Evans – William James Byron (1935 – 2000)

Ganwyd y Parchg. W. J. Byron Evans ar aelwyd ddefosiynol Mr a Mrs Arthur Evans, dau a fu’n deyrngar eithriadol i fywyd a thystiolaeth Salem Llangyfelach. Gweinidog Salem yn y cyfnod hwnnw oedd y Parchg Idwal Wyn Owen, brodor o Ynys Môn, ac yn bregethwr cydwybodol a bugail gofalus o’i braidd.   Dangosodd Byron dalentau arbennig fel llenor, cerddor a bardd tra roedd yn yr Ysgol Uwchradd, a pharhaodd i arfer y doniau hynny ar hyd ei weinidogaeth.  Ymdeimlodd â’r alwad fugeiliol pan yn ifanc, ac wedi derbyn cymeradwyaeth eglwys a Chymanfa,  a cafodd ei dderbyn i goleg yr enwad ym Mangor. Ar ôl tair blynedd yno, cafodd ei ordeinio yn eglwysi Colbren a Nantyffin, a phriododd gydag Anne merch o’r un pentref ag ef yn 1961.  Bu’r weinidogaeth hon yn brentisiaeth hyfryd iddo, a soniodd at yr eglwysi gydag anwyldeb yn gyson.

Ymhen ychydig flynyddoedd symudodd i Eglwys Blaenconin yn Sir Benfro fel olynydd i’r Parchg D. J. Michael a mwynhau saith blynedd hapus a llewyrchus yno. Ganwyd iddynt ddau fab, sef Geraint Wyn ac Owain Llyr. Yn ystod y cyfnod hwn gwelodd nifer dda o bobl ifanc yr eglwys yn ymroi i fwrlwm y teulu, ac yn eu plith Denzil John, a ddaeth maes o law yn weinidog ei hun. Un arall o blith yr eglwys hon oedd John Roberts, prifathro’r Ysgol Gynradd leol, a dewisodd yntau ymateb i’r alwad ddwyfol ac ymhen y rhawg, ddaeth yn weinidog yn eglwys Rhuama, Pen-y-Bont-ar Ogwr.  Bu’n symbylydd i nifer o wragedd a phobl ifanc i ddilyn cwrs Arholiad yr Ysgol Sul a chael canlyniadau arbennig iawn. Cyflwynodd brofiadau newydd i’w ffrindiau ifanc, a bu rhai ar wyliau Ysgol Haf y Gymdeithas Genhadol oherwydd ei anogaeth.

Roedd nifer o weinidogion ifanc arall yn y fro ar yr adeg honno, a sefydlwyd rhyngddynt Gymdeithas Hywel Dda, sef grŵp ehangach a geisiai hyrwyddo gwerthoedd Cristnogol yn y bobl ifanc hyn.  Rhyfeddod arall a nodweddodd ei fywyd oedd ei fod yn academydd naturiol a derbyniodd rad allannol o Brifysgol Llundain mewn Athroniaeth.  Ynghanol popeth arall roedd yn medru cyflawni gwaith ysgrifennu yn hawdd.  Gwahoddwyd ef i lunio gwersi’r Ysgol Sul ar gyfer Seren Cymru, a dywedodd yr Athro Eirwyn Morgan, golygydd Seren Cymru ar y pryd, mai cyfraniad Byron oedd yr unig un a ddaeth i’w law yn un casgliad cyfan.  Unwaith roedd wedi ymroi i wneud, byddai’r athrylith hwn yn llunio gwaith gwerthfawr.

Roedd Byron ei hun a diddordeb mewn bod yn Gynghorydd Sir, a chafodd ei ethol i gynrychioli dros yr ardal lle roedd yn gwasanaethu.  Dengys hyn ei afael ar weledigaeth eang a pherthnasu ei ymroddiad i weinidogaeth eangach.  Roedd gweinidogion eraill yn yr ardal wedi bod Gynghorwyr Sir ac yn ddylanwad ar weinidog Blaenconin, megis y Parchg Mathias Davies, Horeb, Maenclochog a’r Gelli, a’r Parchg William Harry, Ffynnon. Roedd ei allu yn amlwg thybiai pawb y byddai yn un o broffwydi ei ddydd.  Eto, byr fu ei arhosiad ym mro Waldo, a derbyniodd wahoddiad eglwys hynafol Aberduar, Llanybydder,  i fod yn weinidog yn Nyffryn Teifi.

Yn Llanybydder, enillodd ei blwyf yn fuan ymhlith trigolion y fro.  Roedd yn feddyliwr praff ac yn siaradwr cyhoeddus effeithiol iawn. Bu’n ddylanwad da ar y bobl ifanc yn ardal Llanybydder hefyd, ac ymhlith yr ifanc yno roedd Eirian Wyn Lewis, un a ymgeisiodd am y weinidogaeth, ac ar ôl cyfnod o hyfforddiant yng Ngholeg y Bedyddwyr ym Mangor, sydd wedi treulio oes gyfan yn ardal y Preselau.

Cam gyrfaol nesaf Byron oedd ceisio swydd i fod yn gynrychiolydd y Feibl Gymdeithas yng Nghymru.  Y prif swyddog ar y pryd oedd y Parchg T.J.Davies, ac roedd y ddau yn meddu ar ddoniau tebyg i’w gilydd, ac yn ffrindiau da,  Symudodd y teulu i fyw yng Nghasllwchwr, gan  ymaelodiyn eglwys Penuel.  Roedd y swydd hon yn lledu cysylltiadau Byron a daeth i wasanaethu’r eglwys ehangach drwy gyfrwng y Gymdeithas.  Roedd y teithio hyn wrth ei fodd a gwelodd y Feibl Gymdeithas ddoniau arbennig ynddo a derbyniodd wahoddiad ganddynt i weithio ym mhencadlys y Feibl Gymdeithas yn Swindon.  Symudodd i fyw yno ac ymaelododd y teulu yn  Eglwys Heol y Castell, Llundain. Pan adawodd y Parchg Hugh Matthews i weithio yng ngholeg yr Enwad yng Nghaerdydd, gwelodd yr eglwys yn dda i wahodd  Byron yn weinidog iddi.  Roedd ganddo weledigaeth am weinidogaeth gyd-enwadol yn Llundain, a daeth Seion, Ealing, i rannu’r weinidogaeth.  Bu yn fawr ei barch ymhlith eglwysi Llundain hyd ei ymddeoliad.

Roedd yn enaid aflonydd, ac yn ymwrthod â’r cyfle i fwrw gwreiddiau parhaol mewn unrhyw faes.  Er ei fod yn gwmnïwr hynaws ac yn ffrind da i laweroedd, roedd yn chwilio am lecyn tawel a phreifat iddo’i hun.  Roedd iddo salwch na sylweddolai eraill amdano a brwydrodd Byron yn galed yn erbyn y gofidiau hyn. Ar hyd y daith bu Ann yn gefn doeth iddo, ac yn gymar teilwng,  ond ymneilltuodd i’w ystafell ddirgel ei hun i geisio’r golau o’r newydd.

O holl ddoniai Byron, roedd yn bregethwr effeithiol a gafaelgar. Nid oedd iddo arddull flodeuog, ac ni fyddai’n hoff o bregethwyr dramatig.  Nid oedd yn or-hoff o hiwmor i lenwi bylchau ond roedd ei ddadansoddiad o’i destun yn berthasol a chyfoes, a’i argyhoeddiad ei hun yn dod trwodd yn y traddodi. Os oedd modd iddo ddefnyddio pum gair yn lle deg, pum gair fyddai.  Roedd yn draddodwr clir, cymen a chadarn ac yn batrwm i bob cennad.  Codwyd pump i’r weinidogaeth o dan ei ofal, gan gynnwys ei fab Owain Llyr Evans. Y pedwar arall oedd Denzil John, John Roberts, Tecwyn Ifan, (mab i ewythr Byron, sef y Parchg Vincent Evans) ac Eirian Wyn Lewis.  Cynhaliwyd oedfa luosog ym Mhenuel,  Rhosllanerchrugog i ddiolch am ei fywyd ac i gydymdeimlo gyda’i deulu.

Cyfrannwr: Denzil Ieuan John.