Elias – George (1917-2010)

George Elias

Anaml bydd grŵp o oedolion yn pwyso ar fachgen ifanc pymtheg oed i fod yn athro ysgol Sul arnynt, ond dyna  a ddigwyddodd yn Eglwys Beyddwyr y Star yn Llanfyrnach yn 1932.  Cafodd George Elias fagwraeth dda ar aelwyd grefyddol, ei dad yn ddiacon ffyddlon yn yr eglwys, a’i fam yn aelod gyda’r Methodistiaid yn eglwys Bwlchygroes.  Cafodd hithau brofiad helaeth o gyffroadau ysbrydol yn y diwygiad a bu’n addurn i’r eglwys a’r gymdogaeth.

Ganed George yn 1917 ym mwthyn y ‘Ship’ ym mhentref Star, gan fynychu’r ysgol gynradd leol nes roedd yn 14 oed a mynd i weithio fel gwas fferm.  Bu’r ysfa ynddo ers yn ifanc i gael pregethu a chafodd gefnogaeth gan ei fam eglwys a’i weinidog sef y Parchg Owen Ellis Roberts.  Derbyniodd hyfforddiant i baratoi i sefyll arholiad mynediad i Goleg Diwinyddol a chafodd ei dderbyn i Goleg Bangor yn mis Hydref 1946.  Bu’n fyfyriwr ymroddedig, ac yn ei flwyddyn olaf yno derbyniodd alwad oddi wrth eglwys Salem, Llandybie, a’i ordeinio yno ym mis Medi 1949.  Treuliodd saith mlynedd hapus yno, ac yn ystod y cyfnod hwn priododd Freda, merch ieuengaf y Parchg a Mrs Stephen Griffiths Rehoboth a Chlawddcoch, Castellnewydd Emlyn.  Ganwyd iddynt un mab, Rhydian sy’n byw a gweithio yn Llundain.

Yn 1957, symudodd i Seion, Sancler, ac yn 1970 ehangodd ei ofalaeth i gynnwys eglwysi y Bryn, Llangynin a Salem Meidrim. Cofir amdano yn y fro fel pregethwr cyson a bugail gofalus. Bedyddiodd naw o fewn tri mis o gael ei sefydlu yn Seion a byddai’n trefnu gwasanaethau i’r bobl ifanc gan eu hyfforddi i lefaru’n gyhoeddus er mwyn meithrin doniau yn yr eglwys. ‘Roedd ganddo hoffter mawr o ieuenctid yr eglwysi a mawr y boddhad i’r pedwar person ifanc o Sancler pan gwnaethant lwyddo i ennill tlws cwis Ysgrythurol Syr Ben Bowen Thomas. o dan drefniant Cyngor Ysgolion Sul Cymru ym mis Mai, ganol y chwedegau. Gwasanaethodd yno am bedair blynedd ar bymtheg.

Yn 1976 derbyniodd wahoddiad i weinidogaethu yn eglwysi Penyparc, Siloam, Ferwig a Blaenwennen.  Bu’n ffyddlon i’r Gair mewn pregeth a gwaith.  Ni fyddai’n mynd i’r pulpud heb baratoi ei bregethau yn ofalus a llwyr.  Roedd ganddo ddiddordeb  dwfn mewn pobl, bu’n ymwelydd cyson â chartrefi aelodau’r eglwysi. Gwnaeth ei orau i Gartref Glyn Nest hefyd a bu’n ysgrifennydd y Pwyllgor am gyfnod tra ym Mhenparc.  Bu’n llywydd Cymanfa Bedyddwyr Caerfyrddin a Cheredigion yn 1975 ac yn ysgrifennydd y Gymanfa rhwng 1976 a 1981.

Ymddeolodd yn 1982 a symud i fyw yng Ngorslas lle gwasanaethodd eglwysi’r cylch am ugain mlynedd.  Bu farw ar 1af o Hydref 2010 yn 93 mlwydd oed.

Cyfrannwr: Mrs Freda Elias (gweddw George Elias)

Taflen Eglwys  Penparc ar ymddeoliad George Elias.