Wrth i ni agosáu at yr Ŵyl, Llywydd UBC Bill Davies sydd yn ein hatgoffa o graidd a hanfod y Nadolig. Rhwng elfennau cyfarwydd a chysurus yr adeg hon o flwyddyn, a thyrbini presennol ein byd, mae’r galwad yr un fath ag erioed…
“Ai twrci fydd gennych chi eleni?’’
“Ai gartref fyddwch chi dros y ‘Dolig?’’
“Ddaw’r teulu draw rhyw ben?’’.
Dyma rai o’r cwestiynau a ofynnir i ni fel arfer yr adeg hon o’r flwyddyn. Hefyd, mae hysbysebion teledu yn newid ac yn ein hatgoffa yn ddi-dor fod y Nadolig ar y ffordd a chyfle o’r newydd i wario mwy o arian ar nwyddau arbennig fel persawrau drud neu ddiodydd alcohol ecsotig, a bocsus siocled i dynnu dŵr o’ch dannedd!
Slogan un o’r archfarchnadoedd poblogaidd blwyddyn neu ddwy yn ôl oedd, ‘’The best thing about Christmas is the food’’. Tybed?
Roedd un archfarchnad eisiau ‘’creu cymeriad y Nadolig’’.
Ond onid oes yna gymeriad arbennig wedi’i ‘’greu’’ yn barod a hynny ers canrifoedd? Clywais un arall yn honni ‘’Christmas will be great this year’’.
Pam y pwyslais ar eleni? Mae’r Nadolig yn arbennig ac yn achlysur i’w ddathlu bob blwyddyn, a hynny ers dros 2,000 o flynyddoedd.
Mae’r Nadolig hefyd yn amser i baratoi drama’r plant yn y capel. Rwyf yn llawn edmygedd o’r bobol rheiny sydd yn paratoi cyflwyniad gwahanol bob blwyddyn, a braf yw gweld y plant a’r bobol ifanc yn mwynhau perfformio yn eu ffordd arbennig nhw eu hunain.
Daw cerdd Gwyn Thomas i’r cof, y gerdd honno sydd yn sôn am y plant yn paratoi eu cyflwyniad Nadolig ac:
“O bryd i’w gilydd, yn yr ymarferion,
Bydd cega go hyll rhwng bugeiliaid a doethion,
A dadlau croch, weithiau, ymysg angylion
A bydd waldio pennau’n demtasiwn wrthnysig…..’’
Byddaf wrth fy modd yn rhoi anrhegion i aelodau o’r teulu ac i ffrindiau agos adeg y Nadolig…. a derbyn rhai hefyd, rhaid i mi gyfaddef! Ond yr anrheg gorau a gawsom erioed, pob un ohonom, oedd hwnnw gan Dduw.
Dywed y Testament Newydd: ‘’Yn hyn y dangoswyd cariad Duw tuag atom; bod Duw wedi anfon ei unig Fab i’r byd er mwyn i ni gael byw drwyddo ef’’.
Ie, Iesu Mab Duw, Goleuni’r Byd a Thywysog Tangnefedd.
Hawdd anghofio mawredd y Nadolig wrth i ni gael ein hudo gan yr hyn sydd gan y byd i’w gynnig i ni ar 25ain o fis Rhagfyr.
Gwyn Thomas eto sydd yn cloi’r gerdd fel hyn:
“Ar noson y ddrama, bydd pawb yn deulu;
Bydd diniweidrwydd gwyn yr actorion
Yn troi pethau cyffredin yn wyrthiol, yn eni………
Fe ddywedir eto nad yw Duw ddim yn darfod.’’
Y Nadolig hwn fodd bynnag sylweddolwn ei bod yn gyfnod cythryblus yn hanes y byd. Faint o ryfeloedd sydd yn dal i fodoli heddiw tybed? Oes yna rywun yn gwybod?
Cofiwn yn arbennig am y Dwyrain Canol o bobman ar drothwy dathlu genedigaeth Tywysog Heddwch a ddangosodd inni fywyd llawn cariad at gyd-ddyn ac at Dduw. ‘’Cerddwn oll gyda’n gilydd mewn hedd a harmoni.’’
Bydded i dangnefedd yr Ŵyl drigo yn ein calonnau ninnau y Nadolig hwn a thrwy gydol y flwyddyn newydd.
Y Parchedig O.M. Lloyd biau’r englyn:
‘’Nadolig Llawen, deulu, – a heddwch
A rhoddion o bobtu;
Mynnwn yn hwyl ein gŵyl gu
A’i saig fras gofio’r Iesu.’’
Bill Davies.
Llywydd UBC (Adain Gymraeg).