Jones – Evan Talfryn (1857 – 1935)

Cam ffol yw cymharu gweinidogion gyda’i gilydd, neu dybied fod cyfraniad y naill yn fwy na’r llall, ond byddai’r sawl a welodd y twf eithriadol yn hanes Anghydffurfiaeth yng Nghymru rhwng 1870 a 1920 yn siwr o ddweud bod Evan Talfryn Jones yn un o’r amlycaf a mwyaf poblogaidd o weinidogion y cyfnod.  Gwelodd aelodau Seion, Eglwys y Bedyddwyr yn Llanelli, o orau y gŵr hwn ac i’r sawl a gafodd y cyfle i fod o dan ei weinidogaeth synhwyro ei fod yn un o ddylanwadau mawr ei ddydd.

Ganwyd Evan T. Jones ar 26 Mai 1857 ym Moel-y-crio, Helygain, Sir y Fflint, yn unfed ar ddeg o 12 plentyn Evan a Mary Jones. Roedd cyffro ysbrodol yn y wlad, a’r werin yn ymdeimlo â’u hawliau a’u cyfle. Roedd ei dad ac eraill o fechgyn y teulu yn gweithio yn y pwll glo,  Derbyniodd ei addysg gynradd ac uwchradd yn lleol, gan gofrestru yn Ysgol Llangollen yn 1879. Methodistiaid oedd ei rieni, a derbyniodd arweiniad drwy’r Gymraeg yn Ysgol Sul Rhosesmor. Pan oedd yn saith oed, cafodd ei dad a’i frawd Tom ddamwain yn y pwll, ac ni fedrai’r tad weithio ar ôl hynny. Symudodd i Ysgol Helygain, a oedd yn nes adref, ac yno llwyddodd i foddloni ei athrawon. Yn dilyn marwolaeth y tad yn 42 nlwydd oed, bu’n rhaid i Evan adael yr ysgol a chael gwaith yn bugeilio defaid.  Am bedair blynedd cafodd gyfle i brofi gwaith yn Gwaith Bryn Gwîog, cyn symud i leoedd eraill gan adael y gweithle yn 1876 i gael rhagor o addysg.  Dyma’r adeg y daeth Evan o dan ddylanwad gweithwyr duwiolfrydig a dechrau mynychu Ysgol Sul ac Eglwys y Bedyddwyr yn Ainon, Pant-y-glo, Helygain lle roedd y Parchg J. D. Hopkins yn weinidog. Arferai weddîo wrth noswylio ac un noson, cafodd brofiad rhyfeddol ac awydd i bregethu.  Ymunodd gyda Dosbarth Nos yn Ysgol Frytanaidd Licswm dan ofal Owen Edwards.  Mynychodd y cyfarfodydd hyn am ddau aeaf gan fwynhau gwrando ar bobl fel Ceulanydd yn darlithio.

Bedyddiwyd ef gan y Parchg John Thomas, o Landudno yn 1872 ac ymroddodd i fyfyrio’r Beibl a chyfrannu at fywyd yr eglwys.  Magodd ddiddordeb mewn barddoniaeth, ac arfer y ddawn o siarad yn gyhoeddus.  Prynai’r Athraw, Y Greal, a’r Cronicl, a ysbrydolwyd ef i siarad o’r frest.  Prin ygrifennai  ei bregethau allan yn llawn, gan fwyfwy ddibynnu ar fraslun yn unig.  Roedd barddoni wrth ei raen a dechreuodd ddysgu’r gynghanedd. Dyma’r adeg y mabwysiadodd y ffug-enw Talfryn a’i ddefnyddio wrth gystadlu.  Lluniai englynion a darganfuodd Huw Roberts yr enghraifft canlynol –

                       Moli’r Arglwydd.

Melysach fydd moli oesol – y nef

Mewn nwyfiant tragwyddol:

Gado’r byd i gyd am gôl

Gynnes Iesu digonol.   

Nid oedd yn sicr ohono’i hun, a dychwelodd i weithio.  Roedd ei iechyd yn fregus fel iechyd ei fam a fu farw yn Ionawr 1878 heb glywed ei mab yn pregethu.  Lluniodd gerdd goffa iddi

Yng ngosteg min hwyrddydd ‘rol cystudd wythnosau

‘Roedd mam yn dihoeni yn nhwymyn ei phoenau.

Yn gwylio’i chyfyngder ‘roedd Tom ei mab hynaf;

Ac yno at alwad ceid finnau’r ieuengaf.

A’i law yn ei dala, amneidiai fod eisiau

Ireidd-der bydd derfyn i leithio’i gwefusau;

Mi droes ar amrantiad, estynnais amdano,

Ond nid oedd ei eisiau, fy mam oedd yn huno

Yn araf gostyngwyd ei phen i’r gobennydd;

Hi ddirgel ymfudodd i wynfyd ei Harglwydd.

Daeth diwrnod yr angladd; daw dydd y dadebru

Ha! Carwn ei nabod ar ddelw yr Iesu.

Chwe blynedd wedi dod yn aelod. dechreuodd bregethu ar anogaeth ei weinidog ifanc newydd y Parchg Evan Phillips, a chan ei gyd-aelodau. Yn yr oedfa gyntaf, traethodd ar y testun ’Wele y mae ef (Saul) yn gweddïo’.  Gweithiodd yn galed ar lunio pregethau, a daeth y traddodi’n hawdd iddo.  Yn 1879 aeth yn fyfyriwr i Ysgol y Tŵr, o dangyfarwyddid Dr Ellis, mab Cynddelw gan fynychu yr Eglwys Saesneg leol.  Datblygodd sgiliau cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg yn y cyfnod hwn ac addunedu i fod yn lwyr-ymwrthodwr.  Bu’n pregethu mewn nifer o lefydd yn ystod 1880, gan gynnwys Lerpwl.  Pregethai yn Gymraeg ac yn Saesneg, Yn 1881, priododd Miss Annie Roberts o Res-cae, a bedyddiwyd hi yng nghapel Ainon.  Roedd y gweinidog yn Ainon wedi symud, a gwahoddwyd Evan i ddychwelyd atynt fel eu gweinidog nesaf. Er dedwydded y gweinidog newydd yn Ainon, prin fu’r amser y bu’n weinidog yno, gan gael ei ordeinio a’i sefydlu ym mis Medi 1881 a gadael ym Mawrth 1882.  Roedd wedi bod yn pregethu yn Horeb, Penryn-coch, Aberystwyth, a derbyn galwad oddi wrthynt i fod yn weinidog yno.  Derbyniodd y gwahoddiad a dal cyswllt agos gydag eglwysi bychain Sir Fflint ar hyd ei oes.  Ymgartrefodd Evan ac Annie Jones yn y fro newydd  ac yn ystod y flwyddyn, ganwyd eu mab cyntaf, Edward Garfield Jones. Roedd ei ddoniau fel pregethwr yn ddeniadol iawn, ond dim ond am flwyddyn y bu yn ardal Aberystwyth o Fawrth 1882 hyd at Mawrth 1883.

Cafodd gyfle i bregethu yn y Gymanfa yn Aberteifi yn ystod y flwyddyn ac yno  roedd un o ddiaconiaid Eglwys Blaenywaun, eglwys ai chapel ond yr ochr ddeheuol i’r afon, yn gwrando arno. Roedd hwnnw’n sicr mai Evan Jones fyddai gweinidog nesaf yr eglwys o 571 o aelodau,  ynghyd a’i chwaer eglwys yn Gerazim a oedd a 121 aelod.  Pregethodd ar brawf yn y ddwy eglwys yn Sir Benfro ac ar Ddydd Gwyl Dewi sefydlwyd ef yn weinidog ar eglwysi hyn.  Er mai ond yn ei ugeiniau oedd Evan T. Jones, cafodd wahoddiadau i bregethu mewn nifer o wyliau, gan gynnwys Caerdydd, yn gwmni i rai o bregethwyr amlycaf ei gyfnod.  Merch oedd yr ail blentyn a anwyd yn Sir Benfro, sef Ceridwen, ac roedd y teulu yn profi o fendithion nef.

Yn mis Mai 1892 dechreuodd ar ei weinidogaeth a barhaodd am wyth mlynedd a hanner yn ardal ddiwydiannol Llwyn-y-pia yng nghanol y Rhondda Fawr.    Roedd poblogaeth y cymoedd glo wedi tyfu’n eithriadol, â phobl wedi symud o’r ardaloedd gwledig a Chymreig i geisio gwaith a bywoliaeth yn yr ardaloedd diwydiannol.  Roedd y niferoedd yn sylweddol, a’r eglwysi yn cynyddu, a chapeli helaeth yn cael eu hadeiladu.  Roedd Jerwsalen yn llwyfan cwbl addas i bregethwr mor sylweddol a E. T. Jones.  Dyma gyfnod sefydlu eglwysi newydd ac adeiladu mwy o gapeli sylweddol eu maint.  Roedd y Parchg W. Morris yn Noddfa Treorci a’r Parch Dan Davies yn y Porth,  a’i ragflaenydd y Parchg J. R. jones wedi symud i hyrwyddo’r achos Newydd ym Mhontypridd.  Roedd cyffro yn y tir, ac ar un wedd, roedd wedi cyrraedd y Rhondda yn oes aur y genhadaeth Anghyd-ffurfiol. Dyma gyfnod geni Blodwen a Tom Esmor, ei ddau blentyn ieuengaf, a hawdd gweld gobaith a bodlonrwydd yn byrlymu ym mhregethu y cennad o Fflint.  Gadawodd Evan T Jones Gymru i fynd ar deithiau pregethu yn America.  Roedd yn ŵr a diddordebau eang, a pha ryfedd y byddai wedi magu diddordeb yn y tiroedd newydd hyn yr ochr arall i Fôr yr Iwerydd.  Gwnaeth nifer eraill fel James Spinther James ymweliad tebyg â’r cyfandir newydd hwn.  Cafodd anser llwyddiannus iawn yno, yn bregethwr difyr a fyddai’n denu ac argyhoeddi ei gynulleidfa.

Yn dilyn y tri mis ar ei daith bregethu yn yr Amerig, dychwelodd E.T. Jones i Gymru a phregethodd ar ddau Sul olaf yn Seion Llanelli.  Roedd Lleurwg, y gweinidog yno,wedi marw a’r eglwys yn aeddfed i geisio gweinidog newydd.  Roedd y Parchg Evan Jones yn barod am her newydd, ac ynatu yn 43 oed.  Sefydlwyd un o bregethwyr amlycaf yr enwad yn eglwys mwyaf nifeus y Bedyddwyr, gyda dros 500 o aelodau, yng Nghymru. Bedyddiodd 21 yn ei oedfa gyntaf yn yr eglwys, a thros y 29 mlynedd y bu’n weinidog yn Seion, roedd wedi bedyddio dros 500 o aelodau, gan gynnwys ei bedwar plentyn, sef Garfield, Eiddwen, Blodwen a Tom Elsmor.  Yn Ionawr 1905, bedyddiodd 57 o gredinwyr, a hynny yn anterth y diwygiad rhyfeddol yn y cyfnod hwnnw.  Yn y cyfnod eithriadol hwnnw, roedd aelodaeth yr eglwys wedi cyrraedd 996 yn 1906′ ond yn gyson dros 800 ar hyd cyfnod ei weinidogaeth yno.  Bu’r cyfnod hwn yn gyfnod eithriadol ar sawl cyfrif.  Roedd ysbrydoliaeth y Diwygiad wedi gadael gwaddol i nifer o eglwysi Cymru am genhedlaeth a mwy. 

Rhyfeddod yr ail ddegawd oedd y Rhyfel Mawr, 1914-1918, ac ni ellir gwir amgyffred effaith trawmatig y profiad hwn ar y genedl chwaith.  Bu’r canlyniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a chrefyddol Cymru yn sylweddol hefyd, roedd y Parchg Evan T. Jones yn dawel ei feddwl bod yn rhaid ymladd y rhyfel er mwyn sicrhau rhyddid Ewrop.  Roedd llawer wedi derbyn datganiad David Lloyd George bod cofrestru fel milwr yn golygu bod y bobl hyn yn ymuno yn y fyddin sanctaidd.  Felly gwnaeth llawer o Gymry, gan gynnwys Tom Esmor Davies, mab ieuengaf gweinidog Seion.  Dyfynnir Evan T Jones gan Huw Roberts yn anfon at y bechgyn a aeth o Seion gan ddweud  “Wrth ystyried eich dewrder yn dioddef drosom ni a’n gwlad annwyl, a rthros gyfiawnder, teimlwn bryder calon i chwi allu gwneud hynny oddi ar y cymhellion gorau er mwyn Crist a’r Efengyl’.  Yn 1916 dywedodd “Cymeriad ein milwyr yw’r gwerth mwyaf i’w gadw”.  Ar Ebrill 6ydd 1918 lladdwyd Tom Esmor, ac ni ddaethwpwyd o hyd i’w fedd.  Methodd y tad bregethu am ddau Sul.  Testun ei bregeth ar ei Sul cyntaf nôl yn y pulpud oedd ‘O Arglwydd, at bwy yr awn ni?  Gennyt ti y mae geiriau bywyd tragwyddol?’  Lluniodd y penillion hyn yn ystod y misoedd wedyn –

Dy lais, O! Fugail mwyn, fu’n wastad ar ein clyw;

Trwy lawnder awn heb gŵyn at ffrydiau’r dyfroedd byw.

Dy gwmni agos fydd ein hyder drwy y glyn;

A chysgod angau dry yn wawrddydd Seion fryn.

Pan ddaw hiraeth i’n calonnau, a grym ymchwydd llanw’r môr,

Clywir weithiau nefol geinciau telyn newydd yn y côr.

               Telyn gyfan

     Fythol chwyddo gân yr Oen.

Roedd y pregethwr poblogaidd hwn yn teithio’n helaeth a pha ryfedd iddo ddioddef lludded a gwendid.  Nid oes modd gwybod a’i gor-deithio oedd achos ei afiechyd a’i peidio, ond serch y blinder byddai’n pregethu 77 o weithiau ar gyfartaledd ym mhulpud Seion bob blwyddyn.  Pregethai’n gyson yn uchel wyliau’r enwad, ac yn 1928, cynhaliwyd Cyrddau Blynyddol y Bedyddwyr yn Llanelli am y pedwarydd tro gyda’r Parchg E.K Jones yn llywydd.  Yn rhyfeddol, ni fu’r Parchg  E.T. Jones yn llywydd U.B.C ei hun.  Anodd credo na fyddai llawer am ei enwebu, ac efallai iddo deimlo nad oedd yn dymuno hynny ei hun.  Ni fyddwn byth yn gwybod. 

Ymddeolodd ddiwedd 1929 er yn parhau fel pregethwr a darlithydd.  Ceir gan Huw Roberts yn ei lyfryn gofnod difyr o’i destunau pregethu.  Ysgrifennodd E.T.Jones nifer o erthyglau hefyd, gan gyhoeddi yn y Greal ac yn Seren Gomer.  Pan adawodd y Mans, aeth ef a’i wraig i fyw at eu merch Alice, nid nepell o’r capel. Gwaelodd iechyd ei briod, a bu hithau farw ar Fawrth 13, 1932 a gadawodd y profiad greithiau trwm E. T. Jones. Dirywiodd ei iechyd yntau ac er ei lawenydd yn gweld y Parch Jubilee Young yn ei olynnu nododd ei ŵyr fod ei daid erbyn hyn yn colli tir.  Bu farw ar Orffennaf 6ed 1935 yn 78 oed, ac yn ôl Huw Roberts, un a gymerodd ran yn yr angladd, roedd mwy yn bresennol yn yr angladd honno nag a fu i unrhyw angladd arall yn Seion dros hanner canrif. Cofir amdano fel pregethwr, areithiwr, darlithydd, hanesydd, colofnydd, bardd a chyfaill addfwyn i laweroedd.   Roedd yn agos at alodau’r eglwys ac yn uchel ei barch gan ei gyd-weinidogion.  Bu ei gyfraniad yn ei lefaru, ei ofal dros eraill a’i fuchedd yn ddylanwadol iawn, ac yn fendith i laweroedd.

Ffynonellau

Hanes Eglwys  Sion, Llanelli (Llanelli 1931), yn bennaf 92-115 (gan Benjamin Humphreys); 

Seren Gomer, 1936, 41-52, 148-53.

E.T.Jones Llanelli   1966 Cyfres y Dathlu Undeb Bedyddywr Cymru Gwasg Ilston.  Huw Roberts.

Cyfrannwr

Denzil Ieuan John.