Lawnsio cylchlythyr newydd BUW – ‘Pigion’

Rydym yn lansio cylchlythyr e-bost newydd sy’n agored i unrhywun i’w dderbyn. Bydd ‘pigion y mis’ yn dod allan yn fisol ac yn cynnwys straeon calonogol, fideos, gwybodaeth a digwyddiadau o ddiddordeb i bawb yn eich eglwys.

Meddai Judith Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol UBC, ‘Mae hi mor dda clywed am y gwaith sy’n cael ei gyflawni yn enw’r Arglwydd Iesu yng Nghymru ac yn wir ar draws y byd, ac mae’r cylchlythyr hwn yn ffordd syml iawn o gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd.’

Rydym am i bawb elwa o hyn – felly a allech anfon y ddolen hon ymlaen at y bobl hynny yn eich eglwys a fyddai’n gwerthfawrogi derbyn y cylchlythyr o hyn allan? Gallwch gofrestru ar y dudalen hon – sgroliwch i lawr i waelod y dudalen i osod eich cyfeiriad ebost. Ac os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau ar gyfer y cylchlythyr hwn, mae croeso i chi anfon ebost atom at post@ubc.cymru

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Caffi yn y festri

Wrth gerdded i mewn i festri capel Tabor ym mhentre Dinas ar arfordir Gogledd Penfro, cewch wledd i’r llygaid sy’n gwbl wahanol i unrhyw festri arall yng Nghymru. ‘Ers y gwaith i drawsnewid yr adeilad, mae’r caffis sy wedi bod ma wedi bod yn llewyrchus dros ben – y lle yn aml wedi bod yn llawn dop!’ esbonia…

Darllen mwy »