Ganed y Parchg Benjamin Lefi James ar Ionawr 3, 1920 ar fferm Cwm Isaf, Mynachlogddu, yn un o bedwar plentyn Gwilym a Regina James
Ganwyd Isaac Jones yngh Nghastell Nedd yn 1847. Symudodd gyda’i deulu i Ferthyr Tudful a dechreuodd weithio yn y lofa leol yn naw oed. Wedyn symudodd y teulu i Bontypridd lle gweithiodd yn y Chain Works a hefyd ym mhwll glo’r ‘Great Western’.
William Jones ar ddydd Sant Steffan 1918 y pedwerydd plentyn i deulu o naw o blant Richard ac Elizabeth Jones, aelwyd Nant y Tŷ, Gerlan, Bethesda. Yn ôl tystiolaeth cyfoedion, roedd yn blentyn galluog iawn a ddaeth yn uchel iawn ar restr disgyblion llwyddiannus 11+ y sir. Bryd hynny roedd addysg yn gostus ac amgylchiadau economaidd y teulu yn methu ei gynnal i barhau ym myd addysg uwchradd, felly dechreuodd weithio’n 14 oed yn Chwarel y Penrhyn a chynorthwyo ar dyddyn y teulu cyn cael ei alw i’r fyddin ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd yn 1939 tan 1945.
Brodor o’r Gerlan, Bethesda Gwynedd oedd y Parch R. Coetmor Jones (‘Bob’neu ‘Robin’) fel ei gelwid gan ei gyfoedion. Fe’i ganed yn Hill Street ym mis Hydref 1913. Mab ydoedd i Richard Jones, chwarelwr a thyddynnwr a’i wraig Elizabeth Jones ac yr oedd ganddo tri brawd, John, Wil ag Arthur a pum chwaer, Catherine, Ann, Alice, Phylis a Betty.
Ganwyd y Parch Arthur Jones ar Fehefin y cyntaf, 1924 ym Methesda, Sir Gaernarfon, y mab ieuengaf mewn teulu o naw o blant i Richard ac Elizabeth Jones, Nant y Tŷ. Cafodd ei addysg gynradd yn ysgol Carneddi cyn mynd i ysgol Cefnfaes, Bethesda. Bethel, Caellwyngrudd oedd ei fam eglwys, yno y bedyddiwyd ef gan Y Parch E. Bryn Jones ac oddi yno yr aeth i’r weinidogaeth gan ddilyn ôl troed ei dri brawd hŷn sef John, Robert Coetmor a William.
Un o blant Talybont oedd James Spinther James, a chofir amdano yn bennaf fel llenor a hanesydd y Bedyddwyr yng Nghymru yn ail hanner y 19g. Roedd ei rieni, Humphrey a Catherine James yn byw yn y Brachgoed, ond symudodd y teulu i Bwlch-y-dderwen ar odre Pumlumon. Brawd iddo oedd y Parchg Gwerfyl James, a fu’n weinidog yn Seion Treforus am gyfnod.
Ganwyd Edgar Owen Jones ar 3 Mai, 1912, ar fferm Maes Gwilym, Carwe, yn un o bedwar plentyn i John ac Ann Jones. Roedd ganddo ddau frawd, Gwynfor ac Elwyn, a chwaer, Awena. Addolai’r teulu yn Siloh, capel y Bedyddwyr yng Ngharwe. Y gweinidog yno yn nghyfnod ei blentyndod oedd y Parchg M.T. Rees, gŵr a gafodd ddylanwad mawr ar Edgar.
Bu yng Nghymru draddodiad cyfoethog o offeiriaid a gweinidogion a oedd hefyd yn llenorion ac yn hynafiaethwyr, yn newyddiadurwyr ac yn awdurdod ar len a llafar eu bro a’u gwlad: gwyr diwylliedig, cynheiliaid traddodiad, parod i gyfrannu eu dysg a’u gwybodaeth i eraill. Buont yn gymwynaswyr yn eu dydd a’u…
Ganwyd Tom Ellis Jones, yn chweched o ddeg o blant i Daniel a Deborah Jones, Bancffosfelen, Sir Gaerfyrddin ar 13 Awst, 1914. Cafodd ei fagu ar aelwyd dlawd ond cynnes a chariadus mewn ardal lofaol draddodiadol. Bu’n ddifrifol wael ar ddau achlysur yn ei blentyndod, unwaith gyda Llid yr…
Un o blant y gogledd oedd Emlyn Jones a dreuliodd eu gyfnod fel gweinidog yn y de, ac yn bennaf yn Llangloffan, Sir Benfo. Ganwyd ef yn 1927, i deulu a oedd yn byw ynFferm y Clwt,Fforddlas, ger Conwy, ond yn ystod plentyndod Emlyn a’i chwaer, symudodd y teulu i…
Read our privacy policy here.
Cysylltwch â ni:
Ffôn: 0345 222 1514
Ebost: post@ubc.cymru
Y Llwyfan, College Road, Carmarthen SA31 3EQ
Polisi Preifatrwydd
Cynlluniwyd gan: Waters