Edwards – Dafydd Henri (1936-2018)

Gellir hawlio bod Dafydd Henri Edwards yn eithriad ar lawer cyfrif, ac un ohonynt oedd iddo ysgrifennu hunangofiant a hynny ar ei draul ei hun.  Yn y cenedlaethau cynt, bu’n arfer i rywun lunio cofiant i’r gweinidog a byddai hwnnw’n cynnwys enghreifftiau o’i bregethau ac os digwydd bod y sawl a gofiwyd yn emynydd neu yn fardd, byddai enghreifftiau o’u gwaith yn ymddangos yn y llyfr.  Cyhoeddwyd ‘Lloches y Perthi’ flwyddyn cyn marw Dafydd, ac yn y gyfrol honno, dywed yntau am ei hun gan ddefnyddio’r un teitl i’r gyfrol ac a roddodd i’w anerchiad fel llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru yn Llandudoch ym 1998.   Cyhoeddodd lyfrau eraill yn ogystal, – yn ysgrifau, yn gerddi ac yn emynau.  Mwynhaodd lenyddiaeth a llenydda ac roedd geiriau yn llifo o’i enaid.  Roedd yn ei elfen hefyd ar lwyfan, boed fel pregethwr, adroddwr neu siaradwr gwadd.  Dyn pobl fu Dafydd ar hyd ei 83 mlynedd, yn gwmnïwr hwyliog a gweinidog gofalus o’i braidd. Bu’n gyfaill triw i bawb a’i hadnabu ac yn un o gymeriadau mwyaf amlwg y weinidogaeth yng Nghymru yn ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Yn ei hunangofiant, noda’n fanwl ei linach, gan ddathlu’r cysylltiadau gyda Ffair Rhos, yng ngogledd Ceredigion, a Blaenllechau yn y Rhondda Fach. Roedd ei dad, sef Henry Edwards yn fwynwr a thyddynnwr, ac yn ŵr gweddw gyda thri o blant – Evan Roderick, Rees ac Enid.  Bu farw Jane, mam y plant, yn ifanc, ac ail briododd Henry gyda Jane Ann, a ganwyd iddynt Dafydd yn 1936.  Erbyn hyn, roedd y tad yn 58 oed ac yn hŷn na’r oed arferol i fagu plentyn. Cafodd Dafydd blentyndod hapus ac ymfalchïai yn ei wreiddiau ym mro Elenydd, a chymuned Ffair Rhos.  Bedyddiwyd ef fel plentyn yn David Henry Edwards, ond ei ddewis oedd rhoi ffurf Gymreig i’w enw, ffurf a oedd yn fwy cydnaws gyda’i gymeriad gwerinol a chenedlaetholgar.

Teulu Presbyteraidd oedd y teulu hwn, ond drwy ddylanwad ei fam yn anghydweld gyda phenderfyniad cwrdd eglwys i gael gwared ar blac i gofio gweinidogion er mwyn creu lle ar y wal i goffau mam Syr David James, y miliwnydd o’r fro, symudodd Dafydd i Garmel, Pontrhydfendigaid.  Ail reswm Dafydd dros wneud hyn oedd bod gweinidog ifanc wedi ei ordeinio yno, sef y Parchg William John, brodor o Faenclochog, Sir Benfro, ac yn un a adawodd ei ôl yn drwm ar fywyd Dafydd Henri.  Pan ffarweliodd y gweinidog ifanc â Ffair Rhos, dilynwyd ef gan y Parchg J.J.Walters, un arall a ddylanwadodd yn drwm ar Dafydd ym more oes.

Bu cyfnod addysg Dafydd yn nodweddiadol o fechgyn y fro.  Ni fwynhaodd ei gyfnod yn yr ysgol, ar wahân i’r wedd gymdeithasol. Roedd yn Gymro uniaith Gymraeg, a bu’n rhaid iddo ymgodymu å’r iaith fain, er mwyn deall yr hyn a gyflwynid yn y dosbarthiadau. Byddai’n cerdded milltiroedd yn ddyddiol i’r Ysgol Gynradd ac yn ddiweddarach roedd angen dal bws i fynychu’r Ysgol Uwchradd yn Nhregaron.  Tra yn yr ysgol, synhwyrodd Dafydd yr alwad i’r weinidogaeth, ac yntau yn effro i’r presenoldeb dwyfol yn ei fywyd.  Dywed iddo bregethu am y tro cyntaf, ac yntau ond yn bymtheng mlwydd oed. Cafodd flas ar farddoni yn y cyfnod hwn hefyd, ac ni fu’n syndod o gwbl iddo gynnig ei hun yn ffurfiol i’r weinidogaeth Fedyddiedig, a chyrraedd Coleg Bedyddwyr Bangor ym 1954.  Yno cyfarfu â Hugh Matthews, myfyriwr o Gaersalem Newydd, Treboeth, Abertawe, a bu’r ddau yn cyd-letya am bedair blynedd, a pharhaodd y cyfeillgarwch agos weddill eu hoes.

Tra yn y coleg, dangosodd Dafydd lawer o allu fel areithiwr, ac roedd yn un o dim buddugol Coleg y Bedyddwyr mewn cystadleuaeth siarad cyhoeddus led-led Cymru.   Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Nolgellau ym 1960 am ei gyfrol ‘Cerddi’r Gadair’.  Datblygodd ei ddawn fel adroddwr, a mwynhaodd fywyd y myryriwr i’r eithaf.  Roedd yn berchen ar sawl car yn ystod y cyfnod hwnnw, ond prin eu bod yn ddibynadwy iawn, er nad  achosodd hynny llawer o ddiffyg cwsg i’r teithiwr talog chwaith. Wedi gadael Ffair Rhos, ble bynnag y teithia ar draws y byd, roedd ei wreiddiau yn ddwfn yn y ddaear honno.

Derbyniodd ei alwad gyntaf i fod yn weinidog yn Abercuch a Chilfowyr yng ngogledd Penfro, gan symud yno yn yr un cyfnod a Carl Williams, cyfaill coleg arall iddo.  Ar ei gyfaddefiad ei hun, cafodd sawl carwriaeth yn ystod ei gyfnod yn y coleg, ond ar ôl symud i mewn i’r mans yn Abercuch, syrthiodd mewn cariad gyda’r ferch oedd yn byw drws nesaf, ac ym 1963, priodwyd Dafydd ac Enid yn Ramoth, Abercuch. Roedd ar ben ei ddigon, ac ar ôl tair blynedd ar lannau’r Teifi, symudodd i Lanelli a chychwyn ar gyfnod hapus ym Methel, Glân-y-môr, gan fwynhau cyfnod byrlymus ynghanol cwmni o bobl ifanc dawnus yno.  Yn ystod y cyfnod hwn cafodd ef ac Enid ddau o blant, sef Elenydd ac Angharad. Datblygodd ei reddf i drefnu a pharatoi sgriptiau Sioeau Cerdd, gan brofi ei hun yn weinidog egnïol a phregethwr poblogaidd.  Yn ystod y cyfnod hwn, dechreuodd fagu diddordeb mewn teithio a bu’n drefnydd ymweliadau gyda Phalestina ar gyfer grwpiau o bobl.  Bu’n cydweithio gydag asiantaeth deithio, a rhannodd sawl hanesyn am bobl yn dod i weld ‘Gwlad yr Iesu’ am y tro cyntaf.  Er mai teithiau pleser oedd y rhain yn bennaf, gwelai Dafydd y gwaith fel ymestyniad o’i weinidogaeth i eraill.

Roedd gweinidogaeth nesaf Dafydd Henri yn golygu codi pac a symud i’r Tabernacl, Caerfyrddin.   Roedd yn barod am her arall, ac roedd un o eglwysi mwyaf niferus yr enwad yn awyddus am lais gwahanol ar ôl i’r hynafgwr addfwyn, sef y Parchg James Thomas ymddeol. Roedd y gwrthgyferbyniad rhwng y ddau yn amlwg,  er efallai nad oedd yr eglwys draddodiadol yn Waterloo Terrace yn barod i addasu ar y pryd i wedd hwyliog y gweinidog newydd.  Ymgasglodd sawl teulu ifanc yn yr eglwys, ond roedd yr hen drefn yn araf yn ildio i’r meddylfryd newydd a gynrychiolwyd gan Dafydd Henri Edwards. Tystia llawer iddo wneud gwaith da yn yr eglwys, ond roedd anian Dafydd ar y newydd a gwahanol, a daeth cyfle iddo ddychwelyd i Sir Benfro, i arwain y fenter gyda’r ifanc yng Nghanolfan Ieuenctid Langton ynghyd a bod yn ysgrifennydd Cymanfa Bedyddwyr Penfro.  Roedd ef ac Enid wedi cael trydydd plentyn, Gwenllian, erbyn hyn.  Ymaelododd yn Eglwys Hermon, Abergwaun, gyda’r Parchg Osborne Thomas, a chyfrannodd y teulu ifanc at weithgarwch yr eglwys yno. Bu’r cyfnod yn Langton yn ddifyr iawn gan drefnu cyrsiau ar gyfer ieuenctid yr eglwysi ac ar gyfer disgyblion ysgol.  Serch hynny roedd y profiad yn un caethiwys a gwyddai mai cyfnod cyfyngedig oedd hwn iddo. Roedd hefyd yn Ysgrifennydd y Gymanfa, ac nid oedd amgylchiadau Cymanfa Penfro yn esmwyth ar y pryd.  Bu tensiwn rhwng yr Adrannau Cymraeg a’r Adrannau di-Gymraeg, gyda Warden Langton yn y canol.  Collodd y ganolfan ei hapêl wedi i Dafydd adael, a bydd haneswyr y dyfodol yn debygol o gadarnhau na fu’r fenter mor llwyddiannus ac y gobeithiai swyddogion y Gymanfa. Gweithiodd y teulu cyfan gyda prosiect Langton, gydag Enid yn cadw’r gegin, y plant yn gweini a Dafydd yn brysur yn cadw trefn ar bawb.

Gwyddai Dafydd fod angen iddo ddychwelyd i’r weinidogaeth eglwysig, a chan ei fod wedi ymsefydlu ym Mhenfro, roedd gwahoddiad Eglwys Blaunwaun, ym mhentref Llandudoch yn ddatblygiad naturiol iddo.  Nid yn unig oedd yr hen eglwys yno’n falch o’i weinidogaeth, ond hefyd roedd eglwysi ei gylch cyntaf yn Ramoth a Chilfowyr yn ddiolchgar am ei arweiniad, ac ymhen y rhawg derbyniodd wahoddiad i fod yn weinidog yn Hermon, Star a Gelliwen.   Roedd y daith bregethu bob Sul yn hir, er ei fod yn ddigon cyfforddus gyda’r teithio hynny. Yn y cyfnod hwn, cynigiodd ei hun fel Cynghorydd Sir, a chael blas ar y gwasanaeth hwn.  Bu’n lladmerydd ffyddlon i’w etholwyr yng Ngogledd Penfro, a dod i ddeall y system wleidyddol yn dda.  Daeth yn ymwybodol o’r angen i brynu tŷ am y tro cyntaf, a daeth  cyfle i wneud hynny yn ystod y weinidogaeth hon. Erbyn i Dafydd ddod yn chwedeg pump oed, roedd yn credu bod yr amser wedi dod i ymddeol, a hynny a ddigwyddodd yn 2001.  Deallodd fod modd iddo gynnig ei hun i fynd i Batagonia fel gweinidog gwadd am chwe mis, a bu hynny’n brofiad arbennig iddo ef a’i briod.  Daeth i adnabod rhan arall o’r byd a chael cyfle i bregethu a llenydda ar yr un pryd.

 

Ar ôl dychwelyd i Gymru, roeddent wedi penderfynu symud i gyffiniau Caerdydd, a dewiswyd tŷ yn Radur. Pryderai na fyddai’n rhan o fwrlwm eglwys ond daeth eglwys Ainon, Ynyshir i ddeall am ei gynlluniau a threfnwyd ei fod yn ymaelodi yno a gwasanaethu fel gweinidog rhan-amser. Roedd y cylch yn gyflawn, gan fod ei fam yn enedigol o gymuned Blaenllechau ym mhen uchaf Rhondda Fach. Mwynhaodd bregethu mewn ardal gymharol ddieithr iddo, a chynrychiolodd Cymanfa Dwyrain Morgannwg fel cyswllt gyda’r grŵp gweinyddol yn yr eglwys gyd-enwadol ar ystâd Pen-rhys.

 

Oddi fewn i strwythur Undeb Bedyddwyr Cymru, gwasanaethodd Dafydd ar nifer o bwyllgorau, a hynny yn aml fel Ysgrifennydd neu Arolygwr Cymanfa. Mwynhaodd y wedd hon ar fywyd yr enwad, ac nid rhyfedd iddo gael ei ethol yn llywydd yn 1998 a thraddodi ei anerchiad ‘Lloches y Perthi’, o’r gadair ym mhulpud Bethseida.  Dywed yn ei hunangofiant i’r Parchg Wilfred Evans alw yn ei gartref a’i gymell i fynychu Ysgol Haf y gweinidogion, yn Cilgwyn i ddechrau ac yna yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Gwasanaethodd fel ysgrifennydd i’r Ysgol Haf am flynyddoedd a mwynhau’r bwrlwm yn y gymdeithas honno.  Soniai yn gyson iddo fynychu’r Ysgol bron yn ddi-dor ar hyd ei amser yn y weinidogaeth, ac roedd ei deyrngarwch yn nodweddu’r gorau yn y gymdeithas honno. Bu’n Arolygwr a Llywydd i’r Gymanfa hon, a chgael blas ar ddod i adnabod eglwysi’r cymoedd.

Gwedd arall ar fywyd Dafydd oedd ei ymroddiad i gyfrinfa’r Seiri Rhyddion.  Bu’n gwbl agored ynglŷn â’r mater, gan ddweud iddo brofi cyfeillgarwch gwerthfawr yn y gymuned honno.  Bu llawer yn ei feirniadu’n hallt, ond roedd yntau yn ganolog i’r modd y daeth llawer o bobl i dderbyn bod y Seiri Rhyddion yn cyflawni llawer o ddaioni, a bod Cristnogion fel Dafydd yn driw i’w Harglwydd, heb gyfaddawdu ffydd a chred. Cafodd gyfle i gyflawni swyddi dylanwadol a phwysig oddi fewn i’r gyfrinfa, er ni wnaeth wasgu ar unrhyw un i ymaelodi heb eu bod yn awyddus i wybod mwy ac i geisio aelodaeth.

Nodwyd eisoes bod gan Dafydd ac Enid, dri phlentyn, ac roedd ei ofal drostynt yn bwysig iddo.  Ymfalchïai mewn chwech o wyrion ac roeddent yn holl bwysig iddo, a braf oedd eu gweld yn llywio’r arch ar ddydd ei arwyl.   Gwerthfawrogai’r ffaith fod y tri phlentyn yn byw yn agos iddo yng nghylch Nghaerdydd.  Soniai yn gyson ei fod yn trysori ei briodas yn gymaint â dim, ac iddo sôn yn ‘Lloches y Perthi’, mai Enid oedd y lloches bwysicaf iddo.  Dewisodd gael ei amlosgi yn Amlosgfa Glyn Taf ym Mhontypridd am mai yno y claddwyd ei fam, ond gofynnodd bod ei lwch i’w hebrwng i Abaty Ystrad Fflur, i dir ei gyndadau.  Arweiniwyd ei angladd gan y Parchg Alwyn Daniel, ei fab yn y ffydd, gyda’i gyfaill gydol oes, sef y Parchg Hugh Matthews yn talu teyrnged hefyd.

Cyfrannwr:  Denzil Ieuan John

Gweithiau llenyddol Dafydd Henri Edwards.

Ogof Arthur – nofel 1980

Cyfaredd Cilfowyr – llyfryn hanes yr eglwys.

Pererindod o Gymru,

Llwybrau’r Paith  llyfr taith

O Ffair Rhos i Futaleufu   – cyfrol o farddoniaeth 2010

Lloches y Perthi   – hunangofiant a gyhoeddwyd ganddo yn 2017

Cyhoeddwyd nifer o’i gerddi mewn casgliadau amrywiol a chylchgronau enwadol a Chymreig.