Dathlu bedydd yn nhonnau’r môr!

Byddai’r teuluoedd oedd yn crwydro ar hyd glan y môr yn Amroth ar ddydd Sul heulog ym mis Tachwedd wedi bod yn dystion i olygfa anghyffredin. Nid yn unig yr oedd dau ddyn yn sefyll yn y môr yn eu holl ddillad, ond aeth un ohonynt ymlaen i drochi’r llall o dan y tonnau, i sŵn clapio a gweiddi o du grŵp mawr yn sefyll ar y tywod. Yr esboniad? Roedd Dominic Lemoine yn cael ei fedyddio o flaen eglwys Penuel, Caerfyrddin. Dyma Aron Treharne, y gweinidog ym Mhenuel, yn esbonio ymhellach:

“Roedd hi’n bleser mynd i’r dyfroedd oer ar y diwrnod arbennig hwn, er mwyn bedyddio ffrind a chyd-Gristion. Roedd Dominic yn anffyddiwr ar un adeg, a byddai’n chwerthin yn eich wyneb pe byddech yn awgrymu bod Duw. Ond defnyddiodd Duw y rhyngrwyd (o bob peth!) i agor llygaid Dominic i wirionedd yr Efengyl, i realiti Iesu, ac i’w angen am Iesu fel Gwaredwr. Dyma’r trawsnewidiad a brofodd Dominic, a dyma a arweiniodd at gael bod yn Amroth ar y diwrnod penodol hwnnw! Roedd Duw wedi gwneud gwaith achubol mawr yn ei fywyd, a nawr roedd yn bryd mynegi’r gwaith hwn yr oedd Iesu wedi’i wneud yn gyhoeddus i’r byd.”

“Pan fydd rhywun yn cael ei fedyddio, nid yw’n ei wneud yn Gristion, nid yw’n eich gwneud yn berson gwahanol, ac yn sicr does dim byd yn arbennig yn y dŵr. Mae bedydd yn bwysig am ddau reswm. Yn gyntaf, mae Iesu’n gorchymyn ein bod yn ei wneud yn dilyn ein tröedigaeth, ac felly dylem ufuddhau. Yn ail, dyma ffordd Crist o’n galluogi a’n helpu i ddatgan yn gyhoeddus y gwaith y mae wedi’i wneud yn ein calonnau. Weithiau mae’n gallu bod yn anodd mynegi a dangos a dweud beth sydd wedi digwydd, ond mae bedydd yn ddarlun clir fod Cristion wedi marw i’r hen hunan wrth iddyn nhw fynd i mewn i’r dŵr, a bod y person bellach wedi ei godi i fywyd newydd yn Iesu Grist, wrth iddyn nhw ddod yn ôl i fyny! Dyma ystyr cael ein geni o’r newydd. Dwi’n moli Duw am y gwaith y mae wedi’i wneud ym mywyd Dominic, ac yn gweddïo y gallai llawer mwy ddod i brofi grym achub Duw yn eu bywydau eu hunain!”

Fel Bedyddwyr, rydym yn credu mewn Bedydd drwy drochi pan fydd crediniwr yn penderfynu gwneud ymrwymiad cyhoeddus o ffydd yn yr Arglwydd Iesu. Ymunwch â ni i weddïo dros Dominic a’i eglwys, Penuel,  wrth iddynt dystio i Iesu a’r newyddion da yn eu rhan nhw o Gymru.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2025 – Llundain

Ar gael bellach mae ffurflen gofrestru i fynychu cyfarfodydd blynyddol Adran Gymraeg UBC yn Llundain, ar wahoddiad Eglwys Gymraeg Canol Llundain, gan gynnwys Eglwys Fedyddiedig Castle Street…

Darllen mwy »

Casglu Pobl Ifanc Ynghyd

“Roedd criw o eglwysi gyda ni ar draws Cymanfa Bedyddwyr Gwent oedd â rhai pobl ifanc yn mynychu neu o leia yn gyfarwydd i’r eglwys – ond doedd yr eglwysi ddim o reidrwydd yn gallu cynnal gweinidogaeth pobl ifanc eu hunain…”

Darllen mwy »