Archives: Cofiannau Gweinidogion

Un o blant Carmel Pontlliw oedd Haydn Bevan ac yn unig fab Dafydd ac Elizabeth Bevan.  Ganwyd ef yn 1901, ac roedd ganddo dair chwaer.
Ddiwedd mis Mai, bu farw’r Parchg Eurof Richards, gweinidog Penuel, Casllwchwr. Trydydd plentyn aelwyd John Glyn ac Abigail Richards oedd Eurof Richards, ac roeddent fel teulu yn addoli yng nghapel Calfara, Penygroes. Bu farw ei chwaer Margaret o’i flaen, a gadawyd ei frawd Glyn i rannu yng ngalar y teulu.
Ganwyd William Ewart Thomas ym mis Ebrill 1916 ym Mlaengarw i’w rieni William a  Mary Ellen Morton Thomas.  Cofir amdano fel bachgen direidus a bywiog nad oedd ag unrhyw ddiddordeb mewn gwaith ysgol.  Gadawodd yr Ysgol Uwchradd yn bymtheg mlwydd oed.
Brodor o’r Gerlan, Bethesda Gwynedd oedd y Parch R. Coetmor Jones (‘Bob’neu ‘Robin’) fel ei gelwid gan ei gyfoedion. Fe’i ganed yn Hill Street ym mis Hydref 1913. Mab ydoedd i Richard Jones, chwarelwr a thyddynnwr a’i wraig Elizabeth Jones ac yr oedd ganddo tri brawd, John, Wil ag Arthur a pum chwaer, Catherine, Ann, Alice, Phylis a Betty.
Efallai nad oedd llawer o gynulleidfaoedd eglwysi canol yr ugeinfed ganrif wedi sylweddoli eu bod yn byw yn oes aur y pulpud anghydffurfiol Cymreig, Roedd nifer dda o ddoniau cyhoeddus yn dod i’w penllanw, a sgiliau areithio cyfareddol y pregethwyr hyn yn boblogaidd.
Mab oedd  John Powell Griffiths i J. E. Griffiths (1841-1918), gweinidog Horeb, Sgiwen. Ganwyd y tad yn Froncysyllte, a’i godi i’r weinidogaeth ym Mhenycae, lle’r aeth i fyw gyda’i ewythr wedi iddo golli ei rieni yn dair oed.
Un o blant y wlad oedd Dewi Davies, ond a dreuliodd y rhan helaethaf o’i weinidogaeth yn nhref Llanelli.  Ganwyd ef yn fab i David a Mary Davies, ar dyddyn o’r enw Talgoed Bach, rhwng Pencader a Llandysul.  Eglwyswr oedd y tad cyn priodi, ond trodd at y Bedyddwyr wedi hynny gyda’i briod, gan ymaelodi yn Hebron, Eglwys y Bedyddwyr,  Pencader.
Anaml bydd grŵp o oedolion yn pwyso ar fachgen ifanc pymtheg oed i fod yn athro ysgol Sul arnynt, ond dyna  a ddigwyddodd yn Eglwys Beyddwyr y Star yn Llanfyrnach yn 1932.  Cafodd George Elias fagwraeth dda ar aelwyd grefyddol, ei dad yn ddiacon ffyddlon yn yr eglwys, a’i fam yn aelod gyda’r Methodistiaid yn eglwys Bwlchygroes.
William Jones ar ddydd Sant Steffan 1918 y pedwerydd plentyn i deulu o naw o blant Richard ac Elizabeth Jones, aelwyd Nant y Tŷ, Gerlan, Bethesda. Yn ôl tystiolaeth cyfoedion, roedd yn blentyn galluog iawn a ddaeth yn uchel iawn ar restr disgyblion llwyddiannus 11+ y sir. Bryd hynny roedd addysg yn gostus ac amgylchiadau economaidd y teulu yn methu ei gynnal i barhau ym myd addysg uwchradd, felly dechreuodd weithio’n 14 oed yn Chwarel y Penrhyn a chynorthwyo ar dyddyn y teulu cyn cael ei alw i’r fyddin ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd yn 1939 tan 1945.
Ganwyd Albert Tudor Davies ar 15 Rhagfyr 1909 ym Mhedair Heol ger Cydweli yn fab i David a Rachel Williams, Tynewydd, – aelwyd a fu’n deyrngar i’r Achos yn Salem, Pedair Heol.  Daeth yn drwm o dan ddylanwad cewri fel y Parchgn. M. T. Rees ac E. Curig Davies.  Yn Salem y dechreuodd bregethu ac yn ystod gweinidogaeth y Parchg Dewi Davies y teimlodd yr alwad i droi o’r gwaith glo i’r weinidogaeth Gristnogol.
Hidlo yn ôl yr Wyddor
Hidlo yn ôl yr Wyddor