Yr Wyddor: D

Newyddion a Digwyddiadau

Y diweddaraf gan Undeb Bedyddwyr Cymru

Davies – Hugh (1913 – 1987)

Ganwyd Hugh Davies yn Llangennech, Llanelli ym 1913 yn un o ddau o blant i David John a Margaret Ann Davies (sef chwaer y Parchg Harding Rees).   Bu’n weithgar yn Ysgol Sul, Salem yr Allt, ar gyrion pentre’ Llangennech, cyn ei dderbyn yn aelod gan y Parchg Alfred Morris yn…

Darllen mwy »

Dole – James (1926-2009)

Un o blant Llanbradach yng Nghwm Rhymni oedd James Dole, a’i eni yn un o dri phlentyn Esther Ann (nee Phillips) a Richard Thomas Dole. Gweithiodd Ronald ei frawd, a’i chwaer Norma mewn siopau ar hyd eu hoes. Bu’r teulu’n  byw yn 12 Mountain View, Pwllypant, Llanbradach.  Addolent yn…

Darllen mwy »

Davies – G. Dafydd (1922-2017)

Brodor o Gastellnewydd Emlyn oedd Dafydd Gwilym Davies a aned ar 1 Gorffennaf 1922, yn fab i’r Parchg Clement Davies a Gwen, ei wraig. Ar ôl addysg uwchradd yn Ysgol y Sir Aberteifi, aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, fel yr oedd y pryd hynny, er mwn astudio am radd…

Darllen mwy »

Davies – Jonathan Salisbury (1879-1948)

Ganwyd Jonathan Salisbury Davies yn Nhŷ yr Ardd, Carrog, ger Corwen yn ail fab i Edward Salisbury Davies (1852-1934) a’i wraig Mary, wyres Eos Iâl, awdur y garol “Ar gyfer heddiw’r bore’.  Mynychodd Ysgol Gynradd Carrog pan yn 6 oed, a gadael yn 11 oed i weini ar fferm cyd-Fedyddwyr…

Darllen mwy »

Davies – Melville Harry (1922-2012)

 
Gŵr gwylaidd a llawen ei wedd oedd Melville Harry Davies ar hyd ei oes, ac yn sôn yn gyson am ei fagwraeth yn Llwynhendy.  Roedd o hyd yn mwynhau cwmni ei gyd-weinidogion, ac yn arbennig y sawl a oedd yn gyfoedion ym more oes.  Er iddo gael ei fagu…

Darllen mwy »