Davies – Robert Edward

Ganwyd yn ail fab i John ac Ann Davies, Deva Acrefair yn un o chwech o blant, Philip, Muriel, Robert, Edith (a briododd y Parch J.S Roberts, Treforys) Hilda a Tom.

Gadawodd yr ysgol yn 1913, aeth i weithio i’r “Labour Exchange” yng Nghefn Mawr. Yn 1916 ymynunodd  fyddin, i ymladd yn y “trenches” gan wir gredu ei fod yn ymaldd rhyfel i ddiweddu pob rhyfel. Daeth drwyddi yn ddi-anaf ond yn ddyn gwahanol iawn i’r un a hwylio i Ffrainc, yn heddychwr , a bu felly hyd ddiwedd ei oes. Wedi dychwelyd o Ffrainc gweithiodd am gyfnodau fel clerc yn y gwaith brics lleol a phrentis mewn swyddfa papur newydd.

Yn 1924, ymddangosodd ei enw yn llawlyfr Cymanfa Dinbych Fflint a Meirion fel ymgeisydd am y Weinidogaeth, yn cael ei gyflwyno gan ei Weinidog y Tabernacl, Cefn Mawr y Dr E.K Jones.

Bu yn paratoi ei hun am gyfnod yn Ysgol Powell Griffiths y Rhos cyn mynd i Goleg y Bedyddwyr yng Nghaerdydd yn 1925. Yn 1929 derbyniodd alwad yn Weinidog i Iesu Grist, yn y Tabernacl Llannerchymedd a Bethesda Bodafon.

Priododd yn 1930 a Myfanwy Vaughan, Staylittle, a  phriodwyd hwy yn y Stae’ gan y Dr E K Jones ei Weinidog ac ewythr Myfanwy. Ganwyd eu hunig ferch Ann yn 1932.

Gwasanaethodd deuluoedd yr ardal gan ymateb yn Gristnogol  a chyda gras ac addfwynder i amrywiol alwadau . Yn y Llan’ nid oedd enwadaeth yn cyfri dim iddo pan oedd galwad yn dod i wasanaethu . Nifer yn nodi fel teyrnged iddo nad Gweinidog Bedyddwyr oedd  Mr Davies ond Gweinidog y Llan’.

Yn 1944 cyflwynodd bentref Llannerch y medd lyfryn hardd fel tysteb iddo a diolch am ei waith diflino a’i diffygiodd yn lan yn ystod yr ail ryfel byd .Mae’r llyfr yn llawn lluniau a hanes diddorol a gwaith caligraffi cywrain yr arlunydd enwog o Fôn  Harry Hughes Williams.  Yn wir ,trysor o gyfrol. Cynrychiolodd ddwsinau o fechgyn ifanc ar ardal ar sir mewn tribiwnlysoedd i Wrthwynebwyr Cydwybodol, ymwelodd â chleifion rhyfel mewn sawl ysbyty , a chefnogodd yn ymarferol ac ysbrydol nifer oedd wedi dychwelyd o’r rhyfel wedi eu torri yn feddyliol. Roedd ei empathi â hwy yn fawr oherwydd ei brofiad personol ei hun, ond bu hyn oll yn dreth arno ac yn draul ar ei iechyd , bu yn wael am gyfnod ei hun.

Bu yn ysgrifennydd Cymanfa Môn am 33 o flynyddoedd, a sawl unigolyn ac eglwys wedi derbyn cyngor doeth ganddo ar faterion cyfreithiol a chyfansoddiadol yn ystod y cyfnod maith yma.

Bu yn Llywydd Cymanfa Môn ddwywaith yn 1943 a 1967.  Yn briodol iawn yn 1967 traddododd anerchiad o’r gader “Y Gymanfa hon” ei thraddodiad a’i threfn

Gwasanaethodd Undeb Bedyddwyr Cymru a Phrydain Fawr fel aelod o’r Cyngor am 30 mlynedd, yn teithio i Lundain yn rheolaidd i sawl pwyllgor.

Drwy bleidlais unfrydol fe enwebwyd yn Llwydd yr Undeb , ac er i sawl un geisio ei berswadio , gwrthod ymgymryd ar swydd a fu ,diffyg hunanhyder a diffyg uchelgais yn sicr yn cyfrif am hyn .Digon iddo ef oedd bod yn weinidog da i Iesu Grist yn ei ardal ei hun.

Roedd yn bregethwr grymus yn paratoi yn ofalus ar gyfer ei gynulleidfa.

Roedd yn weddïwr dwys ei weddïau cyhoeddus yn gofiadwy yn dawel a phwyllog roedd yn siarad gyda’i ffrind gorau.

Roedd yn ddarllenwr mawr nofelau a barddoniaeth Cymraeg a Saesneg ond y llyfr wastad wrth ei ymyl oedd ei Feibl .Nid llyfr iddo i godi testun ohono oedd ei Feibl, ond llyfr a gair Duw ynddo iddo ef yn bersonol.

Roedd yn ddyn o ddifrif gyda phethau Duw , yn fugail tyner a gofalus ei ofal o’i bobl, yn bugeilio yn gyson, ar droed neu feic, teithiai filltiroedd i ymweld â’i bobl.

Yn ystod ei weinidogaeth bu yn llawenydd mawr iddo, godi o Fethesda Bodafon ddau weinidog i Iesu Grist Parch O Ellis Roberts yn 1937 ac R G Roberts yn 1941.

Ymddeolodd ar ddydd olaf o Hydref 1965, er iddo barhau i deithio a phregethu ar y Sul ciliodd o fywyd cyhoeddus.

Un o’r pethau olaf iddo gyflawni yn gyhoeddus oedd pregethu gydag O Ellis Roberts, Peter M Thomas a Dewi Davies yng Nghymanfa Môn, Mai 1977 a gynhaliwyd yn Llannerch y medd. Testun ei bregeth “bydd ffyddlon hyd angau – ac mi a roddaf i ti goron y bywyd”.

Wedi salwch anodd a misoedd hir yn Ysbyty Môn ac Arfon Bangor, bu farw yn dawel Awst 31, 1979.

Cynhaliwyd ei angladd yn y Tabernacl, Llannerch y Medd ac yn Amlosgfa , Bangor o dan arweiniad O.Ellis Roberts a nifer o’i gyfeillion yn cynorthwyo.

Dadorchuddiwyd maen coffa iddo gan ei wyres mewn gwasanaeth o ddiolch amdano   yn y Tabernacl  Gorffennaf 1980  a’r geiriau addas arni;

“ac yn ei enau ni chaed twyll”

Elen Vaughan Jones