Evans – Edward Colwyn (1845-1894)

Ganwyd Edward Colwyn Evans yn Hen Golwyn yn y flwyddyn 1845. Treuliodd ei flynyddoedd cynnar yn addoli gyda’r Annibynnwyr yng nghapel Ebeneser, Hen Golwyn, ond erbyn iddo droi’n bymtheg mlwydd oed, apeliodd ddaliadau’r Bedyddwyr ato. Dechreuodd addoli gyda’r Bedyddwyr yn Llanelian, ac ar y Sulgwyn 1860, bedyddiwyd ef yn yr afon yn ymyl ffynnon Elian, Llanelian gan y Parchg. J G Owen, Y Rhyl. Pan adeiladwyd capel i’r Bedyddwyr yn Hen Golwyn yn fuan ar ôl hynny, ymunodd â’r eglwys yno.

Symudodd i Lerpwl pan yn ifanc, ac yno daeth o dan ddylanwad y Parchg. Rees Evans, Stanlop Street. Wedi iddo synhwyro’r alwad i’r weinidogaeth, derbynwyd ef i athrofa Pontypwl, ac yno disgrifwyd ef fel myfyriwr llafurus, meddylgar ac addawol iawn.

Ym 1872 derbyniodd alwad i eglwys Ramoth, Hirwaun. Gwasanaethwyd yn y cyrddau ordeinio a sefydlu gan y Parchedigion J Lloyd, Merthyr; J Jones, Felinfoel; W Jenkins, Aberdar; W Harris, Heolyfelin; D Howells, Glasbury a Dr. Thomas, Llywydd Athrofa Pontypwl.

Dyblodd aelodaeth yr eglwys yn ystod y pedair blynedd cyntaf o’i weinidogaeth, ac yn ystod ei weinidogaeth a barodd am ugain mlynedd, bedyddiodd 298 o unigolion. Bu i’r Parchg. John Jones, Blaenllechau ei restru ymhlith enwogion pwlpud Cymru. Bu fyw i bregethu, gan gyfyngu ei hun yn hollol i waith y pwlpud. Ni chymerai ran flaenllaw o gwbwl yn ngwaith yr Ysgol Sul na chyrddau’r wythnos. Nid oedd yn ymwelwr mawr, a gŵr yr ychydig eiriau ydoedd pan yn nhai’r aelodau. Myfyriwr ydoedd, a bu felly ar hyd ei oes, gan roi ei fryd ar bregethu.

Oherwydd diffygion iechyd, bu’n rhaid iddo ymatal o’i ddyletswyddau ym mis Hydref 1891. Ar gais ei deulu, dychwelodd i Hen Golwyn er mwyn ymgryfhau ac erbyn 1892, roedd wedi gwella digon i dderbyn galwad i eglwys y Tabernacl, Bae Colwyn.

Tystiodd diaconiaid y Tabernacl iddo gwyno yn fynych am ei lesgedd a’i wendid cyn mynd i’r pwlpud, ond digwyddodd newidiadau rhyfedd iddo rhywle rhwng y sedd fawr a’r pwlpud, ac ymddangosai fel dyn arall a ymgollai yn llwyr yn ei bregeth.

Cwta dwy flynedd oedd cyfnod y Parchg. Edward Colwyn Evans yn y Tabernacl, gan iddo farw yn sydyn ar y traeth ym Mae Colwyn yng nhwmni ei briod ym mis Medi 1894. Bu farw yn 49 mlwydd oed gan adael priod galarus a dau o blant.

Gosodwyd maen coffa iddo yng nghapel Ramoth, Hirwaun tu ôl i’r pwlpud, er ei fod wedi gadael yr eglwys tair mlynedd cyn hynny; dynodai hynny cariad eglwys Ramoth at y gŵr mawr a da hwn.

Cyfrannwr: Marc Jon Williams

Ffynonnellau:

‘Bedyddwyr Cantref y Rhos’ T Frimstone

‘Hanes Ramoth Hirwaun’