Evans – Hugh (1887-1975)

Hugh Evans, Philadelphia, Hafod, Abertawe

Fel ‘Hugh Bach’ yr oedd ei gyd-weinidogion yn ei adnabod. Roedd yn anwylyn yr enwad yn ei ddydd. Yn ŵr bychan, main, o dan 5 troedfedd o daldra roedd yn fyr iawn ei olwg hefyd a gwisgai spectol trwchus, crwn a elwid yn ‘pebble glasses’ sef sbectol bach crwn ag ynddynt wydr trwchus iawn a chwyddai’r hyn yr edrychid arno i raddfa anhygoel. Er hynny, pan ddarllennai roedd ei drwyn o fewn i ychydig o fodfeddi o’r Beibl neu’r llyfr emynau. Fel yr Hen Weinidog yng ngherdd T. Rowland Hughes. ni ‘sgydwodd Gyrddau Mawr ar hyd y tir’ ond pan oedd yn bresennol mewn Cyrddau Mawr, gelwid arno i ‘ddechrau’r cwrdd’ ac roedd ei weddïau mewn llais gwichlyd ‘yn cydio’r llawr wrth y nefoedd.’

Gwisgai’n ‘bregethwrol’ bob amser. Byddai mewn crys gwyn a siwt – ni welais ef erioed yn gwisgo ond siwt dywyll – cot law ddu, a het Anthony Eden yn ei law neu ar ei ben. Dyna fel y gwisgai ar y stryd yn Harlesden wedi iddo symud i fyw i Lundain ar ôl ymddeol. Ardal amlhiliol oed Harlesden a safai allan pan gerddai ar y stryd yno.

Fe’i ganwyd yn Abernant, Aberdâr yn 1887. Gadawodd ysgol yn ddeuddeg oed a mynd i weithio yn y pwll glo. Colier ydoedd pan anogwyd ef i fynd i’r Weinidogaeth gan yr eglwys ym Methel, Abernant. Sylwodd yr eglwys ar ei ddoniau cyhoeddus a gwybodaeth uwch na’r cyffredin o’r ysgrythurau. Gadawodd y pwll yn 1909 a mynd i Ysgol Baratoi Pontypridd ond ni chafodd fynediad i Goleg yr enwad ym Mangor tan 1913 – yr un flwyddyn â Lewis Valentine ac mae’n siwr fod pobl wedi sylwi ar y gwahaniaeth yn eu maint cofforol! Priododd â Bronwen Richards, merch o Aberdâr a bu iddynt un mab, Selwyn. Pan adawodd y coleg yn 1916, cafodd alwad i Felin-gwm a Felin-wen yn sir Gaerfyrddin ac aros yno tan iddo symud i Philadelphia, Hafod, Abertawe yn 1921.

Treuliodd y deugain mlynedd nesaf tan ei ymddeoliad yn 1961 yn bugeilio’r eglwys honno ar gyrion Abertawe. Yn ogystal â gofalu am ei braidd, rhoes wasanaeth clodwiw i’w enwad. Ef oedd ysgrifennydd y pwyllgor fu’n gyfrifol am godi Cofadail Ilston ym Mro Gŵyr rhwng 1928 (y flwyddyn y’i dadorchuddiwyd gan David Lloyd George) a 1949. Bu hefyd yn Ysgrifennydd Cymanfa Gorllewin Morgannwg, 1931-1955, gan gael ei ethol yn Llywydd ar derfyn ei dymor fel ysgrifennydd.

Wedi ymddeol, arhosodd yn Abertawe tan iddo golli ei wraig yn 1965 ac yna symudodd i Harlesden yn Llundain i fod yn agos at ei fab, Selwyn. Mynychai Castle Street ond cadwodd ei aelodaeth yn Philadelphia. Gwyddai pan symudodd mor wan, bregus ac ansicr ei ddyfodol oedd yr achos yn Philadelffia a dewisodd gadw ei aelodaeth yno tra’i fod ef, a’r eglwys yno’n parhau.

Bu farw yn Llundain ar 5 Mawrth 1975. Roedd yn 88 mlwydd oed.

Cyfrannwr : D. Hugh Matthews