Dod i nabod: Denis Young

Cawson ni’r pleser yng nghylchgrawn Negesydd yr Hydref o glywed rhai o’r straeon arweiniodd y Parch. Denis Young at ffydd yn ddyn ifanc a dod yn weinidog 69 o flynyddoedd yn ôl! Dyma ychydig yn fwy o’i hanes…

Allech chi rannu ychydig gyda ni am eich stori ffydd? Sut ddaethoch chi i adnabod Iesu?

Cefais fagwraeth fel y rhan fwyaf yn y pentref gan gynnwys mynd i’r capel dair gwaith ar y Sul. Mynychu capel y Bedyddwyr, Bethel Drefach-Felindre oedd ein teulu ni.

Byddwn yn ffyddlon i’r oedfaon – dyna’r arferiad i’m cyfoedion a minnau. Rwy’n hynod ddiolchgar o’m profiad o’r capel a’r ysgol ddyddiol hefyd. Ysgol eglwys ydy ysgol Drefach ac yna yr âi plant y pentref o bob enwad. ‘Roedd rhaid adrodd Gweddi’r Arglwydd, y deg gorchymyn a chredo’r Apostolion!

Eglwys gyda’r Bedyddwyr yw Bethel felly mae bedydd yn bwysig. Dilyn y drefn oedd hi i mi a’m cyfoedion. Wedi cyrraedd tua’r pymtheg oed roedd yn arferiad cael eich bedyddio er mwyn dod yn aelodau a dyna ddigwyddodd i nifer ohonom ar yr un Sul.

Ond trist yw gorfod cyfaddef nad oedd gennyf brofiad bywydol o’r Arglwydd. Trefn ac arferiad oedd. ‘Roeddwn yn barchus grefyddol, ond i ddyfynnu Gwenallt:

 ‘Gwae i ni wybod y geiriau heb adnabod y Gair’.

“Dilyn y drefn oedd hi i mi a’m cyfoedion… Roeddwn yn barchus grefyddol.”

Beth newidiodd i chi?

Bu’n rhaid gadael Ysgol Ramadeg Llandysul yn gynnar gan fod angen help gartref, a’m tad wedi marw yn ifanc. Yn bymtheg oed felly dechreuais weithio mewn siop groser, ac wedyn gweithio’r nos ar y rheilffordd.

Dyma gyfnod yr ail ryfel byd ac yn hytrach na chael fy ngorfodi i ymuno â’r lluoedd arfog fel fy mrodyr cefais fy anfon i Fryste i weithio gan fod cynnal y trenau yn waith ‘o bwysigrwydd cenedlaethol’. Profiad chwithig i mi oedd symud o gefn gwlad i ganol y ‘blacowt’ a bomio di-drugaredd yn y ddinas!

Trugaredd oedd cael fy anfon nôl i Gymru ac o fewn cyrraedd cartref. Yng Nghaerfyrddin felly bu trobwynt mawr fy mywyd. Cefais fy rhoi i weithio fel taniwr ar yr ‘engines mawr’ gyda gyrrwr o’r enw Bill Thomas. Fe sylweddolais yn fuan fod na rhywbeth yn wahanol ynddo.

“Profiad chwithig i mi oedd symud o gefn gwlad i ganol y ‘blacowt’ a bomio di-drugaredd yn y ddinas…”

Byddai’n tynnu ei gap ac yn diolch cyn bwyta’i frechdanau yn y sied gyda’r gweithwyr eraill. ‘Doedd arno ddim cywilydd o’i gred. Soniai yn naturiol am ei Waredwr yr Arglwydd Iesu Grist wrthyf ond gwneud fy ngorau i gau fy nghlustiau wnawn i. Er hynny doedd dim modd dianc oddi wrtho gan ein bod gyda’n gilydd yn ystod pob taith.

Byddai’n canu wrth yrru:

‘This is why I am so happy, This is why I am so free,

I am drinking from the well of full salvation, O won’t you come and have a drink with me.’

Ar y llinell olaf byddai’n edrych arnaf i a gwyddwn ei fod yn wahoddiad i mi. ‘Cer o ‘ma Bill’ oedd fy ymateb, ond roedd gan Dduw gynlluniau eraill ac yn y diwedd bu’n rhaid i mi ildio yn ddiolchgar.

“Yn edifeiriol gofynnais am faddeuant. Teimlais y maglau’n cael eu torri, a’m traed yn gwbl rydd gan fod yr Iesu wedi marw ar y groes yn fy lle.”

Ar fy nghliniau yn yr ystafell wely gartref yn Drefach, yn edifeiriol gofynnais am faddeuant am fod mor benstiff. Teimlais y ‘maglau’n cael eu torri’n a’m traed yn gwbwl rydd gan fod yr Iesu wedi marw ar y groes yn fy lle ac wedi atgyfodi! Diolch ei fod yn awr yn eiriol drosto ni i gyd.

Clod i Dduw! Ble aeth yr Arglwydd â chi wedyn?

Bu cyfnod newydd yn fy hanes a chredaf fod hyn eto yn nhrefn a phwrpas Duw. Gadewias y rheilffordd a chael fy apwyntio’n is-reolwr i Edward Davies, Bedyddiwr arall, yn siop Star Aberteifi. Dyma gyfnod coleg profiad, yn wir cael prawf ar fy ffydd a dysgu pwyso ar yr Arglwydd os oedd pethau’n anodd. ‘Marw’ i’r hunan!

Byddwn yn mynd i’r cwrdd gweddi noson waith ym Methania Aberteifi gan fy mod yn lletya yn y dre drwy’r wythnos, ac aelod ym Methania oedd Mrs John fy lletywraig. Yn raddol bu’r Arglwydd yn fy ngalw i bregethu a phan ddywedodd un o’m cyd-weithwyr yn y siop eu bod yn methu llenwi pulpud yn ei chapel y Sul canlynol, dyna glywn drwy’r wythnos: ‘Cer di’ a dod i’r casgliad mai’r Arglwydd oedd yn rhoi gorchymyn.

Mae hanes fy nhaith i bregethu am y tro cyntaf yn oedfa’r bore yn Gerazim ac yn oedfa’r pnawn a’r hwyr yn Nhrewyddel yn saga yn wir ond yr Arglwydd oedd wrth y llyw ac yn y man fe gyrhaeddais Goleg y Bedyddwyr a Phrifysgol Bangor fel ymgeisydd i’r weinidogaeth. Ordeiniwyd fi i gyflawn waith y weinidogaeth yn eglwys Blaenycwm, Rhondda Fawr ym mis Medi 1954 (69 mlynedd yn ôl).

“Dyna glywn drwy’r wythnos ‘Cer di’ a dod i’r casgliad mai’r Arglwydd oedd yn rhoi gorchymyn.”

Beth yw’r gwersi pwysicaf ddysgoch chi yn eich profiadau fel gweinidog?

Un o’r gwersi pwysicaf i mi yw pwysigrwydd gweddi, yn bersonol ac yn yr eglwys. Cynhelid cwrdd gweddi wythnosol ym mhob eglwys y cefais y fraint o weinidogaethu ynddi – Blaenycwm, Caersalem Llanelli, Beulah Cwmtwrch a Hebron Caergybi.

Dyma’r ‘power-house’ yn ôl un hen aelod ym Mlaenycwm! Peth arall sy’n wir iawn yw mai gweld ein gilydd yn unig ‘rydyn ni a bod bob math o broblemau yn aml ynghudd gan bobl felly mae angen ysbryd cariad a ‘na fernwch fel na’ch barner’. Gwers bwysig arall yw dysgu derbyn methiant a siomiant yn rasol.

Ble ydych chi’n gweld gobaith ar gyfer y dyfodol wrth feddwl am y cenedlaethau a ddaw?

Diolch bod newyddion gobaith a bendith yng Nghymru heddiw. Ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol mae’r cyfan yn llaw’r Duw ffyddlon a thrugarog sydd wedi rhoi llythyr cariad i ni sef ei Air sanctaidd. Bydd y Gair ar gael i bob un a drws gweddi ar agor bob amser. Fy ngweddi a’m gobaith yw y bydd ‘Iesu Grist, ddoe a heddiw yr un ac yn dragywydd’ yn cael ei le priodol yng Nghymru unwaith eto.

“Fy ngweddi a’m gobaith yw y bydd ‘Iesu Grist, ddoe a heddiw yr un ac yn dragywydd’ yn cael ei le priodol yng Nghymru unwaith eto.”

Diolch o galon, Denis!

I weld yr erthygl wreiddiol, ac i ddarllen nifer o hanesion eraill hyfryd o Dduw ar waith yn y Gymru fodern ac ar draws y byd heddiw, ewch draw i Negesydd Hydref 2023, a rhifynnau blaenorol.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau