Mae gan eglwysi heddiw y cyfle gorau ers yr Ail Ryfel Byd i ddod â gobaith i bobl sydd wedi eu hysgwyd gan y pandemig Coronafeirws drwy ddweud wrthynt am gariad Iesu.
Dyna un o negeseuon canolog y Parch. Gavin Calver, Prif Swyddog Gweithredol y Gynghrair Efengylaidd, a oedd yn siaradwr gwadd yng nghyfarfod cyngor yr Hydref Cymanfa Bedyddwyr Gwent ar 30fed Medi.
Dywedodd Gavin fod y niferoedd mewn oedfaon eglwysi yn y DU yn syth ar ôl y rhyfel yn anferthol ond iddynt disgyn wedyn yn ôl i’r lefelau welwyd cyn y rhyfel. Pam? Roedd y byd yn chwilio am obaith ond roedd yr eglwys eisiau dychwelyd i’r hyn oedd yn gyfarwydd. Treuliodd ormod o amser ac egni yn gofalu amdani’i hun ac yn dychwelyd i’w hen arferion. Erbyn iddi fod yn barod i estyn allan i’r sawl a oedd wedi bod yn chwilio’n daer am obaith, roedden nhw wedi dod dros y peth ac wedi symud ymlaen.
“Rwy’n credu mai’r tymor rydyn ni ynddo nawr yw’r agosaf i hynny ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Dwi ddim yn cymharu Covid â rhyfel byd ond mae pobl yn dal i chwilio’n daer am obaith yn eu bywydau. Mae’n debyg na fyddant yn dod i’n hadeiladau felly mae’n rhaid i ni fynd allan i’n cymunedau a dangos cariad Iesu gyda gweithredoedd o garedigrwydd a thosturi,” parhaodd Gavin. . “Yn fy marn i, fyddwn ni fyth, byth yn cael y cyfle gwych hwn eto.”
Geoff Champion, Ysgrifennydd Cymanfa Gwent