Davies – T. George (1900 – 1977)

Un o blant Llangennech oedd George Davies, ac ymhyfrydai yn ei achau Bedyddiedig o ochr ei dad.  Annibynwraig oedd ei fam, a drodd at y Bedyddwyr ac roedd iddi berthnasau yn weinidogion gyda’r enwad honno.   Ganwyd George yn Rhagfyr 1900, a chafodd blentyndod diddig ym mhentref ei enedigaeth, ond symudodd y teulu i Rydaman pan oedd yn ei arddegau cynnar, gan fynychu Ebeneser, Eglwys y Bedyddwyr, Rhydaman. Roedd ganddo dair chwaer a brawd, sef y Parchg Hubert Davies. Fel George, graddiodd Hubert gyda BA. BD. a’i ordenio i’r weinidogaeth gyda’r Bedyddwyr.  Daeth George yn aelod o’r eglwys honno ar ôl cael ei fedyddio gan y gweinidog sef y Parchg John Griffiths, un a ddaeth yn ddiweddarach yn brifathro Coleg y Bedyddwyr, Caerdydd.  Prif ddiddordeb George oedd y weinidogaeth, ac ymdeimlodd â’r alwad i’r gwaith hwnnw yn ifanc iawn. Pregethodd am y tro cyntaf yn gynnar yn 1918 ac ymgeisiodd am le yng Ngholeg y Bedyddwyr ym Mangor. Derbyniwyd ef yn fyfyriwr pan oedd yn ddim ond 17 oed ar yr un pryd â Mathias Davies o Solfach, Sir Benfro, a bu’r ddau yn gyfeillion mynwesol ar hyd eu hoes.

Llwyddodd mewn dwy radd yn ystod ei gyfnod ym Mangor ac yn bump ar hugain oed, ordeiniwyd George yn weinidog yn Eglwys Nebo, Glyn Ebwy, eglwys Saesneg ei hiaith yng Nghymanfa Mynwy, yn 1925. Denodd T. George Davies gynulleidfaoedd sylweddol gan newydd-deb ei bregethu, ac ystyrid ef yn bregethwr o sylwedd ar hyd ei oes.  Roedd ffresni yn ei fynegiant ar hyd y blynyddoedd.

Ymhen pedair blynedd, roedd wedi derbyn gwahoddiad eglwys y Tabernacl, Penbre, i fod yn olynydd i’r Parch Ellis Williams, a threuliodd 27 mlynedd, yn uchel ei barch ac yn selog ei wasanaeth.  Roedd ei bwyslais ar waith yr Ysgol Sul a’r Dosbarth Beiblaidd yno. Codwyd nifer i’r weinidogaeth o dan ei arweiniad, a bu’n ddarlithydd yng Ysgol Ilston, Caerfyrddin, yn y cyfnod hwn hefyd.  Priododd â Miss Ethel George o Bontardawe, merch ysgrifennydd eglwys Adulam yn y dref yn fuan yn ei gyfnod ym Mhenbre, a bu’n briodas ddedwydd iawn.

Yn 1950, gwahoddwyd ef i lanw cadair Hanes yr Eglwys fel olynydd i’r Athro M. B. Owen yng Ngholeg Presbyteraidd, Caerfyrddin.  Yn 1956, teimlai nad oedd hi’n ddoeth iddo aros yn y Tabernacl gyda’r coleg yn hawlio mwy o’i amser, a theimlodd mai cam cyfrifol fyddai symud i faes ysgafnach gan dderbyn gwahoddiad Eglwysi Tabernacl Hen-dy-gwyn a Bwlchgwynt, yn olynydd i’r Parchg Morgan Jones.  Yn 1959 derbyniodd wahoddiad y Coleg i lenwi swydd y prifathro, y Bedyddiwr cyntaf i lenwi’r swydd, gan wasanaethu am bymtheng mlynedd.  Yn ‘Hoff Ddysgedig Nyth’ (1976) dywed Dewi Eurig Davies am ei gyn-ddarlithydd “gallaf dystio i drylwyredd ei waith, fel athro, ei ysbryd agored caredig, a’i feddwl byw.”

Cyfrannodd George Davies yn sylweddol i fywyd yr enwad drwy lenwi nifer o swyddogaethau.  Bu ar Fwrdd y Weinidogaeth am ddeng mlynedd ar hugain, gan wasanaethu fel cadeirydd am gyfnod.  Bu’n aelod o sawl comisiwn yng ngwaith yr enwad ac yn ysgrifennydd Pwyllgor Ysgol Sul yr Undeb.  Yn sgîl hynny, roedd ar Gyngor yr Undeb am flynyddoedd hefyd. Bu’n llywydd dwy Gymanfa, Caerfyrddin a Cheredigion (1961-2) a Gorllewin Morgannwg (1974-5).  Cyhoeddwyd crynodeb o’i anerchiad yn Llythyr Cymanfa Caerfyrddin a Cheredigion 1961 a’i thema oedd ‘Y Gobaith sydd ynom’. Cafodd y fraint o draddodi’r anerchiad honno o’r pulpud y bu ynddi fel gweinidog am gyhyd ym Mhenbre. Gwrthododd dderbyn enwebiad i fod yn llywydd yr Undeb. Cyfunwyd y Coleg yn 1963 i ffurfio Ysgol Ddiwinyddol yng Nghaerdydd ac am bum mlynedd hyd at ei ymddeoliad, gwasanaethodd T. George Davies fel warden i’r sefydliad hwn.  Aeth i fyw ym Mhontardawe, tref enedigol ei briod.

Bu ei frawd, y Parchg Herbert Davies, BA, BD, a fu’n weinidog ym Mhenuel, Caerfyrddin, yn gymorth parod yn Ysgol Ilston, ac hefyd yng Ngholeg y Presbyteriaid, Caerfyrddin.  Agorwyd Coleg y Presbyteriaid yn 1842 gan gau yn 1963.  Hwn oedd y coleg cyntaf yng Nghymru i gynnig hyfforddiant i weinidogion hyd at safon gradd prifysgol. Gellir darllen hanes y coleg yn Hoff Ddysgiedig Nyth o waith y Parchg Athro Dr Dewi Eurig Davies.  Dywed M.J.Williams ar ddiwedd ei deyrnged i’w gyfaill. “roedd yn ŵr craff ac yn deall y tueddiadau ymhlith Bedyddwyr Cymru, bu’n gyfaill a chynghorwr da i ysgrifenyddion yr Undeb am ddeugain mlynedd”

Cyfrannwyr:

Mathias Davies.   Llythyr Cymanfa Caerfyrddin a Cheredigion 1961

M.J Williams.        Llawlyfr UBC 1979

Denzil John