Davies – J Elfed (1916-1988)

Elfed DaviesGaned Elfed Davies ym mis Rhagfyr 1916 ac fe’i magwyd yn  Rhosllannerchrugog yn fab i Daniel a Sarah Davies. Glöwr oedd Daniel Davies, yn gweithio ‘dan ddaear’ ym mhwll yr Hafod. Pan oedd Elfed yn 10 mlwydd oed dioddefodd lawer oherwydd y dirwasgiad mawr.  Nid oedd ganddo esgidiau ac roedd yn cael ei fwyd o’r ceginau cawl.  Cafodd ei addysg yn Ysgol y Rhos ac yna yn Ysgol Ramadeg Rhiwabon – ymysg ei gyd-ddisgyblion oedd Meredith Edwards yr actor a’r Dr Glyn O Phillips y gwyddonydd. Roedd yn mynychu capel Penuel, Rhos deirgwaith ar y Sul, y Gobeithlu ar nos Wener ac amryw o gyfarfodydd eraill.  Y gweinidog oedd y Parch Wyre Lewis oedd yn uchel iawn ei barch. Roedd dylanwad Wyre Lewis yn enfawr a phenderfynodd Elfed fynd i’r weinidogaeth ond doedd dim arian i’w anfon i’r brifysgol. Felly cafodd swydd mewn siop groser yn Llangollen a bu’n mynd yno o’r Rhos, ar ei feic, am saith mlynedd, tra gyda’r hwyr byddai’n astudio Hebraeg a Groeg y Testament Newydd gyda John Powell Griffiths, gŵr hynaws oedd yn arbenigo mewn addysgu dynion ifanc yr ardal – a rhai o Gymru benbaladr – a’u paratoi ar gyfer mynd i’r colegau diwinyddol.  Yn y dosbarthiadau hyn y cyfarfu Elfed â T J Morris o Sir Benfro oedd yn aros gyda J P Griffiths a dyna ddechrau cyfeillgarwch am oes i’r ddau.

Yn nghapel Penuel, cyfarfu â merch ifanc o’r enw Heulwen Jones, oedd yn byw yn Duke Street. Roedd y ddau yn Ysgol Ramadeg Rhiwabon ac oddi yno aeth Heulwen i Ysbyty Frenhinol Caer i nyrsio ac wedyn i Lerpwl i Ysbyty Sefton Park ac yn y pen draw fel bydwraig yn ardal Coedpoeth.

Ar ddiwedd y saith mlynedd yn Llangollen aeth Elfed yn fyfyriwr i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor ble gwnaeth ddwy radd – BA a BD. Tra yno fe’i etholwyd yn Llywydd y Myfyrwyr rhwng 1943 a 1944. Ei gyd-fyfyrwyr, ymysg eraill, oedd T J Morris, Carey Garnon, Rhydwen Williams a D R Pritchard. Daeth i adnabod Meredydd Evans (oherwydd eu bod ill dau yn astudio Athroniaeth) a Cledwyn Jones ac Elfed yn wir oedd y trydydd canwr yn Nhriawd y Coleg cyn iddo orfod rhoi’r gorau i’r canu oherwydd prysurdeb Llywyddiaeth yr Undeb a dyna’r pryd yr ymunodd Robin Williams â’r ddau arall.

Yn dilyn ei gyfnod ym Mangor aeth Elfed i goleg Regent’s Park, Rhydychen i wneud gradd MA ac roedd yno rhwng 1944 a 1946. Yna derbyniodd alwad i Ebeneser, Llandeilo a Bethel Pontbrenaraeth ble y’i ordeiniwyd a’i sefydlu mewn gwasanaethau ar Orffennaf 3ydd a 4ydd 1946. Ar Orffennaf 10fed 1946 priodwyd Elfed a Heulwen ym Mhenuel, Rhosllannerchrugog gan y Parch Wyre Lewis gyda’r Parch TJ Morris yn was priodas. Buont yn byw yn y Mans, Berwyn, Latimer Road, Llandeilo tan 1948 pan gafodd Elfed alwad i Benuel Bangor. Symudodd y teulu (yn cynnwys eu merch, Calan oedd yn wyth mis oed) yn y mis Medi a byw yn y Mans – Plas Trefor, Deiniol Road, drws nesaf i’r Dr Tom Richards, Llyfrgellydd Prifysgol Bangor a Diacon ym Mhenuel. Roedd y ddau’n bennaf ffrindiau. Yn dilyn ei sefydlu ym Mhenuel dywedodd y diaconiaid wrtho bod yn rhaid dymchwel y capel i ledaenu’r ffordd! A dyna ddigwyddodd – cyfnod cyffrous fel eglwys ac ym 1952 agorw
yd yr adeilad newydd.

Yn ystod y cyfnod hwn bu’n cymryd rhan mewn dramâu ar radio BBC dan gyfarwyddyd Sam Jones. Elfed oedd Bandit yr Andes a Gŵr Pen y Bryn. Ar hyd ei fywyd bu’n darlledu’n rheolaidd.

Gadawodd Elfed y weinidogaeth ym 1954 a mynd yn Brif Ddarlithydd yng Ngholeg Cartrefle, Wrecsam. Ond roedd yn pregethu yn rhywle bob Sul – yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ym 1960 fe’i apwyntiwyd yn Uwch Ddarlithydd yng ngholeg y Barri a bu yno tan 1963 pan symudodd i Goleg Prifysgol Cymru Caerdydd yn Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Addysg gan arbenigo mewn Athroniaeth Addysg. Yn y cyfnod hwn cymerodd ofal dros gapel Bedwyddwyr Saesneg, Llandaff Road, Caerdydd a bu yno am ddeng mlynedd. Fe’i gwahoddwyd yn gynnar yn y ‘70au gan Gyngor Eglwysi Prydain i fynd ar daith bregethu 8 wythnos i Unol Daleithiau America. Cymaint oedd y gynulleidfa yn Short Hills, New Jersey wedi mwynhau ei bregethu fel y rhoesant wahoddiad iddo ddod yn ôl bob blwyddyn am chwech wythnos i gymryd gofal dros yr eglwys tra roedd ei gweinidog ar ei wyliau. Gwnaeth hyn am ddeng mlynedd gan addysgu’r Americanwyr am Gymru ac am emynau Cymraeg. Roedd ei arddull o bregethu yn gweddu i’r Americanwyr – cymysgedd o sylwedd dwys, hiwmor a thri phen cofiadwy! Yn ystod y deng mlynedd yma aeth fel darlithydd dan wahoddiad i brifysgol Princeton – braint enfawr.

Ym 1981 llwyddodd i ennill gradd D Theol. Pwnc ei thesis oedd The Greek Sophists of the Fifth Century BC and their Contribution to Educational Theory and Practice.

Dros gyfnod o dri mis rhwng Tachwedd 1973 ac Ionawr 1974 aeth i Brifysgol Ibadan yn Nigeria fel darlithydd dan wahoddiad a bu’n pregethu yno a chael gwefr o wneud hynny.

Ers y 1950au bu’n aelod o Rotary ac ym 1987 cafodd yr anrhydedd o fod yn Llywydd Rotary ym Mhrydain ac Iwerddon.

Ym 1983 fe’i sefydlwyd yn weinidog ar Noddfa, Porthcawl a than ei weinidogaeth cafodd yr eglwys gyfnod cyffrous a gweithgar. Bu farw’n dawel ar ôl cystudd hir ar fore Chwefror 22ain 1988.

Cyfrannwr:  Calan McGreevy