Cael gwared ag oedfa’r hwyr: Profiad Caersalem, Caernarfon

Cyn y Pandemig roedd yr oedfa hwyrol yng Nghaersalem Caernarfon yn parhau yn sefydlog, roedd criw ychydig yn llai na’r bore yn dod, ond nid oedd unrhyw fwriad i gael gwared ohono. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod clo setlwyd i mewn i batrwm o gynnal oedfa ar-lein yn y bore’n unig ac felly wrth i ni ail afael mewn cyfarfodydd cyhoeddus llynedd roedd rhaid gofyn y cwestiwn: beth am yr oedfa hwyrol? 

Yn reddfol roedd cael gwared â’r oedfa hwyrol yn teimlo fel methiant, yn teimlo fel colli tir ac yn teimlo fel trai. Ond trwy ras Duw nid dyna yw stori Caersalem yn gyffredinol – mewn oes seciwlar rydym wedi cael y fraint o dystio i rywfaint o dwf eglwysig a bendith yn y blynyddoedd diwethaf. Felly sut oedd modd gadael fynd ar yr oedfa hwyrol heb iddo deimlo fel methiant? Neu, a bod yn onest, sut roedd peidio cynnal oedfa hwyrol heb deimlo’n euog am y peth?! 

Yn y diwedd daethom i heddwch gyda’r penderfyniad am ddau reswm. Yn gyntaf, roeddem ni’n ymwybodol iawn fod bywydau ein haelodau yn eithriadol o brysur – yn arbennig felly rheiny mewn swyddi proffesiynol, teuluoedd a phlant, ac aelodau oedd yn gofalu am deulu a chyfeillion bregus. I lawer roedd bywyd mor brysur nes bod pobl ddim yn cael cyfle i orffwys ac i gael Sabath go-iawn, ac mai rhan o’r broblem oedd prysurdeb ein rhaglen ni fel eglwys. Yn hytrach na bod yn fendith, roedd rhaglen brysur bywyd yr eglwys ar adegau wedi dod yn faich. Wrth adael fynd ar yr oedfa hwyrol roeddem yn rhoi mwy o ofod yn yr wythnos i’n haelodau gael gorffwys gyda theulu a ffrindiau.  

Ond yr ail reswm i ni fod a heddwch wrth gael gwared a’r oedfa hwyrol oedd er mwyn clirio noson yn y dyddiadur er mwyn gwneud rhywbeth gwahanol a newydd. A dyna yw’r datblygiad diweddaraf yn yr eglwys: noson ‘Caru Caersalem’, noson o hwyl, rhannu a chlywed lleisiau gwahanol o fewn yr eglwys … mae’n bopeth heblaw am oedfa.  

Ar un olwg mae’n noson gymdeithasol gyda phaned, cacen a hyd yn oed gemau yn rhan ganolog. Fe’i disgrifiwyd gan un person fel Clwb Ieuenctid i bobl sydd dal yn ifanc eu hysbryd! Ond byrdwn ysbrydol sydd tu ôl y weledigaeth hefyd, sef creu gofod i ddatblygu’r eglwys i fod yn wir gymuned ac yn fwy na dim ond cyfres o gyfarfodydd. Bydd yn noson fydd yn ceisio normaleiddio’r arfer o siarad am sut mae Duw wedi bod ar waith yn ein bywyd. Moto y noson yw: “Dyma sut bydd pawb yn gwybod eich bod chi’n ddilynwyr i mi, ac eich bod chi’n caru’ch gilydd.” (Ioan 13.35) 

Rhan bwysig arall o’r weledigaeth yw ei fod yn cael ei drefnu a’i gynnal gan aelodau o’r eglwys sydd heb lawer o brofiad, neu ychydig o brofiad, o drefnu ac arwain o fewn yr eglwys. Hynny yw, mae’r noson yn fwriadol agored i bobl brofi doniau a cheisio gweithredu’n well yr egwyddor o offeiriadaeth yr holl saint. Ac felly nid ydw i fel Gweinidog nac unrhyw aelod arall o Dîm Arwain yr eglwys yn cael bod a rhan yn y trefnu a’r cynnal. I bobl sydd yn fy adnabod nid yw cymryd cam yn ôl yn dod yn naturiol i mi, ond weithiau mae’n rhaid i arweinwyr gymryd cam yn ôl er mwyn creu gofod i eraill fedru camu i fyny a phrofi eu doniau mewn awyrgylch ddiogel. 

Arbrawf yw’r noson ar hyn o bryd ac roedd y sesiwn gyntaf yn fendith, rydym am ei gynnal am rai wythnosau’r tymor yma a chawn weld beth ddaw o’r weledigaeth yn y dyfodol. Ond mae’n ddameg dda ynglŷn â sut mae gwneud penderfyniad anodd fel dirwyn yr oedfa hwyrol i ben yn gallu clirio gofod wedyn i Dduw wneud rhywbeth newydd ymhlith ei bobl. 

Rhys Llwyd

Os hoffech drafod cwestiynau mawr fel hyn am fywyd yr eglwys yn yr 2020au, mae fforwm i wneud ar raglen Gweithredu – gwybodaeth yma.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »