
Mae costau ynni gwresogi adeiladau capeli mawr gwag gyda’u hen systemau gwresogi aneffeithlon yn mynd i godi’n sylweddol ac efallai y bydd yr un cwestiynau hynny yn dychwelyd; sut mae parhau i gyfarfod?

‘Doeddwn i ddim yn edrych i adael y gwaith yma’ meddai Rosa dros goffi mewn caffi ym mhentre Nhonteg ar gyrion Caerdydd. ‘Roeddwn wedi rhyw ddisgwyl yr arhoswn yma nes i mi ymddeol, a dyma lle dyn ni’n byw fel teulu – rydyn ni’n teimlo fel rhan o’r gymuned.’ Ond roedd Duw yn agor drws arall…

Capel traddodiadol Cymreig oedd Salem, Tonteg. Roedd oedfaon bob Sul a byddai’r chwiorydd yn cwrdd unwaith y mis. Mewn degawd, mae Duw wedi trawsnewid hynny’n llwyr, ac mae bwyd a lletygarwch wedi bod wrth graidd y peth….

Y rheswm pam i ni fod â heddwch wrth gael gwared a’r oedfa hwyrol oedd ein bod yn medru clirio noson yn y dyddiadur er mwyn gwneud rhywbeth gwahanol a newydd…

Yn swatio mewn dyffryn cul ar ffin Cymru/ Lloegr mae gan dref Trefyclo boblogaeth o ryw 3000 o eneidiau, ac ymhellach i fyny’r un cwm

Roedden nhw’n gallu gweld y ffordd roedd pethau’n mynd, a’r perygl y byddai’r capeli i gyd yn cau o un i un o barhau ar y trywydd presennol…

Pentre bychan digon nodweddiadol o gymoedd y de yw Cwmcarn, yn nythu yng Nglyn Ebwy o dan gopa amlwg Twmbarlwm. Mae gan y pentref ysgol

Rydym yn lansio cylchlythyr e-bost newydd sy’n agored i unrhywun i’w dderbyn. Bydd ‘pigion y mis’ yn dod allan yn fisol ac yn cynnwys straeon

“Roedd hi’n bleser mynd i’r dyfroedd oer ar y diwrnod arbennig hwn, er mwyn bedyddio ffrind a chyd-Gristion. Anffyddiwr oedd Dominic ar un adeg…”

Mae gan eglwysi heddiw y cyfle gorau ers yr Ail Ryfel Byd i ddod â gobaith i bobl sydd wedi eu hysgwyd gan y pandemig