Griffiths – John Powell (1875-1944)

John GrifithsMab oedd  John Powell Griffiths i J. E. Griffiths (1841-1918), gweinidog Horeb, Sgiwen. Ganwyd y tad yn Froncysyllte, a’i godi i’r weinidogaeth ym Mhenycae, lle’r aeth i fyw gyda’i ewythr wedi iddo golli ei rieni yn dair oed. Wedi cyfnod yn Athrofa Llangollen, cafodd ei ordeinio yn 1870 yn Swyddffynnon a Phontrhydfendigaid, gan symud i Horeb, Sgiwen, yn 1874. Priododd â Miss Powell o Lanybydder yn 1875 – a’i chyfenw hi a roddwyd fel enw bedydd i’r hynaf a’r enwocaf o dri o blant a anwyd iddynt. Cafodd Powell Griffiths ei eni yng nghartref ei fam yn Llanybydder.

Wedi cael addysg gynnar yn y National School yn Sgiwen ac Ysgol yr Henadur Davies yng Nghastell-nedd, aeth Powell Griffiths i’r “Sawel Academy” a gynhaliwyd gan y Parchg Jonah Evans yn Llansawel. Dywedir mai yno y datblygodd ei ddiddordeb yn y Clasuron. Yn 1894 cafodd fynediad i Goleg yr enwad a oedd newydd symud o Bont-y-pŵl i Gaerdydd. Prifathro’r Coleg oedd Dr William Edwards a oedd yn Glasurwr brwd ac nid yw’n syndod fod ei fyfyriwr newydd wedi cael ei feddiannu gan yr un brwdfrydedd. Cafodd Powell Griffiths ei gofrestru yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Mynwy yn 1896 a bu’n fyfyriwr yno tan iddo raddio ym Mehefin 1904. Gadawodd y Coleg gyda gradd B.A. (peth digon prin ar ddechrau’r ugeinfed ganrif). Nid oedd y Brifysgol yn cynnig graddau anrhydedd bryd hynny, ond dywed archif y Brifysgol iddo raddio mewn Groeg, Lladin a Hebraeg.

Flwyddyn ar ôl graddio cafodd ei ordeinio’n weinidog ar eglwysi Saesneg Llanbedr Castell-paen (Painscastle) a Llandeilo, sir Faesyfed. Symudodd i fod yn weinidog yn eglwys Saesneg Mount Pleasant yn y Ponciau yn 1913, gan aros yno tan ei farw yn 1944. Bu farw’r wraig a briododd yn 1917 o fewn dwy flynedd i’w priodas, a, maes o law, daeth Mrs B. A. Edwards (gwraig yn hannu o Sgiwen) i ofalu am ei dŷ  – a’i fyfyrwyr.

Yn y Ponciau agorodd Powell Griffiths ysgol yn ei gartref ar gyfer ymgeiswyr am y Weinidogaeth. Ond cymaint oedd ei frwdfrydedd dros y Clasuron fel y cynhaliai hefyd ddosbarthiadau nos mewn Groeg a Lladin yn y Rhos a’r Ponciau ar gyfer gweithwyr cyffredin. Honnir fod cymaint â 200 o goliars a’u tebyg yn mynychu ei ddosbarthiadau nos. Daeth llafur a llwyddiant Powell Griffiths gyda’r dosbarth Groeg i glustiau Stanley Baldwin, y Prif Weinidog, ac anfonodd yntau gopi o “The Classics and the plain man: Presidential Address delivered to the Classical Classical Association in the Middle Temple, 8th January, 1926,” at weinidog y Ponciau fel arwydd o barch i’r fath frwdfrydedd a ffydd yn achos dynoliaeth.

Ond ei ysgol yw’n diddordeb pennaf ni. Arbenigai ar ddysgu Groeg, Lladin a Hebraeg i’w fyfyrwyr cyn iddynt eistedd arholiad ar gyfer mynediad i goleg diwinyddol mewn cyfnod pan oedd y sefydliadau hynny’n llawn ac yn galw am arholiad cyn derbyn neb. Ond byddai hefyd yn dysgu Hanes ac Athrawiaeth Gristnogol os byddai galw.

Mae dyled enwad y Bedyddwyr i Ysgol Powell Griffiths yn enfawr oherwydd y gwaith a wnaeth yn hyfforddi darpar weinidogion – er y dylid cofio iddo hyfforddi bechgyn o enwadau eraill, hefyd. Aeth cymaint â 140 o ddynion ato am hyfforddiant ac er nad oes modd bod yn sicr o’r rhif cywir nac enwau pob un, gwyddys fod rhestr ei gyn-ddisgyblion yn cynnwys llawer o blith y Bedyddwyr:  Emlyn John, Hugh Pryce-Jones, R. G. Roberts, T. Elwyn Williams, Caradog Davies, Elfed Davies, Yr Athro Emlyn Davies, Tom Davies, R. E. Davies, Lewis Young Hayden, Coetmor Jones, E. V. Wyn Jones, Owen Jones, Y Prifathro Tom Ellis Jones, T. J. Morris, Geraint Owen, Idwal Wynne Owen, Trefor Owen, Herbert Roberts, J. S. Roberts, Maxwell Roberts, O. E. Roberts, Ceiriog Rogers, Gwyn Williams, Rhydwen Williams, R. O. Williams, Tregelles Williams a W. Môn Williams. Ceir awgrym fod y Prifathro Gwilym Bowyer, Coleg Bala-Bangor, wedi elwa o ysgol Powell Griffiths hefyd.

Mae’r enw “Coleg y Rhos” a arferir weithiau am ei ysgol, ynghyd â’r nifer gafodd hyfforddiant yno, braidd yn gamarweiniol gan mai mewn tŷ teras yn Stryt Osborne yr oedd yr athro a’r myfyrwyr  yn byw a’r gwersi’n digwydd. ‘Adeilad o frics coch Ruabon’ gyferbyn ag ochr y Capel Mawr oedd Preswylfa, ‘tair ystafell i lawr a thair i fyny; cerdded drwy’r [ystafell] ganol [ar lawr] i gyrraedd y drydedd’  yn ôl Emlyn John.  Nid oedd ond lle, felly, i ddau fyfyriwr preswyl ar y tro, gyda drws agored a chroeso i eraill o’r cylchoedd cyfagos i ymuno yn y gweithgareddau ar hyd dydd. Gyda’r nos byddai’r athro’n cynnal rhai o’i ddosbarthiadau allanol, ac yn paratoi ei bregethau ar gyfer y Sul ynghyd â sgwrs ar gyfer Cwrdd Gweddi nos Lun.

Ymddengys mai am chwech y bore yr arferai’r gwersi ddechrau i’r rhai oedd yn fyfyrwyr preswyl ac yn rhannu cartref yr athro. Groeg a Lladin fyddai’r pynciau bryd hynny fel arfer, ac yr oedd brecwast am wyth o’r gloch yn gyfle i adrodd drwy’r berfau a’r enwau a ddysgwyd yn y sesiwn gyntaf. Wedi brecwast cyrhaeddai’r myfyrwyr allanol – sef y bechgyn lleol – a byddai’r gwersi wedyn yn pahau tan amser te, gyda thoriad i ginio.

Unwaith yr wythnos, aed am wers Gymraeg gan y Parchg S. L. Davies tra roedd yntau yn weinidog yn Seion Ponciau. Saesneg siaradai Powell Griffiths â’r bechgyn bob amser, er ei fod yn Gymro rhugl. Hefyd âi’r bechgyn am wers at J. T. Jones, Prifathro Ysgol Ramadeg Ruabon, iddo yntau eu goleuo ar scansion barddoniaeth Lladin!

Ar y noson y bomiwyd y Rhos, treuliodd yr athro, yr house keeper,  T. J. Morris ac R.G. Roberts bedair awr yn y cwtsh dan staer gan fynd i’r gwely am bedwar o’r gloch y bore, wedi i’r cyrch awyr beidio – ond galwyd hwy am chwech ar gyfer y wers Groeg yr un fath!

Niweidiwyd y mans yn y cyrch awyr a chaeodd yr ysgol tan i’r tŷ gael ei atgyweirio.  Nid y Clasuron yn unig a ddysgai, oherwydd, yn ôl Emlyn John, roedd yr athro hefyd yn hyddysg mewn mathemateg ac amryw o’r ieithoedd Ewropeaidd, gan gynnwys Esperanto. Oherwydd hyn, yr oedd amryw o rieni’r Rhos yn manteisio ar Powell Griffiths i roi gwersi preifat i’w plant mewn Ffrangeg, yn ogystal â Lladin. Pan ymlaciai Powell Griffiths byddai’n cymryd drosodd yr ystafell ganol yn y tŷ, rhoi ei draed i fyny, llwytho’i bib, a darllen storïau detectif Ffrangeg.

Bu farw wedi cystudd byr ar fore Sul, 5 Mawrth, 1944 yn 69 mlwydd oed. Yn ôl ei ddymuniad, llosgwyd ei gorff a thaenwyd ei lwch ar fedd ei rieni yn Aberduar.

Cyfrannwr : D. Hugh Matthews