Galw Rosa i weinidogaeth y Tabernacl, Caerdydd 

‘Doeddwn i ddim yn edrych i adael y gwaith yma’ meddai Rosa dros goffi mewn caffi ym mhentre Nhonteg ar gyrion Caerdydd. ‘Roeddwn wedi rhyw ddisgwyl yr arhoswn yma nes i mi ymddeol, a dyma lle dyn ni’n byw fel teulu – rydyn ni’n teimlo fel rhan o’r gymuned.’ Ond roedd Duw yn agor drws arall a hynny yn y lle cynta trwy ddathliadau deuganmlwyddiant capel yng nghanol y ddinas. 

Galw 

Cafodd Rosa wahoddiad i bregethu ar ddiwedd 2021 fel rhan o’r dathliadau yn y Tabernacl, Caerdydd a dyma hi’n penderfynu gofyn i’r gynulleidfa sut fath o eglwys fyddai yno ymhen can mlynedd arall? Ond ar ôl hynny fe gysylltodd Rhys ab Owen, un o’r diaconiaid, a gofyn iddi a fyddai’n fodlon cwrdd â’r swyddogion am sgwrs. Roedd yr eglwys eisiau gwneud mwy i gyrraedd y gymuned, yn chwilio am weinidog newydd ac eisiau barn Rosa yn sgil y gwaith yn Nhonteg. 

‘Roeddwn i’n hapus i gael sgwrs gyda nhw, wrth gwrs; ond i mi doedd dim mwy na hynny i’r peth. Ond pan oeddwn i yno yn gwrando arnyn nhw, dyma fi’n teimlo Duw yn corddi rhywbeth ynof fi – pam na allwn fynd atyn nhw fel gweinidog?’ 

Daeth cyfarfod arall, a hefyd breuddwyd annisgwyl i Rosa a oedd fel petai’n cadarnhau’r ymdeimlad cynyddol y byddai’n iawn iddi adael Salem. ‘Ac roedd cwestiynau’r diaconiaid yn Tabernacl mor dda pan gyrddais â nhw! Pawb yn amlwg eisiau dirnad arweiniad Duw, ac yn pwysleisio bod rhaid i’r eglwys wasanaethu’r bobl o gwmpas yn nerth yr efengyl ac nid jest gweithredu fel clwb cymdeithasol – er mod i’n gwerthfawrogi’r ffaith eu bod nhw’n caru ac yn mwynhau cwmni ei gilydd!’ Dilynwyd y broses gan gynnwys pregethau i brofi galwad, ac erbyn y bleidlais roedd Rosa’n gobeithio y byddai’r eglwys yn ei galw. Roedd clywed mai unfrydol oedd y canlyniad fel petai’n arwydd clir arall o arweiniad Duw yn y mater. Fel meddai Rhys ab Owen, un o ddiaconiaid yr eglwys, ‘’Rydym wrth ein bod bod Duw wedi arwain Rosa i fod y 11eg gweinidog ar y Tabernacl. Mae’r gynulleidfa gyfan yn edrych ymlaen at bennod newydd cyffrous.’  

Mentro 

Beth fyddai’r her fwya, gofynnom iddi dros goffi. ‘Wel, er fy mod wedi dysgu’r Gymraeg ac wedi gwasanaethu fel gweinidog ar gapel Cymraeg, mae yna bethau am y diwylliant dwi ddim wedi deall eto! Ac mae cwestiwn yr iaith yn un fawr i eglwys fel Tabernacl yng nghanol dinas Caerdydd. Sut gallwn gyrraedd cymunedau’r ddinas trwy’r ffaith ein bod yn eglwys Gymraeg ein hiaith?’ 

Mae’n pwysleisio mai rhywbeth i’r eglwys i weddïo iddo a dirnad gyda’i gilydd fydd y weledigaeth ar gyfer y ffordd ymlaen. ‘Ond mae yna lawer o botensial o ran ein lleoliad yng nghanol y ddinas, a’r anghenion sydd yno. Does dim un eglwys anghydffurfiol arall yn y canol erbyn hyn o blith yr enwadau i gyd. Felly oes ffordd i ni gadw’r drysau ar agor trwy’r wythnos? Cynnig rhywbeth gwahanol iawn – noddfa dawel yng nghanol prysurdeb y ddinas, a gwahodd pobl i weddïo?’ Beth bynnag am y ganrif i ddod, mae blynyddoedd nesa Tabernacl yr Ais yn llawn potensial. Boed bendith Duw ar y gwaith! 

Bydd gwasanaeth sefydlu Rosa Hunt fel gweinidog Tabernacl, Caerdydd yn cymryd lle ar ddydd Sadwrn 17 Medi am 3yp. Croeso i bawb. 

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »