Anaml bydd grŵp o oedolion yn pwyso ar fachgen ifanc pymtheg oed i fod yn athro ysgol Sul arnynt, ond dyna a ddigwyddodd yn Eglwys Beyddwyr y Star yn Llanfyrnach yn 1932. Cafodd George Elias fagwraeth dda ar aelwyd grefyddol, ei dad yn ddiacon ffyddlon yn yr eglwys, a’i fam yn aelod gyda’r Methodistiaid yn eglwys Bwlchygroes.
Mae’n anodd dychmygu Garfield Eynon fel neb na dim ond gweinidog yr Efengyl. Â’r weinidogaeth yn ffordd o fyw, yn hytrach na swydd naw i bump, gellir dweud amdano iddo fyw, siarad, anadlu, a chyflawni amryfal ofynion yr ‘uchel alwedigaeth’ am hanner can mlynedd a mwy. Ar lawer cyfrif yr…
Gŵr tawel a diymhongar oedd Vincent Evans a fu farw’n 50 oed. Ganwyd ef yng Nghwm Tawe, yr ail-ieuengaf o un o dri ar ddeg o blant yn Rhydypandy, nid nepell o bentref Graig-Cefn-Parc, mab ieuengaf Thomas ac Elizabeth Evans yn 1919. Rhestrwn enwau’r tri ar ddeg o blant yn…
Ganwyd George Evans yn un o dri plentyn Benjamin a Margaret Jane Evans, ac roedd ganddo frawd a chwaer sef John ( a adnabyddid fel Jack) a May. Roeddent yn byw yng Nghwm Gwaun ac yn aelodau yn Jabez. Tristwch mawr iddynt oll oedd marwolaeth y fam yn 1918 pan…
Hugh Evans, Philadelphia, Hafod, Abertawe
Fel ‘Hugh Bach’ yr oedd ei gyd-weinidogion yn ei adnabod. Roedd yn anwylyn yr enwad yn ei ddydd. Yn ŵr bychan, main, o dan 5 troedfedd o daldra roedd yn fyr iawn ei olwg hefyd a gwisgai spectol trwchus, crwn a elwid yn ‘pebble glasses’ sef sbectol bach crwn ag ynddynt wydr trwchus iawn a chwyddai’r hyn yr edrychid arno i raddfa anhygoel.
Ganwyd y Parchg. W. J. Byron Evans ar aelwyd ddefosiynol Mr a Mrs Arthur Evans, dau a fu’n deyrngar eithriadol i fywyd a thystiolaeth Salem Llangyfelach. Gweinidog Salem yn y cyfnod hwnnw oedd y Parchg Idwal Wyn Owen, brodor o Ynys Môn, ac yn bregethwr cydwybodol a bugail gofalus o’i…
Ganwyd Edward Colwyn Evans yn Hen Golwyn yn y flwyddyn 1845. Treuliodd ei flynyddoedd cynnar yn addoli gyda’r Annibynnwyr yng nghapel Ebeneser, Hen Golwyn, ond erbyn iddo droi’n bymtheg mlwydd oed, apeliodd ddaliadau’r Bedyddwyr ato. Dechreuodd addoli gyda’r Bedyddwyr yn Llanelian, ac ar y Sulgwyn 1860, bedyddiwyd ef yn yr…
Bydd rhai gweinidogion yn amlygu eu hunain drwy eu cyfraniadau llafar neu eu gwaith ysgrifenedig,. Bydd eraill yn llenwi swyddi amlwg yng ngweinyddiad yr enwad, ond bydd rhai yn gwneud eu cyfraniad yn dawel a di-ffws, fel na bydd llawer yn ymwybodol ohonynt. Person felly oedd John Douglas Evans, a…
Ganed Michael Evans yng Nghapel Iwan, ger Castell Newydd Emlyn yn Sir Aberteifi ar aelwyd ei rieni, John a Pheobe Evans. Yn hwyrach yn ei blentyndod symudodd y teulu i Bonhenri, Sir Gaerfyrddin, ac yno yng nghapel Bethesda y cafodd ei fedyddio gan y Parchg W. J. Charles.
Yn dilyn…
Gellir hawlio bod Dafydd Henri Edwards yn eithriad ar lawer cyfrif, ac un ohonynt oedd iddo ysgrifennu hunangofiant a hynny ar ei draul ei hun. Yn y cenedlaethau cynt, bu’n arfer i rywun lunio cofiant i’r gweinidog a byddai hwnnw’n cynnwys enghreifftiau o’i bregethau ac os digwydd bod y sawl…
Read our privacy policy here.
Cysylltwch â ni:
Ffôn: 0345 222 1514
Ebost: post@ubc.cymru
Y Llwyfan, College Road, Carmarthen SA31 3EQ
Polisi Preifatrwydd
Cynlluniwyd gan: Waters