Evans – William George (1916 -1983)

Ganwyd George Evans yn un o dri plentyn Benjamin a Margaret Jane Evans, ac roedd ganddo frawd a chwaer sef John ( a adnabyddid fel Jack) a May. Roeddent yn byw yng Nghwm Gwaun ac yn aelodau yn Jabez. Tristwch mawr iddynt oll oedd marwolaeth y fam yn 1918 pan roedd George ond yn ddyflwydd oed. Ymhen amser, ail-briododd y tad gyda Morfydd Vaughan, Fferm Pontfaen, a adnabyddid yn ddiweddarach gan y teulu fel Mama Mynyddmelin. Ganwyd pedwar plentyn arall i’r aelwyd fywiog a chynnes hon, sef Rita, Granville, Gwennie a Ken. Roedd agosrwydd y teulu yn bwysig i George, ac roedd ef, fel mwyafrif y teulu yn gymeriad cadarn a hawddgar, a wyddai bod angen cyd-dynnu a chefnogi eraill, er mwyn lles pawb. Roedd y nodweddion hyn yn amlwg ym mywyd George ar hyd ei fywyd. Byddai’n dyheu yn gyson am ddychwelyd i’r cwm, a pan ddaeth yr amser, ymddeolodd i bentref Dinas. Roedd dylanwad y Parchg Hendy Davies, y gweinidog lleol adeg ei blentyndod yn sylweddol arno, ac ef a fedyddiodd George yn 1932, ac a anogodd George i roi ystyriaeth ddifrifol i fod yn weinidog.

Derbyniodd ei addysg gynradd yn Ysgol Llanychllwydog, Cwm Gwaun ac yna mynychodd Ysgol Sirol Abergwaun, gan ymdeimlo â’r dynfa i’r weinidogaeth. Ymgeisiodd am le yng Ngholeg y Bedyddwyr, Caerdydd, gan fwynhau ei hun yn fawr yno, a gwneud llawer o gyfeillion oes. Graddiodd yn y celfyddydau mewn Hebraeg a Athroniaeth, gan ganolbwyntio’n bennaf ar Athrawiaeth Gristnogol a Hanes yr Eglwys yn y B.D. Ar ddechrau’r Ail Rhyfel Byd, ar ôl chwe blynedd yn y coleg, gadawodd Caerdydd i fod yn weinidog yn Eglwys Baker Street yn Aberystwyth. Prin y byddai myfyriwr yn derbyn galwad oddi wrth eglwys mor amlwg a dylanwadol, a thystia hyn ei fod yn fyfyriwr arbennig, a gwelwyd ei botensial sylweddol yn gynnar yn ei yrfa. Arhosodd yno drwy gydol cyfnod y rhyfel. Roedd yn gyfnod anodd i bawb, a ffocws byd cyfan ar yr hyn a ddigwyddai yn y gyflafan honno. Byddai swyddogaeth gweinidog adeg rhyfel, yn un o gysurwr y teuluoedd yn eu pryderon a’u galar, ac yn ddolen gyswllt i’r rhai a alwyd i ryfela.

Yn 1942, priododd Laura Harris Thomas, nyrs o bentref Dinas, nid nepell o Gwm Gwaun, yng nghapel Tabor, lle roedd hithau a’i theulu yn aelodau. Ymhen y rhawg, ganwyd iddynt dair merch sef Lynne, Dianne a Susan. Dyn teulu oedd George Evans ac fel ym mhob gwedd arall o’i fywyd, profodd ei hun yn graig gadarn ac yn ŵr a thad annwyl a charedig.

Yn 1945, derbyniodd W. George Evans alwad i Eglwys Ararat, Caerdydd, ac yno treuliodd 26 mlynedd, gan ymwreiddio’n llwyr ym mywyd y bobl ac ym mwrlwm yr eglwys a’r ddinas. Dyma’r cyfnod a welodd lawer o ddirywiad ym mywyd eglwysi’n gyffredinol, yn dilyn effaith cymdeithasol y rhyfel. Dywedodd y Parchg Peter Saunders, mewn ysgrif amdano yn Llawlyfr Bedyddwyr Prydain, “He passed on to his successors, a thriving and committed Baptist community with a wide-spread influence in north west Cardiff”. Roedd yn bregethwr cadarn ei dystiolaeth ac yn fugail a anwylodd ei bobl. Roedd gweld gŵr ifanc o fro wledig yn gadael tref â phrifysgol ynddi, i fynd at eglwys Saesneg ei hiaith yn annisgwyl, ond dywedir iddo gael ei gyfareddu gan fwrlwm Ararat. Tystir i’r eglwys ddatblygu a thyfu yn ystod ei amser yno. Darlledodd oedfaon ar y BBC ddwywaith, yn 1956 ac eto yn 1961. Gwelodd fod cenhadaeth leol yn bwysig a threfnodd bod yr eglwys yn ymweld â 5,000 o gartrefi fel rhan o’r genhadaeth honno. Rhannodd weledigaeth o efengyl a oedd yn berthnasol i bawb. Pwysleisiai bwysigrwydd estyn allan tu hwnt i gymdeithas yr eglwys, ac i gyd-weithio gyda’r enwadau eraill yn eu cenhadaeth ysbrydol ac yn eu gwasanaeth i’r gymdogaeth yn gyffredinol. Yn ei neges o ddiolch i’r gweinidog ar derfyn ei weinidogaeth yn Ararat, dywed Miss L Salmon, ysgrifennydd yr eglwys, am eu dyled iddo am ei weinidogaeth gyfoethog ac ymroddedig.

Yn 1958, roedd wedi derbyn cyfrifoldeb ysgrifennydd Cymanfa Bedyddwyr Saesneg Dwyrain Morgannwg gan borfi ei hun fel gweinyddwr diogel a medrus. Lledodd ei adnabyddiaeth o eglwysi Cymoedd Morgannwg, profiad a fu’n sylfaen dda iddo ymhen y rhawg. Bu’n ysgrifennydd am 13 blynedd, blynyddoedd a welodd gyfnewidiadau sylweddol, ond llwyddiannus ar yr un pryd. Arolygwr Bedyddwyr De Cymru ar yr adeg honno oedd y Parch Mathias Williams, a phan ymddeolodd yntau oherwydd afiechyd, tybiai pawb y byddai George Evans yn ei ddilyn yn y swydd, ac felly y bu. Cynhaliawyd y cyfarfod i’w neilltuo i’r swydd yng nghapel Ararat ar 16 Mehefin 1971, gyda’r Parchg David Russell, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Prydain ac Iwerddon yn gyfrifol am yr urddo ac yn pregethu. Cymro arall, sef y Parchg G. Henton Davies, Llywydd BUGB a offrymodd weddi’r urddo. Bu yn y swydd honno am ddeng mlynedd, nes ei ymddeoliad yn 1981, i’w olynu gan y Parchg Peter Gwilym Saunders. Nodwyd yn y Western Mail yn Awst 1981 bod yr eglwysi hyn wedi gweld dirywiad sylweddol, ond bellach wedi gweld cynnydd yn niferoedd aelodau’r eglwysi hyn. Cyfeiriwyd ato fel ‘bugail bugeiliaid’, ac roedd wedi rhoi llawer o egni ac amser i hyrwyddo hyder ym mywyd eglwysi’r tair Cymanfa oedd yn ffurfio, cylch o Fedyddwyr Saesneg yn Ne Cymru.

Yn y cyfnod hwn, datblygodd ei gysylltiad gyda’r coleg lle derbyniodd ei hyfforddiant, drwy wasanaethu ar ei bwyllgorau. Bu’n gyd-ysgrifennydd o 1950 hyd 1957, ac yn unig ysgrifennydd am bedair blynedd wedyn, pan dderbyniodd gyfrifoldeb yr is-gadeirydd. Yn 1968, apwyntiwyd ef yn gadeirydd prif bwyllgor y coleg. Gorfu iddo ildio’r cyfrifoldeb hwnnw yn 1974, gan fod pwysau’r swydd o Arolygwr wedi cynyddu. Yn y cyfnod 1977-79, bu’n llywydd Cyngor Eglwysi Cymru, a chofir amdano yn y cylch eang hwnnw fel arweinidd cadarn a bontiodd y gwahanol draddodiadau.

Bu gweinidogeth George Evans yn bont y cyfnodau ac yn sylfaen i’r eglwys a’r coleg edrych ymlaen i’r dyfodol. Llwyddodd hefyd i fod yn bont rhwng y Cymry a’r Saeson, ac roedd swyddogion BUGB yn llawn ymwybodol o’i ymrwymiad i fro ei eni. Llwyddodd i drosglwyddo gwedd gyfeillgar i’r Undeb yng Nghymru ac i werthfawrogi pwysigrwydd y Cyngor Eglwysi Rhyddion a’r eglwysi eraill megis yr Anglicaniaid a’r Catholigion. Roedd yn gymodwr wrth reddf, ac yn rhwydweithiwr ymdrechgar. Roedd, nid yn unig yn bregethwr cadarn a diogel, ond yn weinyddwr praff a chydwybodol. Byddai’n barod i gynnig arweiniad ar y naill law, ond hefyd yn sicrhau fod peirianwaith a gweinyddiad y cyrff eglwysig yn gweithio’n efffeithiol. Gwasanaethodd, heb fod yn wasaidd, arweiniodd heb fod yn un-ben. Ei waith oedd ei bleser a’i bleser oedd ei waith. Roedd yn ddarllenwr eang, a byddai’n cael blas ar lyfrau bywgraffyddol a hunagofiannol, yn arbennig am bobl gwleidyddol eu cefndir. Roedd hanes Cymru yn bwysig iddo a sylweddolai berthynas Cymru gyda’r byd lletach.

Ar ei ymddeoliad, dewisodd symud i fyw i ‘Clifton’, Dinas, a gweld ei deulu estyngedig yn gyson. Nodwyd eisoes fod y teulu yn bwysig iddo, a siom enfawr iddo oedd gweld y dirywiad yn iechyd ei ferch Dianne wrth iddi ddioddef Multiple Sclerosis. Roedd ganddo bump o wyrion sef Tomos, Dafydd, James, Elinor a David. Tystiolaeth ei blant yw iddo fod yn graig ym mhob tristwch a llawenydd. Felly hefyd ei deulu estynedig, gwasanaethodd ym mhriodasau nifer ohonynt, bedyddiodd amryw ac yn naturiol yn angladdau eraill. Bu farw’n sydyn o glefyd y galon ac yntau ond yn 67 mlwydd oed. Cynhaliwyd ei angladd yn Nhabor, Dinas, ac yna cynhaliwyd gwasanaeth arall i ddiolch am ei fywyd yn Ararat, Caerdydd. Cofir amdano fel pregethwr, proffwyd a phont, a fu’n driw i’w alwad a’i Arglwydd.

Cyfrannwyr:
Lynne Upsdell (merch)
Maureen John
Alwyn Daniels
Roy Jenkins
Denzil John.