Hanes y prosiect amhosib yn Nhonteg

Yn 2012 capel traddodiadol Cymreig oedd Salem, Tonteg. Roedd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio bob wythnos ar gyfer oedfaon y Sul, a byddai’r chwiorydd hefyd yn cwrdd unwaith y mis. Mewn degawd, mae Duw wedi trawsnewid hynny’n llwyr, ac mae bwyd a lletygarwch wedi bod wrth graidd y peth. 

‘Roeddwn i wedi bod yn weinidog Salem am ryw bedair blynedd’, esboniodd Rosa Hunt, sydd hefyd yn byw yn y gymuned, ‘ac roedden ni fel arweinwyr yr eglwys yn ymwybodol o’r angen i ni dyfu mewn gweddi. Dyma ni’n gofyn i Dduw be roedd e am i ni wneud yn y gymuned; ac o ganlyniad i lyfr roedden ni wedi bod yn darllen, dyma ni’n penderfynu y bydden ni’n gofyn i Dduw i roi ateb i ni fyddai’n gwbl amhosib o safbwynt dynol.’ Fe atebodd Duw y weddi mewn ffyrdd annisgwyl, gan gynnwys mewn breuddwydion, ac yn y cwbl roedd hi’n amlwg ei fod yn cyflwyno’r syniad iddynt o fwydo pobl eu cymuned. 

Y prosiect 

Wrth gwrs, doedd dim ffordd amlwg i eglwys fechan o ryw hanner cant o aelodau i wneud rhywbeth o’r fath! Ond yn fuan ar ôl y breuddwydion fe ffoniodd Rosa gynllun ‘Fairshare’ oedd yn sôn am weithredu yn Nhonteg a rhannu bod angen dau beth yn unig ar yr eglwys: 

  1. Oergell yn yr adeilad 
  1. Rhywun â thystysgrif hylendid bwyd lefel 2.  

Roedd yr eglwys wedi cael gwared ar ei hoergell rai blynyddoedd ynghynt, a wyddai Rosa am neb oedd yn berchen ar dystysgrif o’r fath. Ond dyma un o aelodau’r eglwys yn dweud wrthi ddyddiau yn ddiweddarach ei bod wedi teimlo arweiniad i wneud cwrs hylendid bwyd lefel 2 cwta mis cyn hynny, fe brynodd yr eglwys oergell ac ar ben hynny cynigiodd y siop Tesco lleol i brynu rhewgell iddynt! Roedd Duw ar waith yn gwneud yr amhosib. 

Tyfodd pethau oddi yno, gyda sefydlu banc bwyd, rhaglen ‘superlunch’, gardd gymunedol a chaffi ‘Shalom Renew Wellbeing’. Dyma’r gweithgarwch yn ennyn rhagor o weithgarwch, a’r gair yn mynd ar led bod yr eglwys yn weithgar ac wrth galon y gymuned. Erbyn eleni dyma’r Cyngor Sir yn codi’r ffon ac yn dweud eu bod wedi clywed bod yr eglwys yn un groesawgar, a tybed a fyddent yn fodlon helpu croesawu pobl oedd yn dod allan o’r carchar? Ac ar ben hynny daeth y Gwasanaeth Iechyd atynt i ofyn a allai’r eglwys redeg canolfannau dydd ar gyfer pobl unig – y cwbl oedd angen fyddai paned o de a’r gallu i wrando. ‘Ac mae hynny’n gyfuniad hawdd i unrhyw eglwys!’ meddai Rosa dan chwerthin. 

Ond mae Rosa’n glir; nid y gweithgarwch sy’n cyfri. ‘Gweld Duw yn ateb gweddi yw’r peth mawr yma, ac yng nghanol y brysurdeb mae’n hollbwysig bod yr efengyl yn aros yn gwbl ganolog neu dydyn ni’n mynd yn ddim mwy na chlwb cymdeithasol.’ 

Camu ymlaen gyda’r Ffowndri 

Un o’r pethau eraill ‘amhosib’ ddeilliodd o’r prosiect oedd bod teulu’r Birches wedi clywed am yr eglwys a dod atyn nhw. Roedd ganddyn nhw weledigaeth am dŷ cymunedol, Cristnogol (Y Ffowndri) fyddai’n fodd i groesawu pobl, a’u cyflwyno i Iesu. 

‘Doedden ni ddim yn gwybod lle bydden ni’n darganfod eglwys oedd yn medru rhannu’r weledigaeth hon, ond dyma Dduw yn ein harwain mewn ffordd gwbl annisgwyl i Salem!’ Ers hynny galwyd Jon fel gweinidog rhan-amser ar yr eglwys, ac mae’r Undeb wedi helpu cefnogi’r weledigaeth i brynu tŷ yn y gymuned, lle mae’r teulu yn byw bellach. 

‘Roedd y pandemig wedi golygu nad oedd modd yn hawdd croesawu pobl eraill i fyw gyda ni yn y tŷ hyd yn awr, felly roedd cwpwl o stafelloedd sbâr yma a ninnau’n gweddïo am hyn.’ Ond wrth gwrs yn sydyn reit fe gododd yr angen dybryd am lety ar gyfer teuluoedd o Wcrain. Bellach mae teulu bach o dri oedolyn a baban ar eu ffordd i Donteg.  

‘Mae byw trwy ffydd wastad yn heriol! Dydyn ni ddim yn gwybod sydd bydd pethau’n gweithio allan yn ariannol o groesawu’r teulu Wcrainaidd yma – ond unwaith eto, mae mor amlwg mai Duw sydd wedi agor y drws.’

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »