Mae rhifyn Gwanwyn ‘Y Negesydd’ wedi ei ryddhau yr wythnos hon, ac ar gael i ddarllen ar ein wefan!
Rydym ni’n gyffrous gallu rhannu’r newyddion diweddaraf o deulu UBC dros y misoedd diwethaf, gan gynnwys straeon o gyfarfyddiadau ‘ben mynydd’ â Duw yng Nghefn Cribwr a Treharris, lawnsiad ‘Esgyn’ – menter newydd ieuenctid UBC, a her CERDDED! Cymru & Zimbabwe, sydd yn para o fis Mawrth tan fis Hydref eleni.
Clywn hefyd am sut y mae Duw yn cynnal ac yn gweithio ymhlith ein brodyr a chwiorydd yng Nghrist mewn eglwysi Bedyddiedig yn Ẁcrain a’r Dwyrain Canol, a chroesawn wynebau ac enwau newydd i deulu UBC.
Ewch yma i ddarllen y newyddion a’r straeon diweddaraf o deulu UBC.
Gobeithiwn yn wir y byddwch chi’n darganfod bendith wrth ddarllen y rhifyn hwn!
Yng Nghrist,
Sioned Graves
Swyddog Cenhadaeth a Chyfathrebu Digidol
ar ran tîm golygyddol Y Negesydd.
Peidiwch ag oedi rhag cysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Negesydd. Gallwch gysylltu â ni trwy e-bostio sioned@ubc.cymru neu trwy roi caniad i 03452221514.