Neges y Pasg: Newyddion Rhyfeddol!

“Daeth ofn arnynt, a phlygasant eu hwynebau tua’r ddaear. Meddai’r dynion wrthynt, “Pam yr ydych yn ceisio ymhlith y meirw yr hwn sy’n fyw? Nid yw ef yma; y mae wedi ei gyfodi.” Luc 24:5

Mor hyfryd yw’r geiriau hyn yn y byd sydd ohoni yn 2024!

Ar Ddydd Gwener y Groglith, rydyn ni’n cofio sut y gwnaeth Iesu gymryd effaith pechod a thywyllwch y byd hwn arno Ef ei hun, gan uniaethu yn ddwfn gyda’n poen ni. (Eseia 53:3-4).

Mae hyn yn berthnasol hefyd i’r hyn a welwn yn y byd o’n cwmpas, wrth i ni dderbyn adroddiadau ofnadwy o’r Dwyrain Canol, Dwyrain Ewrop a thu hwnt o wythnos i wythnos, ynghyd â’r tywyllwch, y drygioni a’r dioddefaint a welir yn ein cymunedau ac yn ein bywydau.

Y newyddion da yw hyn: adeg y Pasg, gwelwn sut y bu i’r Duw a’n creodd ni a’r byd o’n cwmpas, gymryd canlyniadau ein pechod, drygioni a phoen – ac ennill iachâd i ni, ac i’r byd, trwy aberth Iesu ar Galfaria. Mae’r neges hon yn gyfarwydd i Gristnogion, ond nid yw’n cymryd ymaith bŵer a rhyfeddod y neges wrth i ni fyfyrio arni o’r newydd eleni eto.

Ar Sul y Pasg, cofiwn nad arhosodd Iesu yn y bedd ond, fel y dengys yr adnodau uchod – aeth Iesu trwy farwolaeth i dywyllwch dudew uffern, a chafodd ei gyfodi wedyn ar y trydydd dydd. Cafodd ei weld yn gyntaf gan y gwragedd oedd yn ei ddilyn, ac yn ddiweddarach gan eraill a gofnododd yr adroddiadau llygad-dyst o‘u cyfarfyddiadau ag Ef yn yr Efengylau.

Cafodd yr Iesu ei lenwi â nerth Duw Ei Hun – yr Ysbryd Glân – i drechu grym pechod, drygioni a thywyllwch wrth iddo fynd o farwolaeth i fywyd!

Mae hyn yn newyddion rhyfeddol i ni heddiw: mae’r Iesu hwn, sydd yn Arglwydd ar y byd, yn cynnig ei aberth i bawb fel nad oes angen i ni ddioddef pwysau drygioni a marwolaeth am byth, ond derbyn bywyd newydd, a iachâd anhygoel ynddo Ef.

Mae Iesu yn cynnig ei aberth fel ‘oen perffaith’ i bob un ohonom ni, yn ein hamherffeithrwydd a’n heuogrwydd, ac i’r byd hwn.

Mawl i Dduw am ei fod yn ein caru ni gymaint, ac am fod marwolaeth yn realiti ‘dros dro’, a bod bywyd Duw yn dragwyddol – ac yn fwy pwerus o lawer nag y gallwn ni ei ddychmygu!

Pasg Hapus i chi i gyd!

Sioned Graves

Swyddog Cenhadaeth a Chyfathrebu Digidol

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »