CERDDED! Cymru a Zimbabwe

O fis Mawrth – Hydref 2024, rydym yn galw ar eglwysi, unigolion, a chymunedau ar draws Gymru i ymuno â ni mewn her gyffrous, fydd yn cryfhau ein cysylltiad gyda chymunedau yn Zimbabwe

O fis Mawrth – Hydref 2024, rydym yn galw ar deulu’r Bedyddwyr (a thu hwnt!) ar draws Gymru i ymuno â ni mewn her i gerdded 750+ o filltiroedd, her fydd yn codi ymwybyddiaeth a chefnogaeth ar gyfer ein hapêl: Talentau Gobaith.

Mae Zimbabwe mewn cyfnod o sychder ar hyn o bryd, ac mae cymunedau amaethyddol wedi profi caledi enbyd ar ôl nifer o flynyddoedd o ansefydlogrwydd gwleidyddol ac economaidd, yn ogystal ag effeithiau cynyddol Newid Hinsawdd.

Rydym yn galw ar deulu’r Bedyddwyr i ymuno â ni wrth i ni gerdded hyd dwy wlad: Cymru a Zimbabwe (750+ milltir) er mwyn ‘uno ein camau’ mewn ffordd ffisegol a symbolaidd gyda chymunedau yn Zimbabwe, ac i godi ymwybyddiaeth ar gyfer gwaith partneriaid Cymorth Cristnogol yn y wlad.

Mae partneriaid Cymorth Cristnogol yn gwneud gwaith allweddol yn Zimbabwe trwy brosiect o’r enw BRACT (Building Resilience through improving the Absorptive and Adaptive Capacity for Transformation of at-risk communities), sydd yn anelu i gynyddu gwytnwch cymunedau amaethyddol.

Gwelwyd y trawsnewidiad a ddaeth o ganlyniad i waith BRACT ym mywyd Blessings Muzori. Pan oedd ffermio yn ymdrech oherwydd yr hinsawdd anwadal, roedd pethau yn anodd i deulu Blessings.

Ar ôl i’w gŵr symud i’r ddinas am waith, roedd yn rhaid iddi fyw o ddydd i ddydd, a bron bu’n rhaid i Blessings ‘fegera am fwyd gan gymdogion’ ar un achlysur. Roedd tyfu cnydau yn anodd iddi, a hyd yn oed pan oedd llwyddiant, roedd gwerthu’r cnydau yn y farchnad am bris teg yn her.

Ond, trwy gyngor ac offer a ddaparwyd trwy gymorth BRACT, daeth Blessings yn aelod i fusnes lleol cynaliadwy a llwyddiannus yn y farchnad leol, a dysgodd dechnegau ffermio newydd a wnaeth byd o wahaniaeth. Ers hynny, mae bywyd wedi bod yn well o lawer iddi hi, a dewiswyd Blessings yn brif ffermwraig yn ei chymuned.

Eleni, mae cyfle i ni ymuno â’r gwaith holl-bwysig hwn yn Zimbabwe, trwy uno ein camau gyda rhai fel Blessings

Sut galla i ymuno?

Mae’r her yn syml… CERDDWCH!

Dros gyfnod mis Mawrth – fis Hydref, byddwn yn cyfri’r nifer o filltiroedd fydd yn cael eu cerdded o fis i fis, ac yn cadw cofnod o ble’r ydym ni yn ôl ein targed o 750+ milltir i gerdded ar draws Cymru a Zimbabwe.

Llenwch y ffurflen hon i gofrestru ar gyfer yr her cerdded, ac i dderbyn e-bost i fewnbwn eich milltiroedd.

I ddarganfod mwy am sut y gallwch ymuno, ewch i dudalen CERDDED! Cymru a Zimbabwe yma.

Bydd yr ymgyrch cerdded yn cael ei lawnsio ar y 12fed o Fawrth wrth i staff UBC gwblhau’r milltiroedd cyntaf yng Nghaerfyrddin. Cadwch lygaid ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau o’r diwrnod!

Cadwch lygaid ar ein tudalen Facebook ac X dros yr wythnosau a misoedd nesaf i glywed y diweddaraf o’r ymgyrch CERDDED!, a straeon a diweddariadau o apêl Talentau Gobaith.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »