Thomas – Evan Ungoed (1860 – 1930)

evan ungoedGaned Evan Ungoed Thomas yn Heol yr Hen Gastell, Llanelli ar 7 Medi 1860, yn fab i David a Sarah Thomas, y pedwerydd o’u saith plentyn. Yn ddiweddarach yn ei fywyd mabwysiadodd enw morwynol ei fam (Sarah Ungoed) yn enw canol. Yr oedd ei dad, a lafuriai yn y gwaith alcam, yn ddiacon yn eglwys luosog Seion yn y dref, ac yn un o’r fintai a ollyngwyd gan y fam eglwys, ymhen y rhawg, er mwyn sefydlu eglwys newydd Calfaria, a leolid mewn man strategol ar dyle’r Bigyn. Mynychai Evan ysgol ddyddiol ‘Pottery Street’ (a sefydlwyd yn 1847 gan rai gweinidogion Anghydffurfiol er mwyn rhoi addysg i blant difreintiedig Llanelli), nid nepell o’i gartref, ac yn fuan gadawodd argraff ar ei athrawon, nid yn unig fel plentyn a ddoniwyd yn academaidd, ond hefyd fel rhywun oedd â diddordeb ysol mewn crefydd a’r Beibl. Bedyddiwyd ef yng nghapel Seion, ac yntau’n llanc tair ar ddeg oed, ar 29 Tachwedd 1873, gan weinidog yr eglwys, J.R. Morgan (Lleurwg), a bregethai’r bore Sul hwnnw i gynulleidfa fawr ar y testun, ‘Canys ni allem ni ddim yn erbyn y gwirionedd, ond tros y gwirionedd’ (2 Cor. 13: 8), geiriau rhagluniaethol o addas o ystyried trywydd gweinidogaeth Ungoed Thomas ymhen blynyddoedd i ddod.

Diwrnod nodedig i’r teulu oedd 9 Chwefror 1875 , pryd yr ymwelodd Lleurwg, ar ran aelodau eglwys Seion, â’u haelwyd er mwyn cymell y mab i ystyried cysegru ei fywyd i waith y weinidogaeth. Ni bu anogaeth gweinidog Seion yn ofer. Ymatebodd Evan Thomas yn gadarnhaol i gais ei eglwys, a derbyniwyd ef yn 1878, yr ail ar restr yr ymgeiswyr llwyddiannus, ac yntau ond yn ddeunaw oed, yn fyfyriwr yng ngholeg ei enwad ym Mhont-y-pðl, i ddilyn cwrs hyfforddiant o dair blynedd.

Maes ei weinidogaeth gyntaf oedd eglwys Moriah, Rhisga, cylch yr oedd i aros ynddo, yn fawr ei barch, am un mlynedd ar ddeg (1881 – 1892). ‘Roedd y capel eang dan ei sang bob Sul, y pregethu sylweddol yn denu mwy a mwy o wrandawyr, a chafodd y gweinidog, ar sawl achlysur, y wefr o fedyddio nifer fawr o ddeiliaid bedydd (42 mewn un gwasanaeth yn 1882; 60 ar un Sul yn 1883), a’u derbyn i gyflawn aelodaeth o eglwys Crist.

Eithr ni chyfyngodd ei weinidogaeth i’r tu mewn i furiau’r capel, ac ymhen fawr o dro daeth gwlad gyfan i wybod bod arweinydd anghydffurfiol dibetrus yn hogi ei arfau. Er i Ddeddf Gladdu 1880 roi i bawb, Anghydffurfwyr yn ogystal ag Eglwyswyr, yr hawl i gael eu claddu ym mynwent y plwyf, daliai’r capelwyr i deimlo’n anniddig ynglþn â’r sefyllfa: yn gyntaf, ni chredent mewn cysegru tir i amcanion crefyddol, ac yn ail, gwrthwynebent y ffïoedd a godai’r offeiriad am weinyddu mewn gwasanaeth angladd. Cododd ffrae yn Rhisga yn sgil penderfyniad y Bwrdd Claddu (Anglicanaidd) i gysegru daear y fynwent gyhoeddus newydd, er nad oedd trwch y boblogaeth yn cydsynio â’r bwriad i gysegru’r tir. Yn Ungoed Thomas cafodd eu barn ladmerydd grymus. Yn y diwedd, cytunwyd ar gyfaddawd, sef bod tri chwarter o’r tir yn cael ei osod o dan reolaeth y cyhoedd, a’r chwarter oedd yn weddill yn cael ei gysegru yn ôl arfer yr Eglwys Wladol.

Pan ymadawodd Ungoed Thomas â Rhisga cyflwynwyd anerchiad teyrnged, goliwiedig iddo gan aelodau eglwys Moriah. Prin y gellid ei loywach. Ar ei ddiwedd ceid cyfeiriad at ‘eich cymar hoff’. Ddydd Iau 22 Medi 1885 priododd Ungoed Thomas â Katherine Howells, yr hynaf o ddeg o blant George a Jane Howells (y ddau yn Fedyddwyr selog), fferm Llandafal, Blaenau Gwent. Er mai person o natur swil oedd Katherine, un a gredai mai’r gweinidog a ddylai ymddangos ar flaen y llwyfan ac mai swyddogaeth ei gymar oedd gweithio’n dawel y tu ôl i’r llenni, bu’n gefn cadarn i’w gðr, ac yn weithreg ddiflino yn yr eglwys, yn Rhisga i ddechrau, ac yna’n ddiweddarach, ac mewn modd arbennig, yn y Tabernacl, Caerfyrddin.

Wedi symud i Gaerfyrddin cafodd yr ymladdwr a fesurai bopeth ‘wrth lathen y safon Gristnogol’, ac a fu’n gloywi ei arfau yn Rhisga, gyfleoedd i fwrw iddi i ganol nifer o frwydrau eraill, a’i arfogaeth erbyn hyn yn gyflawn a pharod. Bron ar ei union wedi iddo gyrraedd y dref, cymerodd ran flaenllaw yn yr ymgyrch fawr ddirwestol a ysgubai drwy’r wlad, gydag Ymneilltuaeth yn cyhoeddi crwsâd yn erbyn y fasnach ddiod. ‘Roedd Ungoed Thomas yn llwyrymwrthodwr di-ildio, a brithir ei ddyddiadur â chyfeiriadau at ddirwest a sobreiddiwch. Pan ymddangosodd i roi tystiolaeth gerbron y Comisiwn Brenhinol ar Eglwys Loegr (1906), fe’i holwyd ynghylch yr arfer o ddiaelodi y sawl a gafwyd yn euog o feddwdod. Atebodd yntau mai gwell oedd diarddel un unigolyn penodol na pheryglu enw da’r eglwys, ateb sydd, yn ddiau, yn datgelu ansensitifrwydd a diffyg cydymdeimlad â’r dioddefwr.

Gyda’r un mesur o ddycnwch moesol y cefnogodd Ungoed Thomas frodorion De Affrig yn ystod Rhyfel y Bwyriaid a ddechreuodd ym mis Hydref 1899. Trefnwyd cyfarfod cyhoeddus gan y Rhyddfrydwyr yn Neuadd y Dref, Caerfyrddin ar 27 Tachwedd 1899; fe’i llywyddwyd gan Ungoed Thomas, gydag ac Alfred Davies (yr ymgeisydd Rhyddfrydol newydd dros sedd Caerfyrddin), a David Lloyd George, A.S., yn brif siaradwyr. Cafwyd cyfarfod stormus (bu’r rhyfel yn fodd i fwydo fflamau gwladgarwch yng ngwledydd Prydain, ac i ennyn cefnogaeth frwd ar ran gwreng a bonedd fel ei gilydd) a bu rhaid atal y dyrfa oddi allan rhag mynd yn rhy agos i’r adeilad (a oedd yn orlawn) rhag ofn y chwelid y ffenestri. Talodd Ungoed Thomas bris uchel am ei safiad o blaid y Bwyriaid, hynny yn y dref ac yn yr eglwys. Rhanedig oedd aelodau’r Tabernacl o ran eu teyrngarwch gwleidyddol. Cofnododd Edwin Price, ysgrifennydd yr eglwys: ‘Y mae’n gweinidog parchus yn cefnogi achos y Bwyriaid yn frwd, ond fel Bedyddwyr yr ydym yn cydnabod hawliau cydwybod wedi ei oleuo a’i ysbrydoli gan Ysbryd Sanctaidd Duw, ac felly anrhydeddwn safiad ein gweinidog, er iddo fod yn dra amhoblogaidd yn y dref a’r holl ardal’.

O’r braidd y daeth y rhyfel yn Neheudir Affrig i ben nad oedd Anghydffurfiaeth yn ei chael ei hunan unwaith eto mewn dyfroedd terfysglyd, y tro hwn am iddi herio Deddf Addysg Balfour yn 1902, deddf a olygai y byddai ysgolion eglwys, Anglicanaidd a Chatholig, o hynny ymlaen, yn cael eu hariannu gan gyfraniadau trethdalwyr lleol. Tri o arweinwyr yr ymgyrch brotest oedd Lloyd George, Dr. John Clifford (radical, a phrif arweinydd y Bedyddwyr yn Lloegr), a Silvester Horne (gweinidog Annibynnol yn Kensington, Llundain), tri y bu Ungoed Thomas yn gohebu’n gyson â hwy trwy gydol yr ymgyrch. Yntau hefyd a arweiniai’r gwrthdystiad yng Nghaerfyrddin a’r cylch, ac yn sgil hynny dringodd i fod yn un o arweinwyr mwyaf dylanwadol y Rhyddfrydwyr yn etholaeth Caerfyrddin.

Brwydr arall yr ymdaflodd Evan Ungoed Thomas iddi â’i holl egni oedd honno i ddatgysylltu a dadwaddoli Eglwys Loegr yng Nghymru. Dadleuai’r Anghydffurfwyr y dylai eglwys a gwladwriaeth fod yn ddau gylch annibynnol ar ei gilydd, ac na ddylai’r eglwys, ar unrhyw gyfrif, fod megis maneg i’r llywodraeth ei gwisgo’n esmwyth ar ei llaw. Ddydd Sadwrn, 20 Hydref 1906, galwyd ar Ungoed Thomas i roi tystiolaeth gerbron y Comisiwn Brenhinol a sefydlwyd gan y Rhyddfrydwyr ym Mai 1906, a’r Arglwydd Ustus Roland Vaughan-Williams yn gadeirydd iddo, i archwilio sefyllfa Eglwys Loegr ynghyd â chyrff crefyddol eraill yng Nghymru. Mae’n ddiddorol nodi am Ungoed Thomas, ac yntau’n Ymneilltuwr digyfaddawd, fod sawl ffotograff a dynnwyd ohono yn ei ddangos â choler gron am ei wddf, a honno’n goler reit lydan. Hwyrach mai ei fwriad oedd dangos fod y weinidogaeth yr ordeiniwyd ef iddi yn gyfwerth, bob gafael, o ran ei hawdurdod a’i phwysigrwydd, â’r offeiriadaeth Anglicanaidd.

Bu dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn Awst 1914 yn achos loes calon a gofid dwfn i Ungoed Thomas. Ffieiddiai ryfel (“There is a world war, and war is hell”), gwrthodai annerch mewn cyfarfodydd ricriwtio, a phan lansiodd Lloyd George ymgyrch gonscriptio oerodd y berthynas rhwng y ddau. Meddai Ungoed Thomas:

The sort of jingoistic liberalism, severed from any anchor of principle,
now being espoused by Lloyd George and many other Liberals, could
never win the support of radical Nonconformity.

Ac eto, nid pasiffist absoliwt mo Evan Ungoed Thomas. Yr argraff a geir yw iddo ddod i’r casgliad – o’i anfodd, mae’n wir – bod y rhyfel, o ganlyniad i gyndynrwydd ac anghym-odlondeb yr Almaen (“Germany has refused to keep out of Belgium … so, war is declared”) yn anorfod.

Trwy gydol y rhyfel bu’r gweinidog yn llythyru â bechgyn y Tabernacl oedd ar y maes, yn ymweld â’r cartrefi lle roedd gofid am anwyliaid, ac yn gweini cysur i’r galarus a’r amddifad. Rhwng 1914 a 1918 bu’n pregethu’n ddi-flewyn-ar-dafod yn erbyn rhyfel, ac yn galw am gadoediad buan rhwng y gwledydd. Paratôdd bregeth ar y testun, ’Efe sydd yn iacháu y rhai briwedig o galon, ac yn rhwymo eu doluriau’ (Salm 147: 3), a’i thraddodi nid yn unig yn ei bulpud ei hun ond mewn llawer o gapeli eraill lle y gwahoddid ef i bregethu, a bu’r neges, yn ôl pob tystiolaeth, yn gyfrwng diddanwch mawr i lawer o’i wrandawyr.

Os mai Rhyddfrydwr diwyro ydoedd yn wleidyddol, Bedyddiwr diymddiheuriad ydoedd o ran argyhoeddiad crefyddol, a bu ei gyfraniad i’w enwad yn sylweddol.Cyn gynhared â 1904, ac yntau ond yn ei ddeugeiniau, etholwyd ef yn llywydd Cymanfa Caerfyrddin a Cheredigion; dewisodd draethu o’r gadair ar y testun ‘Addysg Grefyddol y Plant’. Bu llawer o drafod ar gwestiwn aelodaeth eglwysig; dadleuai Ungoed Thomas dros aelodaeth gaeedig ond cymundeb agored. Yn 1912 cyhoeddodd bamffledyn, Llef yr Oes a Llais y Gair,  er mwyn egluro ei safiad. Bu’n aelod o Gyngor Undeb Bedyddwyr Cymru ar hyd tymor ei weinidogaeth, a llwyddodd i fynychu cyfarfodydd y Cyngor, ynghyd â chyfarfodydd blynyddol yr Undeb, bron yn ddi-fwlch. Bu’n un o gynrychiolwyr Cymru ar Gyngor Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr am gyfnod hir, ac yn aelod hefyd o Bwyllgor Tþ Cenhadol y B.M.S. (Baptist Missionary Society). Trefnai Sul Cenhadol yn y Tabernacl yn flynyddol. Cynrychioodd Undeb Bedyddwyr Cymru yng Nghyngres Bedyddwyr y Byd yn Philadelphia, U.D.A., yn 1911.

Un o uchafbwyntiau ei yrfa oedd iddo gael ei ethol yn Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru, a thraddodi ei anerchiad o’r gadair yng nghapel Penuel, Rhymni (30 Awst 1922) ar y testun, ‘Heddiw’. Cyflwynoddodd ei araith o dan dri phrif bennawd: 1. Moesau Heddiw; 2. Bedyddwyr Heddiw; 3. Galwadau Heddiw. Ynddo bu’n ymdrin â dirywiad moesol yr oes, gan apelio’n daer ar ei gyd-Fedyddwyr i arddel y safonau moesol uchaf. Cadarnhaodd ei apêl wrth Ymwelodd â cholegau’r enwad ym Mangor a Chaerdydd, gan annerch y myfyrwyr ar ‘Weinidogaeth y Dyfodol’, a phwysleisio fod gwaith y weinid-ogaeth yn hawlio defosiwn personol, paratoad trylwyr, pregethu nerthol, ymroddiad bugeiliol ac ymdeimlad creiddiol o ‘alwad’ i’r gwaith ar ran pawb a fyn ymgymryd â hi.

Yn llenor medrus, cyfrannai’n gyson i gyhoeddiadau’r enwad: i Seren Cymru (fe’i hetholwyd yn olygydd yn 1828), ac i Seren Gomer (ef oedd yn gyfrifol am y gyfres ‘Trem ar Fyd ac Eglwys’ rhwng 1909 a 1918). Erbyn 1928 ofnai fod cyflwr ei iechyd yn dirywio, a bu’n ystyried rhoi’r gorau i’w ddyletswyddau bugeiliol er mwyn canolbwyntio ar y gwaith o olygu Seren Cymru. Erbyn hyn ystyrid ef yn esgob answyddogol gan nifer o eglwysi a gweinidogion, a hwythau’n troi ato am gyngor a chyfarwyddyd. Brwydrodd dros gydnabyddiaeth ariannol deg i weinidogion, ac isafswm cyflog i bob un.

‘Roedd yn bregethwr tra sylweddol, a’i waith paratoi ar gyfer ei bulpud yn feddylgar a thrwyadl. Meddai T. J. Evans amdano, ‘Droeon y clywais ef yn pregethu gyda her y gwir broffwyd, a deuai’r gair fel darn o fflam noeth o’i enau’. Yn ei ddull o bregethu ymwrthod-ai’n llwyr â’r hwyl boblogaidd, a chas beth ganddo oedd pregethwyr perfformiadol. Ei amcan mewn oedfa oedd creu naws addolgar, fyfyrgar, gan gyflwyno i ystyriaeth ei wrandawyr yr hyn oedd iddo ef yn ‘wirionedd y Gair’. Nid yw’n syndod iddo amau dilysrwydd Diwygiad 1904-5 (ar gyfrif y teimladrwydd annisgybledig a’i nodweddai), a dyheai am “ddiwygiad arall o’r nef”.

Bugeiliai ei bobl yn ofalus, ac ymwelai’n gyson â’u haelwydydd. Trefn ei ddiwrnod arferol oedd neilltuo i fyfyrio yn ei stydi yn y bore (rhoddai bwys mawr ar fod mewn cymundeb â Duw), ac ymweld ag aelodau o’i braidd yn y prynhawn. Dylanwadodd ei weinidogaeth – ynghyd ag ymdrechion ei briod i hyfforddi’r plant a’r bobl ifanc – mewn modd arhosol ar eglwys y Tabernacl. Yn ddiau, yr oedd Ungoed Thomas yn feddyliwr ac yn ddiwinydd craff, yn meddu ar egwyddorion cedyrn y sylfaenodd holl waith ei fywyd arnynt. Yn ei olwg ef yr oedd yr egwyddorion hynny o Dduw, yn ymgorfforiad o’r gwirionedd, ac yn ddigyfnewid. Felly, ‘roedd yn rhaid brwydro’n ddi-ildio ac yn ddigyfaddawd dros eu gwarchod a’u hyrwyddo.

Desmond Davies

Llyfryddiaeth:

1. Desmond Davies, Pobl y Porth Tywyll: Hanes a Thystiolaeth y Bedyddwyr, y

    Tabernacl, Caerfyrddin, 1650-1968, yng nghyd–destun datblygiad Ymneilltuaeth

    Gymreig (Gomer: Llandysul, 2012).

2. T.J. Evans, ‘Evan Ungoed Thomas’ (Seren Gomer, Hydref 1960).