Estyn allan yng Nghwmcarn

Pentre bychan digon nodweddiadol o gymoedd y de yw Cwmcarn, yn nythu yng Nglyn Ebwy o dan gopa amlwg Twmbarlwm. Mae gan y pentref ysgol gynradd, amrywiaeth o siopau lleol gan gynnwys cigydd ffyniannus, parc a phoblogaeth o tua 500. Ac fel y mwyafrif o gymunedau’r cymoedd, hyd yn oed yn oes ffonau symudol a chymudwyr, mae wedi cadw ei hunaniaeth unigryw ei hun i raddau helaeth.  

Ond dim ond un eglwys sydd yn y pentref erbyn hyn, sef Capel Zion y Bedyddwyr – ac mae Duw ar waith yno. Cymuned fechan o aelodau ffyddlon, hŷn yw’r eglwys ers amser maith ac maen nhw wedi cynnal addoliad cyhoeddus ar y Sul a rhai gweithgareddau canol wythnos ar hyd y blynyddoedd. Ond sylweddolon nhw pe taent yn parhau ar eu trywydd presennol heb blant a dim un o’r aelodau o dan 50 oed, y byddai’r capel yn cau yn y pen draw, gan adael dim tystiolaeth Gristnogol leol yn eu cymuned.  

Felly dyma nhw’n estyn allan i Gymanfa Gwent i weld a oedd unrhyw beth y gellid ei wneud, yn enwedig yn y maes cenhadol. Digwydd bod roedd gan un o’r eglwysi mwy yn y Gymanfa, Moriah Rhisga, fenyw ifanc, Bekah Smethurst, yn gwneud interniaeth. Roedd hi’n athrawes hyfforddedig ac roedd ganddi ddiddordeb mawr hefyd mewn gweinidogaeth gyda phlant a phobl ifanc.  

Gyda chymorth Moriah, y Gymanfa ac Undeb y Bedyddwyr, crëwyd swydd i Bekah weithio yn Zion fel ‘Gweithiwr plant, teulu a cenhadaeth’. Fel y dywed Bekah, ‘Mae’n debyg fy mod i’n un o’r unig weithwyr plant a theuluoedd eglwysig sy’n gweithio mewn eglwys lle nad oes unrhyw blant na theuluoedd mewn gwirionedd!’ Ond mae dangos mae hyn nad oes unrhyw sefyllfa y tu hwnt i obaith.  

Pentre Cwmcarn yn swatio o dan y mynydd

Dyma Bekah yn codi’r stori; ‘Un o’r pethau mawr yma yw mor hapus mae’r eglwys i mi wneud pethau arbrofol a gwneud camgymeriadau. Maen nhw’n gwybod bod yn rhaid i ni roi cynnig ar bethau yma – ac os nad ydyn nhw’n gweithio, wel, mae hynny’n iawn.’ Mae Covid wedi codi sawl rhwystr, ond yn y chwe mis ers cychwyn mae Bekah wedi meithrin cysylltiadau’n araf ag ysgol y pentref. ‘Rwy wedi ymweld â nhw ychydig o weithiau eisoes ar-lein ac mae nhw bellach wedi fy mwcio i mewn ar gyfer pedwar gwasanaeth gyda y tymor hwn.’ Ac er nad oedd gan yr eglwys unrhyw deuluoedd ifanc, mae gan rai o’r aelodau wyrion ac wyresau yn y pentref.   

‘Yn ystod tymor y Nadolig cynhaliwyd rhai digwyddiadau i’r plant a’r teuluoedd yn y gymuned. Dechreuon ni gyda llwybr QR yn rhedeg drwy’r pentref a ddaeth i ben gyda gwobr yn yr eglwys lle’r oedd ychydig o grefftau i’w gwneud ar thema’r Nadolig. Yna, yr wythnos ganlynol cynhaliwyd sesiwn ‘Llan Llanast’ gyda Gwasanaeth Carolau ychydig cyn y Nadolig. Roedd yn wych i gael ychydig o deuluoedd yn ymuno â ni ar gyfer y digwyddiadau hyn.’ Eglura Bekah y byddai ganddynt rywbeth ymlaen yn wythnosol i blant o’r gymuned yn yr eglwys mewn byd delfrydol, ‘ond mae’n rhaid i chi ddechrau lle rydych chi arni’. Mae gan Zion hanes hir y tu ôl iddi – ond efallai’n wir bod rhywbeth newydd ar droed yno eto hefyd. 

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »