Cenhadu trwy’r adeiladau yn Llangefni

Mae Ieuan Wyn Jones yn adnabyddus fel cyn-Ddirprwy Brif Weinidog Cymru tan 2011, ond llai adnabyddus yw ei weithgarwch ef a chriw o bobl leol eraill yn ardal Llangefni gyda chapeli’r dre – yn agor cwys newydd i’w dyfodol. 

‘Roedd pump o gapeli anghydffurfiol yma yn Llangefni yn draddodiadol’, meddai Ieuan, ‘ond fel mewn sawl rhan o Gymru, edwino’n raddol oedd yr hanes.’ Pan gaeodd capel Ebeneser y Wesle rhyw ddeng mlynedd yn ôl, dechreuodd e a nifer yn yr ardal ddechrau meddwl am y dyfodol. Roedden nhw’n gallu gweld y ffordd roedd pethau’n mynd, a’r perygl y byddai’r capeli i gyd yn cau o un i un o barhau ar y trywydd presennol. ‘Ac at hynny, roedd hi wedi dod yn sefyllfa weddol druenus o ystyried bod yr adeiladau hyn wedi eu codi ar gyfer gweithgarwch gydol yr wythnos, ond eu bod nhw bellach yn cael eu defnyddio am ryw ddwyawr yn unig ar y Sul’, ychwanega. 

Ieuan Wyn Jones, o gapel Penuel Llangefni

Yr oedd y Bedyddwyr a’r Annibynwyr yn y dref yn cyd-addoli ers rai blynyddoedd, ac yna agorwyd trafodaethau gyda enwadau eraill. Roedden nhw am estyn allan – roedd cymaint o grwpiau anghenus yn y dref a chyfle o uno i wneud rhywbeth newydd a gwneud yr eglwys yn fwy perthnasol i’r gymuned. O ystyried adeiladau’r gwahanol gapeli-a hyd yn oed ystyried adeilad newydd penderfynwyd mai safle Moreia’r Presbyteriaid oedd fwya addas i’w haddasu at anghenion cymunedol.  

Bu ymgyrch i godi arian ac o dipyn i beth daeth yr incwm angenrheidiol o sawl cyfeiriad, gan gynnwys gwerthu adeilad Penuel y Bedyddwyr. A nawr yng ngwanwyn 2022 mae’r gwaith o newid adeilad Moreia i fod yn ganolfan aml-ddefnydd – Canolfan Glanhwfa – yn mynd rhagddo. 

‘Mae gyda ni dri phartner eisioes sydd am ddefnyddio’r adeilad yn ystod yr wythnos,’ esbonia Ieuan. ‘Age Cymru (Gwynedd a Môn) fydd yn rhedeg canolfan dydd i bobl hŷn , Bwyd Da Môn sydd am redeg clwb cinio yn darparu bwyd ffres i bobl ar incwm isel a gwersi coginio, ac yna Tŷ Cana, fydd yn defnyddio’r gofod ar gyfer gwaith cerddorol gyda phobl ifanc. Felly bydd yna weithgarwch parhaus yma!’ 

Ond mae’n awyddus i esbonio bod yr eglwysi’n frwd i sicrhau nad canolfan gymunedol yn unig fydd hon; ‘mae’r ochr genhadol yn bwysig iawn i ni. Bydd Canolfan Glanhwfa yn gwasanaethu’r gymuned ond dan ni fel eglwys eisiau i’r adeilad yma ar ei newydd wedd fod yn fodd i bontio rhwng y capel a’r gymuned mewn ffordd doedd yr hen adeiladau ddim yn caniatau. Mae gynnon ni eisoes wasanaeth i blant rhyw unwaith y mis sydd yn fwy anffurfiol, a dan ni wedi gweld ffrwyth o hynny. Y gobaith yw bydd hyn yn agor ffordd newydd, arloesol a gwahanol i ni fel eglwysi anghydffurfiol yn ein cymunedau.’ 

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »