Lewis – Tom Rees (1911-1999)

Ganwyd T. R. Lewis yn Stryd Russell, Llanelli ar 28 Hydref, 1911, y mab canol o blith pum plentyn Maria a David Lewis.  Ar ddydd ei enedigaeth cymerodd ei dad ef yn ei freichiau a’i gyflwyno i wasanaeth yr Arglwydd, cymaint oedd ei ymddiriedaeth a’i argyhoeddiad Gristnogol ddofn. Derbyniodd ei addysg yn yr ysgolion lleol, a dangos cryn allu academaidd.

Addolai’r teulu yn Caersalem, Eglwys y Bedyddwyr, ac yno y meithrinwyd T.R. yn y ffydd. Yn 1934 gwireddwyd breuddwyd y tad, pan gyflwynodd y mab ei hun i wasanaeth yr Arglwydd.  Treuliodd ddwy flynedd yn Ysgol Baratoad Ilston cyn cychwyn ar ei gwrs coleg o chwe mlynedd yng Ngholeg  Prifysgol Cymru, Bangor. Llwyddodd y blynyddoedd hyn i rymuso’i ysgolheictod, ac er iddo dderbyn mwy nag un cynnig i ymarfer yr ysgolheictod hwnnw mewn gyrfaoedd academaidd, mynnodd sianelu ei allu a’i argyoeddiad i gyfeiriad y weinidogaeth Gristnogol.

Ordeiniwyd T. R. Lewis yn Ngorffennaf 1942 a’i sefydlu yn Seion Porthmadog a Berea Cricieth. Yn yr un flwyddion priododd â Eva Taroni Evans ym Methania, Llanelli, lle addolai ei theulu hithau. Roedd yn ferch hardd o dras Eidalaidd, a bu hithau’n gymar delfrydol iddo ar hyd y daith. Profodd ei hun yn weinidog diwyd a bugail ymroddedig, yn ysgrythurwr cadarn, yn bregethwr tawel ac yn weddïwr a oedd a’r ddawn i dynnu’r nef yn agos.

Eglwys y Bedyddwyr Albanaidd oedd Berea, ond ymunodd gydag Undeb Bedyddwyr Cymru er mwyn bod yn rhan o’r gwahoddiad i T.R. ddod yn weinidog i’r cylch.  O fewn amser byr, roedd digwyddiad Prydeinig o bwys yn ei wynebu, gan i David Lloyd George farw a gofyn am cael ei gladdu ar lan yr Afon Dwyfor, yn Llanystumdwy. T.R. Lewis oedd y llais lleol yn yr oedfa hon a ddarlledwyd ar y teledu ac ef hefyd fu’n llywyddu cyfarfodydd dathlu canmlwyddiant eglwys Berea yn 1986.  Cofir iddo fod yn defnyddio beic wrth deithio yn yr ardal, ac ef fu unig weinidog Berea ar hyd hanes yr eglwys. Ceir atgofion hyfryd amdano yn Seion, Porthmadog hefyd, gyda rhai o bobl ifanc y cyfnod yn edrych yn ôl gyda gwerthfawrogiad ar ei amser yn eu plith.  Cyflawnodd ei weinidogaeth yn y ddwy eglwys gydag urddas a didwylledd, a theimlwyd ei fod yn berson o allu arbennig ac yn gymhathiad delfrydol o academig â fwynheai gwmni pobl wrth ymweld â hwy. Arhosodd yn y cylch am chwe mlynedd a mwynhau’r profiad yn fawr.   Lluniodd emyn i ddathlu’r achlysur, i’w chanu ar dôn Hanover.

Canmolwn ein braint wrth ddod i Dŷ Dduw,

Tŷ gweddi a mawl – ein priod le yw,

Gwaith dwylo ein tadau – ffrwyth aberth eu ffydd,

Rhown glod i’w gwroldeb wrth ddathlu yn rhydd.

                      Cawn gofio eu hynt o ddod i Dŷ Dduw,

Di-ildio eu grym, diwyro eu byw,

Yn dilyn y Gair oedd yn drysor mor ddrud,

Yn ufudd i’w hawliau wrth rodio ynghyd.

Cawn gofio eu sêl o ddod i Dŷ Dduw,

Cyfrinach eu nerth – eu ffydd ddiledryw,

Y Tŷ oedd eu nodded, ac aelwyd eu ffydd,

Yn seren eu t’wyllwch, a heulwen eu dydd.

Wynebwn eu her o ddod i Dŷ Dduw,

Eu canlyn mewn ffydd, ein dyled ni yw,

Bydd gwres eu mawr gariad, a phurdeb eu moes,

Yn gymorth i drechu mawr bechod ein loes.

Ond llonder eu ffydd o ddod i Dŷ Dduw,

Oedd ‘nabod y Mab, a Meddyg pob briw,

Gwirionedd Ei eiriau, rhyfeddod ei groes,

A’i dyg hwy i’r Bywyd a leddfai pob loes.

                                                   T. R. Lewis

Ar ôl chwe mlynedd o wasanaethu yn y gogledd, derbyniodd alwad i Elim, Craig Cefn Parc, a’i sefydlu yno ym mis Ebrill 1948.  Cyflawnodd weinidogaeth egnïol yno a llwyddodd i ennyn ymddiriedolaeth a serch pobl ei ofal. Fel yn ei ofalaeth yn Nwyfor, bydd atgofion y sawl a oedd yn bobl ifanc yng nghyfnod ei weinidogaeth yng Nghwm Tawe yn sôn amdano fel personoliaeth ystyrlon a charedig.  Trefnodd daith i Wlad Belg ar gyfer ieuenctid yr eglwys a theithio gyda hwy.  Byddai’n awyddus i’w cynorthwyo gyda’i gwaith ysgol a dangos cryn ddealltwriaeth o lenyddiaeth Saesneg ymysg pynciau eraill. Cofir iddo hyrwyddo digwyddiadau hwyl ar gyfer yr ifanc, a chofir am ei ymdrech i ddefnyddio dathliadau Guto Ffowc a pharti’r Nadolig i’r diben hynny. Rhoddai bwyslais ar waith paratoi ar gyfer Arholiadau Ysgol Sul Undeb Bedyddwyr Cymru, ac roedd ieuenctid ardal yn dod i’w Guild y Bobl Ifanc, gan gynnwys pobl ifanc eglwysi’r ardal, a hynny o sawl enwad.    

Yn 1961, symudodd i dref Aberystwyth, a’i sefydlu ym Methel, Stryd y Pobydd.  Roedd nifer o academyddion y brifysgol yn y gynulleidfa, ond roedd ganddo ddigon o adnoddau i gwrdd â rhychwant yr aelodaeth gyfan.  Roedd yn fonheddwr tawel, yn berson preifat a swil, a chofir amdano fel meddyliwr deallus ac yn bregethwr cadarn. Darllenai ei Destament Groeg fel rhan o’i arlwy dyddiol hyd y diwedd. Arfer yr Ysgol Sul ym Methel oedd trefnu taith i siopa yn yr Amwythig, (sy’n ddiddorol o gofio bod Aberystwyth yn dref glan môr), ond rhoddodd T.R.Lewis egni sylweddol i drefnu teithiau gwahanol a chofir gan rai, daith i ben yr Wyddfa, a dringo Cadair Idris, a cherddai ef ei hun i’r copa bob tro. Cofir amdano yn cynnal oedfa i’r myfyrwyr ar Sul cyntaf mis Hydref ac roedd ei hiwmor yn byrlymu ar yr adegau hyn.        

Person gwylaidd oedd T.R.Lewis, nad oedd yn hoff o dynnu sylw ato’i hun.  Ni fu’n amlwg ym mheirianwaith Undeb Bedyddwyr Cymru, ac ni fu erioed yn llywydd iddi.  Prin y byddai unrhyw un yn sôn amdano fel pregethwr theatrig nac yn areithiwr lliwgar.  Yn hytrach, roedd yn fodlon i feithrin perthynas agos gydag aelodau’r gynulleidfa, a chyflwyno deunydd ei neges yn llyfn ac effeithiol.  Nodir gan bawb, iddo fod yn weinidog annwyl gan geisio meithrin teulu’r ffydd gan helpu eraill i deimlo eu bod yn perthyn i’w gilydd. 

Symudodd ei frawd Gwyn i fyw yn y dref, a a thrysorodd y ddau ohonynt yr agosrwydd hwn yn fawr. Bu’n gyfaill agos i Mr Ben Owen, ysgrifennydd yr eglwys, a ddaeth ymhen y rhawg yn Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru yn1972. Roedd llawer o’r gynulleidfa yn bobl a werthfawrogai y math o bregethu a ddaeth yn naturiol i T.R. Lewis.  Dywedodd ei olynydd sef y Parchg Peter Thomas yn ei ysgrif yn Llawlyfr 2000 amdano

“Gŵr solet, bonheddig oedd T.R.Lewis, yn dawel a diffws ei ymarweddiad, yn ysgolhaig deallus a phregethwr gafaelgar, yn un a gadwodd urddas a safon y weinidogaeth trwy gydol ei rawd.  Roedd yn darllen y Testament Groeg yn rhan o’i arlwy dyddiol o astudiaeth hyd y diwedd.  Braint fu ei adnabod ac fe erys ei ddylanwad a’i gynghorion doeth yn waddol gwerthfawr”.

Lluniodd Mr W.R.P. George englyn i’w gofio wedi ei farwolaeth yn 1999, ac yntau yn 88 oed, gan ddweud

I’r Iesu, rhoes ei drysor – ei antur

     Oedd pontio’r gagendor

A’i weddi ef i Dduw Iôr

Fel tirion afon Dwyfor”

Bu’r berthynas briodasol yn hynod glos, gyda’r naill yn cefnogi’r llall ym mhob peth.  Roedd ganddynt dwy ferch, sef Rhiannon ac Eirian, a tystia’r ddwy iddynt brofi cynhesrwydd a diogelwch ar yr aelwyd.  Byddai ei ddigrifwch yn brigo i’r wyneb ac yn cyfrannu at awyrgylch ddedwydd.  Gwerthfawrogai gwmni ymwelwyr yn ei gartref ar ôl ymddeol, ac wrth ei fodd yn mynd yng nghwmni ei weinidog, sef y Parchg Peter Thomas i amrywiaeth o gyfarfodydd.  Bu farw yn 1999, gan adael y teulu a llawer o ffrindiau i ddathlu ei fywyd a chofio ei dystiolaeth a’i gwmnïaeth. 

Cyfrannwyr:

Eirian Pugh  (merch)

Denzil Ieuan John.

Peter M. Thomas.