Wel, cefais fy magu ym Mryste fel Eglwyswraig mewn gwirionedd! Ac er gwaethaf cael fy nghadarnhau pan oeddwn yn fy arddegau, fe wnes i ddrifftio i ffwrdd. Ond wedyn dyma fi’n cwrdd â fy ngŵr, Terry, oedd yn dod o Flaenafon ac roedd ganddo alwad clir i fynd i weinidogaeth Fedyddiedig. Newidiodd hynny fy mywyd!
Rydym ni’n etifeddion traddodiad o dros 70 o flynyddoedd o Ddydd Gweddi Chwiorydd Bedyddwyr y Byd. Y fath etifeddiaeth! Y fath hanes inni ddod yn rhan ohoni wrth inni ymuno eto eleni i weddïo, boed gartref, boed yn ein heglwysi neu yn ein cymunedau ar draws y byd. Ein thema eleni ar y 7fed o Dachwedd 2022 yw ‘Bywyd buddugoliaethus’…
Grŵp o ryw wyth deg o Gristnogion o bob oed sy’n byw yn ac o amgylch Penfro yw Eglwys y Bedyddwyr Mount Pleasant, ac maen nhw bellach wedi bod yn cwrdd mewn ysgol leol am bron i ddegawd. Ond nawr mae benthyciad wrth Gronfa Adeiladu Bedyddiedig Cymru wedi galluogi eu prosiect adeiladu…
‘Dyma waith ein bywyd nawr,’ myfyria Danni wrth i ni eistedd mewn caffi oddi ar y sgwâr canolog yn Nolgellau. ‘Ac rwy’n hollol ffyddiog bod Duw yn ymrwymedig i’r lle hwn a’i bobl…’
Mae’r byd, a’r cymunedau yr ydym yn ceisio eu gwasanaethu a’u cyrraedd, yn newid yn anghyfforddus o gyflym. Mae’n hanfodol felly ein bod yn seilio popeth ar weddi.
Mae costau ynni gwresogi adeiladau capeli mawr gwag gyda’u hen systemau gwresogi aneffeithlon yn mynd i godi’n sylweddol ac efallai y bydd yr un cwestiynau hynny yn dychwelyd; sut mae parhau i gyfarfod?
Mae gan Gorfforaeth Undeb Bedyddwyr Cymru weledigaeth newydd ar gyfer adeiladau eglwys sy’n cau – un all osod seiliau ar gyfer tystiolaeth Fedyddiedig yng Nghymru i’r dyfodol…
‘Doeddwn i ddim yn edrych i adael y gwaith yma’ meddai Rosa dros goffi mewn caffi ym mhentre Nhonteg ar gyrion Caerdydd. ‘Roeddwn wedi rhyw ddisgwyl yr arhoswn yma nes i mi ymddeol, a dyma lle dyn ni’n byw fel teulu – rydyn ni’n teimlo fel rhan o’r gymuned.’ Ond roedd Duw yn agor drws arall…
Daeth i sylweddoli fel yr oedd Mynydd Carn Ingli wedi bod yn rhan o’i bywyd erioed, bod Duw hefyd wedi bod yno iddi erioed ar hyd ei thaith…
Capel traddodiadol Cymreig oedd Salem, Tonteg. Roedd oedfaon bob Sul a byddai’r chwiorydd yn cwrdd unwaith y mis. Mewn degawd, mae Duw wedi trawsnewid hynny’n llwyr, ac mae bwyd a lletygarwch wedi bod wrth graidd y peth….
Read our privacy policy here.
Cysylltwch â ni:
Ffôn: 0345 222 1514
Ebost: post@ubc.cymru
Y Llwyfan, College Road, Carmarthen SA31 3EQ
Polisi Preifatrwydd
Cynlluniwyd gan: Waters