Evans – Michael (1920 – 2001)

Ganed Michael Evans yng Nghapel Iwan, ger Castell Newydd Emlyn yn Sir Aberteifi ar aelwyd ei rieni, John a Pheobe Evans.  Yn hwyrach yn ei blentyndod symudodd y teulu i Bonhenri, Sir Gaerfyrddin, ac yno yng nghapel Bethesda y cafodd  ei fedyddio gan y Parchg W. J. Charles.

Yn dilyn addysg gynradd ac uwchradd yn yr ysgolion lleol, roedd yn gyfnod yr Ail Ryfel Byd, ac yn ystod y gyflafan honno ymunodd gyda’r fyddin, ano, cafodd ei niweidio’n wael, a’i adael mewn poenau cyson a ddioddefodd weddill ei oes.  Serch hynny, cafodd brofiad arbennig o Dduw, a theimlai ei fod yn cael ei gyferio i’r weinidogaeth. Trefnwyd iddo gael ei dderbyn yn fyfyriwr yng Ngholeg y Bedyddwyr, Caerdydd.  Yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr, y cyfarfu â’i briod Ruth, hithau wedi ei magu yn Abertyleri, (un â’i gwreiddiau yn Llundain), ond dysgodd digon o Gymraeg i ddilyn oedfa trwy gyfrwng yr iaith.

Yn dilyn y cyfnod llwyddiannus yno, derbyniodd wahoddiad Zion, Eglwys y Bedyddwyr yn Nglyn Ebwy, a’i sefydlu yno yn 1952.  Bu yno am pedair blynedd ar ddeg hyd iddo symud cymanfa a derbyn y cyfle i fod yn weinidog ar eglwys Bethany Treherbert, (1966-1969), eto gydag eglwys o Fedyddwyr Saesneg yng Ngogledd Cwm Rhondda.  Mae’n ddiddorol faint o Gymry Cymraeg oedd yn weinidogion ar eglwysi Saesneg yn y cyfnod hwnnw, ac yn sgwrsio gyda’i gilydd yn eu mam-iaith.  Efallai fod hyn yn awgrymu fod yr eglwysi Saesneg yn Gymreig eu hanian, er bod yr iaith wedi ei golli o’i gwefusau.  Roedd eu haelwyd yn ddwyieithog a ganwyd iddynt ddwy ferch sef Margaret a Mary, gyda Margaret yn feddyg ar un cyfnod yn Alder Hey, Lerpwl, a Mary yn gyfreithwraig yng Nghaerfyrddin.

Cyfnod byr fu yn Nhreherbert, a cam nesaf Michael oedd symud yn 1969 i ogledd Cwm Tâf ac ymsefydlu mewn dwy eglwys yn Nowlais, y naill, Beulah, eglwys a oedd yn aelod o Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr, a’r llall  Caersalem yn aelod o Gymanfa Dwyrain Morgannwg. Roedd Michael Evans gyda’r cyntaf i bontio’r ddwy Undeb, ac yn ail-gydio yn ei berthynas gyda’r eglwysi Cymraeg eu hiaith.  Tebyg iddo fod wedi pregethu mewn eglwysi Cymraeg eu hiaith ar hyd cyfnod ei weinidogeth, ac roedd yn Gymro twymgalon.  Datblygodd y berthynas rhwng y ddwy eglwys ac roedd atgofion Ralph Davies, gŵr ifanc a ddaeth i fod yn athro yng Nghaerdydd, yn sôn amdano’i hun yn cydweithio gyda Ruby Evans i sefydlu Clwb Ieuenctid a gynhwysai’r ifanc yn y ddwy eglwys, a byddent yn cynnal oedfaon i’r ifanc bob mis, ond yn y ddau gapel, bob yn ail fis.  Cofia Michael Evans fel pregethwr cryf a bugail annwyl.  Mewn llyfryn yn bwrw golwg fros hanes yr eglwys, adeg ei chanmlwyddiant, ysgrifennodd Mr Penry Bowen, un o ddiaconiad yr eglwys am Michael fel un a oedd wedi cael profiad ysbrydol dwys adeg y rhyfel “and the religious experience led to be a wonderful preacher”.  Cafodd Beulah ddau Gymro Cymraeg yn weinidogion yn Beulah cyn sefydlu Michael Evans yno, sef y Parch W. H. Davies (1939 – 49) a’r Parch Glanmor Jones (1952-54).  Roedd Michael yn gefnogwr brwd u’r Cyngor Eglwysi Rhyddion yn y dref gan bregethu yn ei dro yn y cyfarfodydd hynny.

Dychwelodd yn 1976 yn agosach at fro ei febyd, a gwasanaethu dwy eglwys yng Nghwm Gwendraeth, sef Bethel, Tymbl a Seilo Carwe.  Bu yno tan 1985, cyn ymddeol i Gorslas ac yna i’r Meinciau  hyd ei farw yn 2001.  Mwynheai ddarllen ar hyd ei oes, a byddai’n cario llyfr gydag erf ar ei deithiau cerdded mynych. Roedd wrth ei fodd yn garddio, a chodi llysiau o bob math. Bu’n selog i Gynhadledd mis Mai yr Undeb Saesneg, a phan ddaeth yn weinidog i’r eglwysi yn yr adran Gymraeg o U.B.C. byddai’n ffyddlon i’r cyfarfodydd hynny hefyd.   Cofir amdano fel pregethwr yn llawn o fwrlwm ei argyhoeddiad, ond bu cymylau’r profiadau erchyll a gafodd yn y gyflafan 1939-1945, yn fyw iddo ar hyd ei oes.

Cyfrannwr: Denzil Ieuan John