Davies – John Clement (1896-1982)

Ganwyd John Clement Davies ar aelwyd Dafydd (David) a Mari (Mary) Davies yn ‘Bell View,’ Llandudoch, ar 2 Ionawr 1896.  Ef oedd yr ieuengaf o saith plentyn, gydag ef yn unig wedi ei eni yn Llandudoch. Bu farw tri yn ifanc o wahanol afiechydon, a bu farw William George yn 44 oed, yn dilyn anafiadau a ddioddefodd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Un chwaer iddo oedd Sally, a’r llall sef Mary Ann, (Polly) oedd mam y Parchg Carey Garnon (1924) a Mair Garnon James (g.1928). Bu Mair yn ysgrifenyddes yn Eglwys Blaenwaun yn ddiweddarach, yn bregethwraig a diddanwraig mewn nosweithiau llawen lleol. George oedd cyfenw Mari Davies, mam y saith plentyn, ac yn perthyn i deulu David Lloyd George.  Yn ôl y Parchg John Thomas, roedd Belle View yn ‘dŷ di-addurn, ond yn gartref prydferth, a’i addurn pennaf oedd yr awyrgylch gysegredig.’

Daeth y Parchg J.D. Hughes yn weinidog newydd i Flaenwaun yn 1905 o eglwys Moriah, Dowlais, ac yn ôl tystiolaeth Clement Davies  ‘fe’m cyfareddodd yn llwyr.’  Edrydd hanes J.D. Hughes yn bedyddio dros drigain o bobl un prynhawn Sulgwyn a blwyddyn yn ddiweddarch bedyddiodd bum deg chwech o ddeiliaid bedydd credinwyr – a Clement Davies oedd yr ieuengaf a’r olaf i’w fedyddio ac yn credu, er ei fod mor ifanc, ei fod yn ‘un a oedd wedi ei arfaethu gan Dduw i fod yn bregethwr yr Efengyl.’ Dosbarthu llaeth oedd gwaith Clement cyn mynd, yn 19 oed, i goleg yr enwad ym Mangor, a bu yn y coleg am ddwy flynedd yn unig.  Roedd y cyfnod ym Mangor yn anodd i bawb, yn enwedig gan fod nifer o’i gydfyfyrwyr wedi ymdeimlo â dyletswydd i gefnogi’r ymgyrch filwrol.  Yn eu plith roedd Lewis Valentine ac Albert Evans. (Cynan).  Nid oeddent yn bleidiol i gario arfau, ond fel myfyrwyr diwinyddol eraill, roeddent yn barod i weithio fel cynorthwywyr a chludwyr meddygol. Roedd prifathro’r coleg, sef y Parchg Silas Morris wedi colli ei fab yn y rhyfel, a phan dderbyniodd Clement Davies alwad i fod yn weinidog yn eglwysi Penuel, Tyddynshon a Tabor, Llithfaen ym Mhen Llyn, y Parchg Arthur Jones, gweinidog Penuel, Bangor a lywyddodd yr oedfaon hynny, yn absenoldeb staff y coleg. Dywed ei nai, D. Carey Garnon mewn ysgrif goffa i Clement Davies, yn nyddiadur yr enwad 1984 ‘Yr oedd ymhlith y nifer a ddioddefodd erledigaeth oherwydd eu hargyhoeddiad heddychol a’u gwrthwybnebiad cydwydbodol i ryfel.’  Yn llyfryn Eglwys y Bedyddwyr Penuel, Tyddynshon, yn dathlu daucanmlwyddiant yr achos yn 1994, dywedir –

‘Mentro a wneuthpwyd a hynny yn nrhymder Rhyfel Byd Cyntaf drwy roi galwad i fyfyriwr ifanc o Goleg Bangor, Clement Davies i fod yn weinidog yno ac yn Llithfaen. Ordeiniwyd ef a’i sefydlu ym Medi 1917. Nid oedd neb o’r coleg yn bresenol yn yr ordeinio; y Prifathro Silas Morris wedi colli mab yn y brwydro ac wedi chwerwi. Arthur Jones, gweinidog Penuel Bangor felly oedd yn llywyddu yn absenoldeb yr athrawon.’

Cafodd Clement Davies weinidogaeth gyfoethog yn Llŷn, a bu’n lletya ar aelwyd Hendre Bach, (fel ei olynydd y Parchg A. J. George).  Melin goed oedd Hendre Bach, gyda ffermwyr ac adeiladwyr y fro yn galw heibio’n gyson i brynu nwyddau.  Lle ardderchog i gyfarfod â thrigolion y fro. Er mor llewyrchus oedd y weinidogaeth, yn ôl ei fab, y Parchg Dr Dafydd G. Davies, ‘ni fyddai’r gweinidog ifanc yn sôn am y cyfnod yn y coleg’.

Priodwyd Clement Davies gyda’i ddyweddi Gwen Ellen Griffith o Gaernarfon, athrawes sirol â’i gwreiddiau yn yr Eglwys Fethodistiaid, yn Engedi, Caernarfon. Cynhaliwyd y gwasanaeth priodasol, serch hynny, yng nghapel Blaenwaun, Llandudoch, Sir Benfro,  ar 27 Gorffennaf 1921.  Ganwyd eu hunig blentyn, sef Dafydd Gwilym Davies cwta flwyddyn yn ddiweddarach, ychydig fisoedd cyn i’r teulu symud o Sir Gaernarfon i Orllewein Sir Gaerfyrddin, ar lan yr afon Teifi yng Nghastell Newydd Emlyn.  Gwireddwyd dyheadau y tad, flynyddordd yn ddiweddarach, pan ymdeimlodd Dafydd â’r alwad i’r weinidogaeth, ac ymhen y rhawg, ordeiniwyd y mab yn weinidog ar ddwy o eglwysi Ynys Môn, sef Seion M. E. ger Benllech, a Moreia, Pentraeth.  Yn ddiweddarach yn ei yrfa, cafodd ei apwyntio yn athro yng Ngholeg y Bedyddwyr Caerdydd, cyn cael ei ddyrchafu’n brifathro. Un arall o blant y eglwys y Graig a ymgyflwynodd ei hun i’r weinidogaeth oedd Lyn Rees, un a fu’n weinidog am amser maith yn Saron Llandybie, ac fel ei dad yn y ffydd, yn meddu ar y ddawn i gyfathrebu’n effeithiol gyda’i gynulleidfa.

Bu Clement Davies yn weinidog yn y Graig nes iddo ymddeol  yn 1963 yn 67 oed, 41 mlynedd yn yr un ofalaeth.  Bu’n gyfnod arbennig a chyfraniad y gweinidog yn sylweddol i’r eglwys, yr ardal, y gymanfa a’r enwad.  Meddai yntau ar y ddawn i siarad yn fyrfyfyr ar unrhyw adran o’r ysgrythur.  Yn yr oedfaon gweddi, byddai un o’r gynulleidfa yn darllen rhan o’r ysgrythur, heb drefnu ymlaenllaw gyda’r gweinidog, a byddai yntau yn rhannu myfyrdod.  Ceir hanes i un aelod chwilio am y darn lleiaf tebygol o’r Beibl, gan obeithio dal y gweinidog, ond ni fyddai byth yn llwyddo, cystal oedd gwybodaeth feiblaidd y gweinidog.  Cofir amdano yn anad unrhyw beth fel un a ddathlai bregethu, ac roedd yn enwog fel un a saernïai bregethau yn gelfydd ac effeithiol. Byddai yn nyddu eglurebau a fyddai’n cael eu gwerthfawrogi gan ei gynulleidfaoedd. Meddai ar y ddawn i gyfareddu cynulleidfa, a hawlio gwrandawiad wrth ennill ei sylw’n llwyr. Byddai yn codi thema o’r testun a’r hyn oedd yn bwysig iddo ym ôl ei olynydd, y Parchg Irfon Roberts, oedd ‘rhannu’r mater ac nid rhannu’r adnod’. Ysgrifennodd y Parchg Dr Dafydd G. Davies bennod am ei dad yn ‘Namyn Bugail’, gan danlinellu bod pregethu yn ganolog ac yn greiddiol i holl feddwl Clement Davies, a bod crefft y pregethwr a saernïaeth y bregeth yn destun trafod di-ddiwedd.  Cynhelid tair oedfa ar ddydd Nadolig yn y Graig, arfer a ddaeth i ben ymhen blynyddoedd, ond dyna oedd pwyslais y Parchg Clement Davies.

Cafodd wahoddiadau i symud maes i fannau eraill, ond aros yn ymyl yr Afon Teifi a wnaeth bob tro.  Etholwyd ef yn yn llywydd yr Undeb yn 1959 a thradododd anerchiad ar ‘Bregethu’r Efengyl’ yn Ebeneser Rhydaman. Dilynodd llawer o lywyddion yr Undeb yr un trywydd, ond prin y byddent yn fwy afiaethus na gweinidog y Graig. Gwasanaethodd ar bwyllgorau lleol a chanolog yr Undeb ac fel ysgrifennydd Cymanfa Caerfyrddin a Cheredigion, sef cymanfa fwyaf yr Undeb. Bu’n gynrychiolydd i’r Gymdeithas Genhadol ac yn ymwelydd cyson â’r Tŷ Cenhadol yn Llundain. Roedd enw ganddo am yrru car yn gyflym a rhaid ei fod wedi gyrru miloedd lawer o filltiroedd i oedfaon a phwyllgorau niferus dros y degawdau. Rhoddodd flynyddoedd helaeth o wasanaeth ar Gyngor Tref Castell Newydd Emlyn, ac nid oes modd dychmygu nifer y teuluoedd y bu’n gefn iddynt yn ystod y blynyddoedd a dreuliodd yn y fro.

Cysylltir ei enw â’r Cilgwyn yng Nghastell Newydd Emlyn, hen blasdy a fu’n ganolfan i weithgareddau a chynadleddau cenhadol, Ysgol Hâf y Gweinidogion ac Ysgol Haf y Bobl Ifanc. Bu hefyd yn un o sylfaenwyr Catref Glyn Nest, hen aelwyd meddyg lleol, a’i addasu yn gartref i’r henoed yn y dref. Roedd Clement Davies yn gymeriad cryf a chadarnhaol ac o hyd yng nghanol bwrlwm yr enwad.  Fel ysgrifennydd Cymanfa, roedd ei ddylanwad yn sylweddol mewn pwyllgor a chynhadledd.  Bu’n llais o blaid diwygio peirianwaith yr enwad, ac fel John Rowland Jones, Waunarlwydd, gwelai bod angen trefnu gofalaethau a darparu grantiau er mwyn sicrhau cyflog teg i’r gweinidogion.  Yn y cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd, roedd llai o bobl yn cynnig eu hunain i’r weinidogaeth, ac eraill yn gadael am nad oedd yr eglwysi yn medru fforddio cynnal y weinidogaeth yn anrhydeddus.  Rhan o gyfraniad Clement Davies oedd gweithio o blaid sefyllfa decach, ac roedd ef ei hun wedi gweld ei gyflog yn aros yn ei unfan, tra bod pobl broffesiynnol eraill yn gweld ymdrech i wella eu hamgylchiadau byw.  Cofir amdano fel cyfaill i weinidogion ac yn gwmni hwyliog. Disgrifiondd y Parchg William Davies, cyd-weinidog iddo yng Nghastell Newydd Emlyn ef fel ‘dyn Duw’, ac roedd ei gartref yn aelwyd agored i weinidogion o bob enwad i alw heibio. Os ymddangosai yn draddodiadol ei wisg a’i wedd, roedd un o ddinasyddion anrhydeddus Llandudoch yn ddyn pobl ac yn deall y natur ddynol.

Roedd ei briod yn wraig alluog ac academaidd, ac wrth ei bodd yn darllen.  Byddai’n medru trosglwyddo y wybodaeth a gafodd i Clement Davies, a byddai yntau yn elwa o’r darllen eang a defnyddio’r cyfan i ddifyrru ac addysgu ei gynulleidfaoedd. Yn anffodus dioddefodd Gwen yn ddifrifol o’r crud y cymalau, am ran helaethau o’i bywyd priodasol, a bu’n rhaid iddynt fanteisio ar gymorth Catherine Harris, fel un a roddodd gefnogaeth werthfawr yn y tŷ, ac yn arbennig yn y gegin.  Cofir amdani gan yr wyrion fel  Anti Catrin, a hithau wedi dod yn aelod gwerthfawr o’r teulu. Pan fyddai’r ffratyrnal yn cyfarfod yn y tŷ, hi fyddai yn paratoi brechdanau i’r gweinidogion a ddeiau ynghyd. Byddai Clement Davies yn gyfarwydd gyda llu o bobl y fro, a phan ddeuai sefyllfa anodd ar ei draws ef, neu un o’i gynulleidfa, gwyddai yn dda, at bwy i droi. Magodd gylch eang o gyfeillion a manteisio ar y rhwydwaith o gysylltiadau i ledu daioni.  Wrth iddo ofalu am ei bobl, gofalodd ei bobl amdano ef, ac ni fyddai ei gegin yn brin o ymborth ar hyd y blynyddoedd. Modd gweinidog y Graig i ymlacio oedd mynd at yr afon i bysgota, ac ymgolli yn ei feddyliau ei hun, a byddai cist y car yn siwr o gario amal i bysgodyn ar ei daith. Lle arall yr hoffai fynd i gerdded oedd Bae Tresaith, a cofia’r wyrion bod ymweliad â Taid a Nain, yn debygol o olygu mynd i lân y môr am dro. Roedd ganddo ddaliadau cryf, ac yn eu plith roedd yn ddirwestwr digymrodedd. Roedd elfen o ŵr busnes yn perthyn iddo, a manteisiai ar ei gysylltiadau naturiol, i brynu a gwerthu eitemau a fyddai o ddiddordeb iddo.

Ymddeolodd i fyw yn Llys Hywel ac yna yn Glyndwr, hen gartref teuluol Mary,  ei chwaer yng nghyfraith. Yno, y bu Gwen farw ar nos Sul, 11 Hydref, 1970, yn 76 oed.    Treuliodd fisoedd olaf ei fywyd yng Nghartref Glyn Nest. Bu farw yn Ysbyty’r Priordy, Caerfyrddin, 2 Tachwedd 1982, sef penwythnos genedigaeth Sianel S4C.  Ymhlith y llu o lythyron a dderbyniodd y teulu daeth gair oddiwrth Lewis Valentine, erbyn hynny yn 89 oed yn dweud am Clement Davies –

‘Credai yn angerddol yn egwyddorion sylfaenol y Bedyddwyr, a gallai orfoleddu am bob arwydd o lwyddiant ac arddeliad ymhlith ein cydenwadau, ac annwyl i’w ryfeddu iddo oedd Bedyddwyr Cymru. Pregethu oedd nwyd fflam ei fywyd, a phregethu taer oedd dull ordeiniedig Duw i lwyddo Ei Deyrnas, yn ei olwg, a chynnal hwnnw ydyw gorchwyl cyntaf pob eglwys a Chymanfa ac Undeb.

I’m tyb i yr oedd dawn Clement i fod yn dywysog masnach llwyddiannus, ond ni feithrinodd y ddawn, a dewis ufuddhau i’r hudlais PREGETHA’R GAIR, a chanddo fe gafwyd y pregethu hwnnw ar ei felysaf, ac ar ei ddengaraf. Bendigedig fyddo Duw am ei ddawn yn Clement, eich tad.’

Cyfrannwyr:

Gwilym Dafydd (ŵyr)
Denzil Ieuan John

Darllen pellach:
Seren Gomer, Haf 1959
Namyn Bugail, gol. T.J.Davies, 1978, Gwasg Gomer
Dyddiadur 1984 UBC
Mair Garnon. ‘Ody’r Teid Yn Mynd Mas?’ Gwag Gomer 2013.