Un o’r penderfyniadau mwyaf anodd y mae’n rhaid i unrhyw grŵp bach o aelodau ei wneud yw dirnad a yw’r amser wedi dod i gau’r capel. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae Covid-19 wedi taro llawer o’n heglwysi’n galed ac wedi amharu ar batrymau addoli. Mae rhai wedi dysgu am gwrdd dros Zoom, cau’r capel dros dro, cwrdd tu allan, eistedd 2 fetr ar wahân (er bod Bedyddwyr wedi bod yn gwneud hyn ers blynyddoedd!), peidio â chanu, canu gyda mygydau, peidio â chymryd casgliad ac ati. Mae hynny’n lot o newid i bobl sydd ddim yn hoffi newid!
Yna mae’r cyllid. Mae’r uchod i gyd wedi dod â phwysau ariannol ychwanegol ac mae’n ymddangos yn debygol o fynd yn anoddach fyth y gaeaf hwn. Mae costau ynni gwresogi adeiladau capeli mawr gwag gyda’u hen systemau gwresogi aneffeithlon yn mynd i godi’n sylweddol ac efallai y bydd yr un cwestiynau hynny yn dychwelyd; sut mae parhau i gyfarfod?
Efallai bydd rhai yn penderfynu dweud y byddwn ni’n rhoi blancedi allan yn lle mygydau wrth y drws! Ond mae mesurau ymarferol y gallwn eu cymryd a all helpu:
- Cwrdd yn y festri
- Cwrdd mewn tai/ caffi/ gofod cymunedol arall
- Cymryd darlleniadau meter cyn Hydref 1af
- Gofyn i’r cwmni ynni am ragfynegiad o’ch bil dros y gaeaf
- Ystyried cwrdd gydag eglwysi eraill lleol er mwyn lleihau’r costau
Er y byddai’n hawdd teimlo bod hyn i gyd yn ormod, efallai bod yr argyfwng ynni hwn yn gyfle arall i ail-ddychmygu a chofio’r ffordd y mae gan Fedyddwyr fel anghydffurfwyr y rhyddid i wneud eglwys. Byddai eglwysi’r Testament Newydd yn cyfarfod mewn cartrefi ac ar aelwydydd. Fe gasglen nhw o gwmpas byrddau ar gyfer cymdeithas a bwyd, gan dorri bara a rhannu eu bywydau. Daethon nhw o hyd i ffyrdd o addoli o gwmpas yr Ysgrythur, gweddïau, caneuon – fel yr arweiniodd yr Ysbryd. Llawer o leisiau, nid un yn unig.
Fel Bedyddwyr rydym yn rhannu’r credoau hyn:
- Yr eglwys yw pobl Dduw, nid yr adeilad.
- Yr eglwys wedi ymgynnull– hyd yn oed gyda ‘dau neu dri’ mae Iesu wedi addo y bydd yn bresenol.
- Yn eglwys sy’n addoli – gall hynny fod yn amgen na brechdan emyn / gweddi!
- Eglwys o gydiweinidogion lle mae pob un ohonom yn cael ein galw i wasanaethu.
Mae’n werth nodi bod yr eglwys fwyaf yn y byd heddiw yn Tsieina. Mewn gwlad lle mae rhyddid crefyddol yn cael ei gyfyngu i raddau mwy nag unrhyw beth rydyn ni wedi’i brofi, mae’r eglwys hon nid yn unig wedi goroesi ond wedi tyfu (yn ôl amcangyfrifon diweddar mae tua 100 miliwn o gredinwyr – 22 miliwn yn fwy yn y degawd diwethaf). Mae’r rhan fwyaf o’r eglwysi hyn yn cwrdd mewn cartrefi a chynulliadau bach – a does dim rhaid felly delio â chostau gwresogi hen adeiladau mawr, ond gallant ganolbwyntio ar y prif beth yn lle.
Yn ystod y cwrs ‘Darganfod’ eleni fe’m trawyd gan frawddeg yn y llyfr yr oeddem yn ei ddilyn gan David Fitch o’r enw ‘Faithful Presence’ – ‘Wrth i’r hen fyd Cristnogol ildio ei le a’r hen ffyrdd fethu â dod ag aelodau newydd i mewn i’r eglwys, a’n hadnoddau ar gyfer gwneud daioni yn y byd yn lleihau, nid oes gennym ddewis ond arwain ein cymunedau i fod yn bresennol i Grist ym mhob cylch o’n bywydau. Does gennym ni ddim dewis ond ymarfer ei Deyrnas fel ffordd gyfan o fyw.’ (t.183). Os yw’r ddwy flynedd ddiwethaf hyn wedi dysgu unrhyw beth i ni, mae wedi ein hannog i feddwl pam mae cyfarfod fel yr eglwys yn dal i fod yn bwysig a sut y gallwn ni fod yn eglwys heddiw. Os nad yw’r ffordd rydyn ni wedi bod yn gwneud eglwys wedi helpu aelodau newydd i ddarganfod Iesu – efallai ei bod hi’n bryd meddwl eto am y ffordd rydyn ni’n gwneud eglwys? Mae bob amser yn drist pan fydd yn rhaid i gapel ystyried cau ond hir y parhao’r eglwys.
Simeon Baker, Cyfarwyddwr Cenhadaeth