Mae nifer helaeth o’r gofodau hyn yn cael eu rhedeg gan eglwysi, ac mae llawer o’n heglwysi Bedyddiedig wedi teimlo’r alwad i weld sut y gallant ddefnyddio eu cyfleusterau i gyfrannu at gyrraedd yr angen mawr yma – gan gyfuno’r angen am gynhesrwydd sylfaenol gyda bwyd a chwmnïaeth…
Mae hyn yn golygu nad yw’r ffocws i Paul ac eraill tebyg iddo yn gymaint ar weinidogaeth eglwys ag ydyw ar estyn allan i’r rhai sydd heb fawr o gysylltiad â’r eglwys mewn ffyrdd newydd, cenhadol…
Er bod y cyfrifiad yn dangos bod Cymru ar ei mwya seciwlar erioed, mae pobl o bob oed ar draws y wlad wedi dewis eleni i wneud proffesiwn o ffydd yn Iesu Grist, ac i gael eu bedyddio.
Mae’r codiad parhaus mewn biliau ynni yn cyflwyno cyfleoedd i’n eglwysi yr ydym wedi bod, o bosib, yn araf yn i’w cymryd yn y gorffennol…
Croesawodd Judith Morris, Ysgrifenydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru, ddynodi Sul 20fed Tachwedd fel Sul Diogelu i’r eglwysi, gan ddweud…
Cwta ddeng mlynedd yn ôl, roedd eglwys Bedyddwyr Bethel yn Noc Penfro wedi edwino i grŵp o wyth o aelodau oedrannus yn cyfarfod yn y festri. Mae’r trawsnewidiad sydd wedi digwydd ers hynny yn ddyledus, yn anad dim, i weddi ffyddlon…
Wel, cefais fy magu ym Mryste fel Eglwyswraig mewn gwirionedd! Ac er gwaethaf cael fy nghadarnhau pan oeddwn yn fy arddegau, fe wnes i ddrifftio i ffwrdd. Ond wedyn dyma fi’n cwrdd â fy ngŵr, Terry, oedd yn dod o Flaenafon ac roedd ganddo alwad clir i fynd i weinidogaeth Fedyddiedig. Newidiodd hynny fy mywyd!
Rydym ni’n etifeddion traddodiad o dros 70 o flynyddoedd o Ddydd Gweddi Chwiorydd Bedyddwyr y Byd. Y fath etifeddiaeth! Y fath hanes inni ddod yn rhan ohoni wrth inni ymuno eto eleni i weddïo, boed gartref, boed yn ein heglwysi neu yn ein cymunedau ar draws y byd. Ein thema eleni ar y 7fed o Dachwedd 2022 yw ‘Bywyd buddugoliaethus’…
Grŵp o ryw wyth deg o Gristnogion o bob oed sy’n byw yn ac o amgylch Penfro yw Eglwys y Bedyddwyr Mount Pleasant, ac maen nhw bellach wedi bod yn cwrdd mewn ysgol leol am bron i ddegawd. Ond nawr mae benthyciad wrth Gronfa Adeiladu Bedyddiedig Cymru wedi galluogi eu prosiect adeiladu…
‘Dyma waith ein bywyd nawr,’ myfyria Danni wrth i ni eistedd mewn caffi oddi ar y sgwâr canolog yn Nolgellau. ‘Ac rwy’n hollol ffyddiog bod Duw yn ymrwymedig i’r lle hwn a’i bobl…’
Read our privacy policy here.
Cysylltwch â ni:
Ffôn: 0345 222 1514
Ebost: post@ubc.cymru
Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin SA31 3HB
Polisi Preifatrwydd
Cynlluniwyd gan: Waters