Dechrau Newydd: Myfyrdod i’r Flwyddyn Newydd

Llywydd Tim Moody sydd yn ystyried y syniad o ‘ddechreuadau newydd’ wrth i ni edrych ymlaen at 2024…

Yn ystod yr amser rhyfedd rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, pan nad ydych chi wir yn siŵr pa ddiwrnod o’r wythnos yw hi, ces i sgwrs gyda ffrind a rannodd gyda mi yr hyn yr oedden nhw’n ei alw’n Gwest y Flwyddyn Newydd

Gofynnais i am eglurhad am beth oedd tu ôl i syniad y ‘Cwest’, a dywedon nhw fod addunedau’r Flwyddyn Newydd yn aml yn seiliedig ar y syniad y dylai rhywun ildio / rhoi’r gorau i rywbeth y maen nhw wir yn ei fwynhau – fel siocled – neu ddechrau gwneud rhywbeth dydyn nhw ddim yn ei hoffi – fel mynd i’r gym! Roedd gan addunedau’r Flwyddyn Newydd iddyn nhw (fel i nifer o bobl eraill!) arwyddocâd negyddol iawn!

Ac felly, yn lle gwneud addunedau’r Flwyddyn Newydd, roedden nhw’n mynd ar ‘Gwest Blwyddyn Newydd’ – edrych i’r flwyddyn sy’n dod, ac ystyried beth y gallen nhw ei ymlid, a beth y gallen nhw fod yn fwy yn ‘proactif’ yn ymwneud ag e. Ac mae’n rhaid i fi ddweud – gwnes i wir gynhesu i’r syniad hwn.

Dwi’n hoffi’r syniad o edrych ymlaen at 2024, nid fel blwyddyn o dorri yn ôl, hogi, a thorri chŵys, ond edrych ymlaen gyda sbarc yn ein llygaid, a’r bwriad i fentro ymlaen yn hyderus!

Mae gan y Flwyddyn Newydd yn aml deimlad o ‘ddechreuadau newydd’. Fe wnaeth hwn fy nghymell i feddwl am sut bu pobl yn aml yn cael eu hanfon i ffwrdd o’r Iesu gyda dechrau newydd ar ôl cyfarfyddiad gydag e – ffordd newydd i fod, ffordd newydd i edrych ar fywyd, a chyfleoedd newydd.

O ystyried hyn, tybed ar ôl treulio tymor yn dathlu Ei eni, a fydden ni’n gofyn y cwestiwn: pa ddechrau newydd ydy’r cyfarfyddiad hwn gyda Iesu wedi fy nghymell i ato fe?

Dwi’n dwlu ar stori Sacheus. Barus, hunanol, ac eto’n chwilfrydig…. ac ar ôl cyfarfod gyda Iesu yn Luc 19, darllenwn y geiriau hyn:

“Arglwydd, dw i’n mynd i roi hanner popeth sydd gen i i’r rhai sy’n dlawd. Ac os ydw i wedi twyllo pobl a chymryd mwy o drethi nag y dylwn i, tala i bedair gwaith cymaint yn ôl iddyn nhw.”

Fe wnaeth rhywbeth am y cyfarfod yna gyda Iesu osod Sacheus ar lwybr newydd, newid ei gyfeiriad, a newid y ffordd y byddai’n byw. Tybed a ydyn ni’n fodlon cyfarfod â Iesu, a bod yn agored i’r math hwn o ddechrau newydd?

Yn ôl at fy ffrind: eu ‘Cwest Blwyddyn Newydd’ yw i drio’r holl wahanol fathau o basta sydd ar gael: fe wnaeth chwiliad Google cyflym ddweud wrthyf fi fod yno dros 160 math gwahanol o basta, ac felly byddai ceisio eu bwyta nhw i gyd yn golygu bwyta pasta bron pob dydd eleni!

Beth os gwnaiff cyfarfod â Iesu eich gadael gyda’r ymdeimlad bod angen i chi weddïo yn fwy yn ystod 2024? Ond, 366 diwrnod yw hynny (mae’n flwyddyn naid!) – mae’n siŵr nad bob dydd?? Neu, a fydden ni fel Sacheus, yn gadael i’r cyfarfod hwnnw gyda Iesu newid ein ffordd o feddwl, ein ffordd o weithredu, a hyd yn oed ein dyfodol?

Gallai ond 10 munud y dydd yn ystod 2024 olygu y byddech chi’n gweddïo am dros 60 awr mewn blwyddyn!

Yn ystod 2024, rydyn ni’n bwriadu lawnsio Esgyn, menter newydd ieuenctid gan UBC fydd yn dod ynghyd â phobl ifanc o Gymru, i dyfu gyda’i gilydd fel cenhedlaeth, i fod yn angerddol dros Dduw, ac i gael eu cefnogi, nid yn unig gan eu heglwysi, ond hefyd gan ei gilydd!

Mae yna adegau pan mae Esgyn yn teimlo fel ‘Cwest’ sydd yn rhy bell i mi, ond ar ôl dod i ffydd mewn gwersyll ieuenctid fy hunan, alla i ond teimlo y gwnaeth y cyfarfyddiad personol hwnnw gyda Iesu newid rhywbeth y tu fewn i fi, ac rydw i eisiau credu (ac yn wir, gweithredu) gyda’r math o bwrpas, angerdd, ac eiddgarwch yr ydym ni’n eu gweld yn Sacheus, o ran ein darpariaeth ar gyfer cenedlaethau dyfodol yr eglwys.

Felly, tybed, wrth i ni ddechrau Blwyddyn Newydd, sut fyddai cyfarfyddiad gyda Iesu yn edrych i chi? Pa beth newydd y bydd E’n ei wneud yn ystod dy fywyd yn 2024?

Yn lle torri yn ôl, neu wneud rhywbeth dwyt ti ddim yn ei hoffi, sut fyddai hi’n edrych i afael mewn rhywbeth mae Duw yn dy alw di i wneud gyda dwy law, a rhedeg ymlaen gydag e yn 2024?

Dwi’n gweddïo y bydd 2024 yn flwyddyn lawn llawenydd a rhyfeddod ar eich cyfer chi wrth i chi gwrdd â Iesu o’r newydd, ac y bydden ni gyda’n gilydd yn parhau ar ein Cwest i ddod ag anrhydedd a gogoniant iddo Fe.

Tim Moody

Llywydd UBC (Adain Ddi-Gymraeg)

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »