo ymddeol yn 1981, roedd yn dal i weithio i’r Eglwys Fethodistaidd ym myd y credoau gwahanol.  Yn ddiweddarach, datblygodd yr un afiechyd a’i dad, sef Clefyd Parkinson, ac ar ôl cyfnod hir o salwch bu farw yn 1994, gan adael dau o blant sef Sian a fu’n y Brifysgol yn Glasgow yn dilyn cwrs mewn cerddoriaeth a Christopher a dderbyniodd ei addysg yn Rhydychen.  Ganwyd y ddau blentyn yn yr India.

Profodd y bachgen bywiog, na adawodd dystiolaeth o’i allu yn ystod ei gyfnod yn Abertawe, i fod yn berson eithriadol academaidd.  Cyhoeddodd lawer mewn cylchgronnau gan gyhoeddi llyfr a fyddai’n addas i blant o’r India drwy gyfrwng y Saesneg. Roedd yn artist naturiol gan adael llawer o luniau ar ei ôl.  Cofir amdano fel gŵr prysur a llawen.

Cyfrannwr:  Rhiannydd Thomas  (Nith)