Price – John (1968-1952)

Ganwyd John Price yn Nowlais, ar Hydref 7, 1868, ond ymhen ychydig amser, symudodd y teulu i fyw i’r Rhondda ac aethant yn aelodau ym Moreia, Pentre.  Yno, cafodd John Price ei fedyddio yn Hydref 1882 ac o fewn naw mlynedd, cafodd ei annog i fynd i’r weinidogaeth. Bu yn Ysgol Baratoi Aberafon am ddeunaw mis, cyn mynd i’r coleg yn Hwlffordd, ac yna ymlaen i Goleg Rrifysgol Cymru, Aberystwyth.  Ar ôl cymhwyso, derbyniodd alwad oddi wrth Siloam, y Ferwig ym mis Medi 1896 a blwyddyn yn ddiweddarach, daeth Eglwys y Bedyddwyr ym Mlaenwenen yn rhan o’r un ofalaeth.  Yno y bu am weddill ei oes.

Dyma gyfnod o gynnydd sylweddol yn hanes yr eglwysi hyn.  Roedd Diwygiad 1904-5 wedi digwydd, er nid oes tystiolaeth i’r diwygiad effeithio’n uniongyrchol ar dde Ceredigion. Eto, gwelwyd bwrlwm yn y dystiolaeth Gristnogol yn y fro a bedyddiodd John Price nifer sylweddol a’u derbyn i aelodaeth y ddwy eglwys.  Roedd bri ar weithgareddau yr Ysgol Sul, y Cyrddau Gweddi ac roedd ei bregethu o hyd yn wresog ac yn llawn argyhoeddiad.  Rhoddwyd pwyslais ar yr ochr ddiwylliannol yn yr eglwysi hefyd, ac roedd bri mawr ar y cyfarfodydd cystadlu. Ar benblwydd canrif a hanner o hanes yr achos ym Mlaenwenen, dywed yr awdur – Mr J. B. Harris, bod yr eglwys o dan arweiniad y Parchg John Price, wedi sicrhau trefn weinyddol gadarn ac hefyd wedi helaethu maint y fynwent. Yn 1928, codwyd festri newydd at ddibenion yr eglwys a’i gweithgareddau.   

Yn 1928, gwahoddwyd y Parchg John Price i fod yn Llywydd Cymanfa Bedyddwyr Caerfyrddin a Cheredigion. Tybir fod pwyslais ei anerchiad, (a gafodd ei thraddodi o bulpud Eglwys Rhydwilym), ar “Perthynas Driphlyg yr Eglwys Gristnogol”.   Pwysleisiodd bwysigrwydd –

a) perthynas yr Eglwys gyda’r Arglwydd Iesu Grist; 

b) Perthynas yr Eglwysi gyda’i gilydd; 

c) Perthynas yr Eglwysi gyda’r byd.   

Yn 1911, priododd John Price gyda Hannah Watkins, gwraig hawddgar a nith i dirfeddiannwr cyfoethog o’r enw Thomas Watkins o Peterborough, ac ar ôl ei phriodi hi,  mwynhaodd y ddau bywyd dedwydd yng ngodre Sir Aberteifi.  Bu farw hithau yn 1944 ac yn fuan wedyn symudodd yntau i fyw at ei nith, sef Mrs Gwen Bevan, priod y Parchg D. H. Bevan.  Roedd cyswllt Mrs Bevan gyda’i hewyrth yn arbennig o agos, gan iddi dderbyn gofal arbennig gan Mr a Mrs Price, ynghyd â’i brawd, yn dilyn marwolaeth anhymyg ei thad.  Gweithredodd y Parchg John Price fel tad a chynhaliwr iddynt yn  y cyfnod bregus hwn, a bu’r gofal a ddangosodd hithau iddo ym mreuder ei amgylchiadau yntau yn weithred gariadlon a phrydferth. 

Nodir i’r Parchg John Price draddodi ei bregeth olaf yn yr eglwysi ar Sul olaf Rhagfyr 1951, ac anrhegwyd ef am dreulio dros hanner canrif yn weinidog yn yr un ofalaeth.  Bu farw ar Fai 21, 1952, yn 83 oed ar aelwyd Haydn a Gwen Bevan.  Hedd i’w lwch. 

Cyfrannwyr:

D Haydn Bevan       Llawlyfr 1953

J B Harris                 ‘Gyrfa Canrif a Hanner Achos y Bedyddwyr ym Mlaenwenen 1938-1988’

Denzil John