Evans – John Douglas (1913 – 1987)

Bydd rhai gweinidogion yn amlygu eu hunain drwy eu cyfraniadau llafar neu eu gwaith ysgrifenedig,. Bydd eraill yn llenwi swyddi amlwg yng ngweinyddiad yr enwad, ond bydd rhai yn gwneud eu cyfraniad yn dawel a di-ffws, fel na bydd llawer yn ymwybodol ohonynt.  Person felly oedd John Douglas Evans, a fu yn weinidog mewn un gofalaeth yn unig, sef Salem, Senghennydd a Beulah, Abertridwr, y ddau bentref yn yr un cwm, ychydig i’r gogledd o dref hynafol Caerffili.

Ganwyd Douglas ar aelwyd Daniel James Evans a’i briod Jessie Maud ar 2 Gorffennaf, 1913, ac roedd ganddo frawd a chwaer sef Wallis a Margaret (May). Arhosodd May i fyw yn y cwm, tra bod ei frawd Wallis wedi amlygu ei hun ym myd addysg, yn gweithio fel AEM a byw ym Mangor am ran sylweddol o’i oes. Magwyd hwy ym mhentref Abercwmboi ac addolai’r teulu yng nghapel Bethesda, pentref a adwaenid fel Cap Coch gan y trigolion lleol, nid nepell o Aberpennar.  Gweinidog yr eglwys yng nghyfnod llencyndod Douglas oedd y Parchg Arthur Llywelyn, un a fu’n amlwg iawn ym mywyd Cymanfa Dwyrain Morgannwg, am amser maith. Ar ôl gadael ysgol, bu Douglas yn gweithio mewn siop groser, ond ymgyflwynodd ei hun i fod yn weinidog gan gofrestru fel myfyriwr yng Ngholeg Myrddin a  Choleg y Presbyteriaid yng Nghaerfyrddin. Tra yno, cyfarfu â Miss Mary Griffiths o Gaerfyrddin, a hithau dwy flynedd yn hŷn na Douglas. Priodwyd hwy yn 1946 a ganwyd un ferch i’r briodas, sef Helen Patricia Evans. Symudodd Helen gyda’i theulu hithau flynyddoedd yn ddiweddarach, a byw yng Nghanada.

Ordeiniwyd Douglas yn weinidog yn Salem, Senghennydd yn Ionawr 1947, blwyddyn yr eira mawr, ac ymhen y rhawg, ychwanegwyd eglwys Beulah, Abertridwr at ei faes. Bu yn gweinidogaethu yng Nghwm yr Aber am 38 mlynedd, ac anwylyd ef gan aelodau’r eglwysi a thrigolion y fro.  Nid oedd ganddo gar, ond  roedd yn siwr o gael cludiant ar y bws neu gan aelodau’r eglwysi.  Ymwelai gyda’r aelwydydd yn ddi-feth, ac ystyrid ef yn fugail cydwybodol iawn.  Bu’n llywydd y Cwrdd Adran cylch Caerdydd, ond ni fu yn swyddog yn y Gymanfa.  Roedd yn fodlon i aros yn ei gymuned a bod yn gennad Crist yn y fro.  Roedd Senghennydd ac Abertridwr yn colli’r Gymraeg yn y cyfnod hwnnw, ond gweldd Douglas dro ar fyd pan agorwyd Ysgol Ifor Bach, yn un o Ysgolion Cynradd Cymraeg ei hiaith cynnar Sir Forgannwg. Roedd nifer o athrawon y fro yn aelodau yn ei eglwysi a bu yntau yn gaplan i’r maer ar un adeg.  Dyma’r cwm a welodd danchwa enfawr ym mlwyddyn geni Douglas, ac yn y cyfnod ar ôl y Ail Ryfel Byd, bu yn gweini ar y gymuned lle bu llawer o wragedd gweddwon yn dod i ddiwedd eu hoes ac i amryw o blant na chafodd y fraint o adnabod eu tadau.  Os oedd statws Caerdydd wedi cryfhau, roedd cwm diarffordd fel Cwm yr Aber yn dal i ddioddef diweithdra wrth i’r  pyllau lleol gau a llawer yn symud allan o’r cwm.  Aros wnaeth Douglas, yn cynnig cysur a gobaith Efengyl i gymdogaeth gyfan. Roedd yn ŵr urddasol a thrwsiadus, yn gyfforddus yn y Saesneg a’r Gymraeg, ac roedd ei wên ddireidus yn dangos fod hiwmor yn rhan o’i bersonoliaeth hefyd.

Am resymau teuluol, bu’n rhaid i’w briod aros i fyw yng Nghaerfyrddin, a byddai Douglas yn dychwelyd at ei deulu bob cyfle posibl. Yn 1985 ac yntau yn 72 mlwydd oed, penderfynnodd y dylai ymddeol o’r weinidogaeth a dychwelyd i fyw yn Nhrefechan, Caerfyrddin ac ymaelodi yn y Tabernacl,  mam-eglwys ei briod.  Tra roedd ei iechyd yn caniatau, bu’n pregethu yn eglwysi’r ardal honno, ond erbyn 1987 roedd wedi gwaelu a bu farw yn yr ysbyty leol ar ddydd cyntaf mis Mai, 1987.  Cynhaliwyd ei angladd yn y Tabernacl, Caerfyrddin dan arweiniad ei weinidog sef y Parchg Garfield Eynon. Bu’n ymgorfforiad o ddidwylledd y weinidogaeth, heb weld fawr ddim cydnabyddiaeth ariannol, ond profodd o gariad a chefnogaeth cymdogaeth gyfan.

Cyfrannwr:  Denzil Ieuan John