Arloesi yn Nhrefyclo

Yn swatio mewn dyffryn cul ar ffin Cymru/ Lloegr mae gan dref Trefyclo boblogaeth o ryw 3000 o eneidiau, ac ymhellach i fyny’r un cwm mae pentref Knucklas. Dyma gartref eglwys y Bedyddwyr Tref-y-clawdd a Knucklas , sydd yn arloesi ffyrdd newydd o gyrraedd y gymuned wrth i ni ddod allan o gyfnod Covid. 

‘Mae teimlo’n ynysig yn broblem fawr mewn cymunedau yn y rhannau yma’ meddai Kevin Dare, sydd wedi bod yn weinidog yn Nhrefyclo dros y chwe blynedd diwethaf. ‘Ond mae gennym ganolfan gymunedol weithgar iawn yn y dref, sydd, wedi cael ei hun yn gwneud mwy a mwy o’r hyn y mae eglwysi yn ei wneud yn draddodiadol – grŵp mamau a phlantos, gwaith ieuenctid, hyd yn oed ymweliadau bugeiliol o fath.’ Ond doedd im darpariaeth iechyd meddwl yn yr ardal, a chyda lledaeniad mannau ‘Adfywio a Lles’ (Renew Wellbeing) ledled y DU dros y blynyddoedd diwethaf, roedd yn ymddangos bod cyfle na fyddai’n rhy feichus i eglwys o faint Tref-y-clawdd – rhyw 20 ar fore Sul – i fuddsoddi ynddo’n ystyrlon. 

Nod gofod Adfywio a Lles yw darparu lle croesawgar a Cristnogol i bobl ddod iddo, ymarfer hobi gydag eraill, a gweddïo gyda rhywun os ydynt yn dymuno. ‘Mae’n beth bychan, ond yn genhadol iawn,’ eglura Kevin, ‘ac felly roedd yn bwysig ein bod yn defnyddio un o adeiladau’r eglwys i’w redeg fel y gallem gadw’r ethos Cristnogol hwnnw. Dechreuon ni yn yr hydref, ac un o’r pethau calonogol iawn yw sut mae pobl wedi dweud wrthym ni bod angen rhywbeth fel hyn ar y dref.’ 

Yn y cyfamser, i lawr y ffordd yn Knucklas, roedd yr eglwys hefyd wedi gwneud penderfyniad bwriadol i fuddsoddi yn yr adeilad i’w wneud yn lle mwy croesawgar a defnyddiadwy. Gyda chyfyngiadau Covid yn codi’n raddol, mae Gareth a Philippa Davidson o’r eglwys wedi dechrau treulio amser yno bob wythnos. ‘Roeddem yn fwriadol iawn ynglyn â bod yn bresennol yn yr adeilad, jest bod yn y pentref ac i weld beth wnai Duw â hynny. Mae’n beth mentrus mewn ffordd i’w wneud, ond mae wedi bod yn anhygoel gweld sut mae Duw wedi defnyddio’r peth i feithrin cysylltiadau rhyngom ni a’r gymuned.’ Maent wedi cael sgyrsiau gyda gwahanol bobl o’r pentref bob wythnos, ac mae gair yn awr yn mynd o gwmpas i’r fath raddau fel bod pobl yn troi i fyny am goffi ar fore’r Davidsons yn y capel bob wythnos! 

‘Dyw e ddim yn fore coffi – dydyn ni ddim yn ei wneud yn ddigwyddiad a hynny’n gwbl fwriadol ond yn hytrach mae’n gyfle i fod gyda phobl. Mae wedi golygu ein bod wedi gallu meithrin perthynas â nifer o bobl yn barod na fyddent fyth yn dod i wasanaeth eglwys, ond sy’n hapus iawn i alw heibio am sgwrs. A phwy a ŵyr sut y bydd Duw yn defnyddio hynny?’ 

Fel y mae Gareth a Kevin yn pwysleisio, mae angen gwir fuddsoddiad o amser, emosiwn a gweddi i weithredu dulliau cenhadol newydd fel hyn tra’n parhau i redeg arddull fwy traddodiadol o eglwys. Un peth y mae’r eglwysi wedi’i wneud yn ddiweddar i helpu i ryddhau’r amser a’r egni ar gyfer cenhadaeth fu uno’r ddwy eglwys fel eu bod bellach yn un eglwys swyddogol, gydag un aelodaeth, arweinyddiaeth, Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, set o gyfrifon ac ati – ond dwy gynulleidfa. ‘Mae’n golygu llai o waith gweinyddol’, meddai Kevin, ‘ac mae’n helpu pobl yn y ddwy gynulleidfa i sylweddoli eu bod yn rhan o rywbeth mwy.’ 

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »