Yr Wyddor: D

Newyddion a Digwyddiadau

Y diweddaraf gan Undeb Bedyddwyr Cymru

Davies – Dewi (1907-1999)

Un o blant y wlad oedd Dewi Davies, ond a dreuliodd y rhan helaethaf o’i weinidogaeth yn nhref Llanelli.  Ganwyd ef yn fab i David a Mary Davies, ar dyddyn o’r enw Talgoed Bach, rhwng Pencader a Llandysul.  Eglwyswr oedd y tad cyn priodi, ond trodd at y Bedyddwyr wedi hynny gyda’i briod, gan ymaelodi yn Hebron, Eglwys y Bedyddwyr,  Pencader.

Darllen mwy »

Davies – Alun John (1911 -1985)

Un o blant Eglwys Beulah, Cwmtwrch oedd Alun J. Davies, ac fel dau arall o’i frodyr, John Glyndwr a Gerson, ymdeimlodd â’r alwad i’r weinidogaeth o dan ddylanwad pregethu y Parchg Glasnant Young.  Roedd gan Daniel a Jane Davies, Bryneithin, Cwmtwrch Isaf, ddeuddeg o blant  ac Alun oedd yr ieuengaf ond un.  Nodwn enwau’r plant i gyd yn nhrefn eu geni sef Ishmael, Tabitha, David R, Tom Alcwyn, Mary, Arianwen, David D, May, John Glyndwr, Gerson, Alun, a Gwladys.

Darllen mwy »

Davies – John Clement (1896-1982)

Ganwyd John Clement Davies ar aelwyd Dafydd (David) a Mari (Mary) Davies yn ‘Bell View,’ Llandudoch, ar 2 Ionawr 1896.  Ef oedd yr ieuengaf o saith plentyn, gydag ef yn unig wedi ei eni yn Llandudoch. Bu farw tri yn ifanc o wahanol afiechydon, a bu farw William George yn 44 oed, yn dilyn anafiadau a ddioddefodd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Un chwaer iddo oedd Sally, a’r llall sef Mary Ann, (Polly) oedd mam y Parchg Carey Garnon (1924) a Mair Garnon James (g.1928).

Darllen mwy »

Davies – T. George (1900 – 1977)

Un o blant Llangennech oedd George Davies, ac ymhyfrydai yn ei achau Bedyddiedig o ochr ei dad.  Annibynwraig oedd ei fam, a drodd at y Bedyddwyr ac roedd iddi berthnasau yn weinidogion gyda’r enwad honno.   Ganwyd George yn Rhagfyr 1900, a chafodd blentyndod diddig ym mhentref ei enedigaeth, ond symudodd y teulu i Rydaman pan oedd yn ei arddegau cynnar, gan fynychu Ebeneser, Eglwys y Bedyddwyr, Rhydaman

Darllen mwy »

Davies – Mathias (1897-1977)

Bonheddwr tawel ei wedd fu Mathias Davies erioed, yn urddasol a chymwynasgar. Ganwyd ef yn Solfach. a magwyd ef fel unig blentyn oherwydd i’w chwaer fach farw yn ifanc iawn. Derbyniodd ei addysg gynnar yn yr ardal honno ac ar ôl gadael yr ysgol, aeth i weithio mewn fferyllfa.

Darllen mwy »

Davies – Gerson (1909-1976)

Un o blant Beulah, Cwmtwrch oedd Gerson Davies, a ddaeth o dan ddylanwad gweinidogaeth Glasnant Young, fel ei ddau frawd – John Glyndwr Davies, ac Alun John Davies.  Roedd deuddeg o blant i gyd, a’r teulu cyfan yn amlwg ym mywyd hanes Beulah. Yn nhrefn eu geni, cofir am Ishmael,…

Darllen mwy »

Davies – Gwynne Henton (1906-1998)

Ganwyd Gwynne Henton Davies yn Aberdâr, Morgannwg yn 1906. Roedd yn fab i John Davies ac Edith Henton. Symudodd teulu’r tad o Fro Morgannwg i’r cymoedd, eithr hanai ei fam o deulu o deilwriaid gwlad yn sir Benfro. Priododd ei rieni yn 1904 a ganwyd Gwynne yn…

Darllen mwy »

Davies – J Elfed (1916-1988)

Ganed Elfed Davies ym mis Rhagfyr 1916 ac fe’i magwyd yn  Rhosllannerchrugog yn fab i Daniel a Sarah Davies. Glöwr oedd Daniel Davies, yn gweithio ‘dan ddaear’ ym mhwll yr Hafod. Pan oedd Elfed yn 10 mlwydd oed dioddefodd lawer oherwydd y dirwasgiad mawr.  Nid oedd ganddo esgidiau ac roedd…

Darllen mwy »

Davies – Griffith ( -1827

Gweinidog cyntaf Eglwysy Tabernacl, Caerdydd oedd y Parchg Griffith Davies. Daeth i’w swydd yn 1815, blwyddyn o bwys yn hanes Prydain wedi’r rhyfel â Ffrainc. Gwasanaethodd am gyfnod byr o dair blynedd yn yr eglwys ifanc  hon, ac yn ystod ei weinidogaeth parhâi i ddal cysylltiad â’r fam-eglwys yng Nghroes-y-parc….

Darllen mwy »