Davies – Gerson (1909-1976)

Un o blant Beulah, Cwmtwrch oedd Gerson Davies, a ddaeth o dan ddylanwad gweinidogaeth Glasnant Young, fel ei ddau frawd – John Glyndwr Davies, ac Alun John Davies.  Roedd deuddeg o blant i gyd, a’r teulu cyfan yn amlwg ym mywyd hanes Beulah. Yn nhrefn eu geni, cofir am Ishmael, Tabitha, David R. Tom Alcwyn, Mary, Arianwen, David D, May, John Glyndwr, Gerson, Alun a Gwladys.  Roedd gan y tri brawd a aeth i’r weinidogaeth, fel gweddill y teulu,  feddwl uchel o’i tad yn y ffydd, a byddent yn rhannu yr un awch i ddatblygu eu doniau fel pregethwyr yr Efengyl a bugeiliaid eglwysi.

Bedyddiwyd Gerson gan Glasnant Young yn 1926 yn bymtheg oed.  Dwy flynedd yn ddiweddarach roedd yn pregethu ac yntau yn cael ei dderbyn i Ysgol Rhagbaratol Myrddin yn 1928.  Bu yno am dair blynedd, cyn cael ei dderbyn i goleg yr enwad ym Mangor yn 1931, gan aros yno hefyd am dair blynedd, a hynny yng nghyfnod y Parch J. T. Evans fel prifathro â’r Parch Gwili Jenkins yn swydd yr athro.

Yn 1934 y derbyniodd Gerson wahoddiad i fod yn weinidog yn Seion, Maerdy, ym mhen uchaf Rhondda Fach. Yna bu James Thomas, (Tabernacl, Caerfyrddin, yn ddiweddarach) yn weinidog, ac ni ellir meddwl am ddau weinidog mor wahanol i’w gilydd. Eto enillodd y ddau eu lle ymysg trigolion Maerdy.  Roedd mab ardal lofaol Cwmtwrch yn deall cymuned lofäol y Rhondda, a bu yno am bedair blynedd. Ym mlwyddyn ei ordeinio, priododd gydag Elizabeth Jane Thomas (Bessie) o Ystalyfera a ganwyd iddynt ymhen y rhawg un mab, sef Gerson Wyn Davies.  Datblygodd  Wyn Gerson ei yrfa ym myd addysg a gorffennodd fel Cyfarwyddwr Addysg yn Sir Benfro.

Yn y Rhondda, aeddfedodd doniau Gerson fel pregethwr a gweinidog, a gwerthfawrogai bwysigrwydd y gwaith bugeiliol a cymdeithasol, ynghyd â datblygu ei ddawn fel pregethwr.  Bydd y sawl a adnabu Gerson yn gwybod ei fod yn gyfathrebwr heb ei ail, a deallodd fod ei hiwmor yn ddawn werthfawr wrth ymwneud â phobl. Cymrodd y weinidogaeth o ddifrif, ac roedd ei lyfrgell yn helaeth a chyfoes a bu’n ddarllenwr eang ei ddiddordebau ar hyd ei oes.

Ail gam  Gerson Davies oedd symud yn 1938, i fugeilio Eglwys Tabor, Dinas Cross, Sir Benfro a threulio 16 mlynedd yno.  Pentref ar y ffin rhwng ardal wledig yng Nghwm Gwaun a’r môr fu Dinas Cross erioed, a deallai Gerson bwysigrwydd y bleth honno rhwng y môr a’r mynydd, a gweu o’r amrywiol edafedd, frethyn cymdeithas Gristnogol a diwylliedig.  Yn ei gyfnod ef yn yr eglwys, roedd bri mawr ar y Gymdeithas Ddrama, ac yntau yn cyfrannu’n effeithiol i’r gweithgarwch hwnnw.  Roedd hi’n eglwys brysur gyda llawer o weithgareddau yn cael eu cynnal yn yr eglwys.  Roedd yn bregethwr poblogaidd, a bu arwain cyfarfodydd defosiynol yr eglwys yn bwysig iddo.  Cofnodir iddo fedyddio llawer yn ystod ei gyfnod yno, ac ar un achlysur, bedyddiodd 17 yn yr un gwasanaeth. Roedd ei briod yr un mor brysur ym mywyd yr eglwys, ac enillodd y ddau eu lle yng nghalon Eglwys Tabor.   Cyrhaeddodd yno flwyddyn yn gynt na’r Parchg Wynne Owen yn Hermon, Abergwaun, un arall o symudodd o Gymanfa Dwyrain Morgannwg i Gymanfa Penfro.   Roedd cymdeithas y gweinidogion yn Abergwaun yn agos at ei galon, a bywyd Cymanfa Bedyddwyr Penfro hefyd.

Yn 1954, ffarweliodd gyda Sir Benfro a dechreuodd trydedd gweinidogaeth Gerson pan gafodd ei sefydlu’n weinidog yn eglwys Bethel, Caergybi. Roedd hyn yn newid byd eto iddo a nodir iddo gyfrannu’n helaeth i fwrlwm y dref yn yr un cyfnod â’r Parchg Owen E. Roberts, gweinidog eglwys Hebron, Caergybi. Roedd y ddau yn gyfeillion mynwesol, ac wedi treulio llawer o amser yng nghwmni  ei gilydd yn Sir Benfro, ac yn parhau a’r cyfeillgarwch yng ngwlad y medrau.  Derbyniodd gyfrifoldeb ychwanegol yn ystod ei gyfnod yng Nghaergybi drwy fod yn weinidog yn eglwys Seilo, Llaingoch hefyd, a bu’n gefn i nifer o eglwysi llai yn y cyffiniau. Cyfrannodd i’r bwrlwm cydenwadol yng Nghaergybi ac roedd yn aelod gwerthfawr o’r ffratyrnal lleol a gyfarfyddai ar aelwyd Owen E. Roberts. Bu’n llywydd a swyddog i Gymanfa Bedyddwyr Môn, a phrofodd yr eglwysi o fwrlwm ei weinidogaeth yno.  Daeth i adnabod ei braidd, a’i meithrin yn y ffydd.  Bu’n dair blynedd ar ddeg hapus ym Môn cyn symud i’w faes olaf.

Gorffennodd ei yrfa yn yr y Gymanfa lle cafodd ei ordeinio a mwynhau cyfnod o naw mlynedd fel olynydd i’r Parchg Raymond Williams yn  Hebron, Ton, a Moriah Pentre, (1967-1976).  Dyma oedd gweinidogaeth olaf y ddwy eglwys wrth iddynt gau.  Roedd yn yr un Gymanfa a’i frawd Alun, a hynny am y tro cyntaf yn eu hanes.  Prin y gellir cymharu’r tro ar fyd rhwng cyfnod ei weinidogaeth gyntaf, a’r weinidogaeth olaf.  Roedd trai ar grefydd ymhobman, ac er bod cynnydd yn nifer y disgyblion yn yr ysgolion Cymraeg, roedd iaith yr eglwysi yn troi tuag at y Saesneg.  Deallai’r gynulleidfa y Gymraeg yn weddol, ond  Saesneg oedd iaith y stryd a’r aelwyd i’r mwyafrif haelaeth ohonynt.

Bu Gerson yn selog i Ysgol Haf y Gweinidogion ac roedd yn un o’r cymeriadau bywiog ac annwyl hynny a blethai’r y gymdeithas honno ynghyd.  Yn gymaint â neb, Gerson bontiodd y carfannau amrywiol a ddeuai i’r Ysgol, gan gredu fod pawb ar yr un gwastad, beth bynnag oedd eu cryfderau a’u cefndir.  Roedd yn ddarllenwr eang ei hun, a gwnai bwynt cyson o ddangos bod un o gefndir glofäol a gwerinol yn medru deall trafodaeth academaidd,  a’i pherthnasu i sefyllfa gymdeithasol y dydd.  Pwysleisiai yn rheolaidd bod angen i’r Efengyl fod yn ddealladwy i eraill a hynny mewn ffordd ymarferol.  Gyda’i ddoniau a’i bersonoliaeth, llwyddodd i ddangos bod y weinidogaeth yn agos at y werin, gan ddeall y natur ddynol.  Roedd yn gymhathiad delfrydol o’r pregethwr safonol a’r bugail selog.  Bu farw yn 1976 gyda llawer o bobl yn diolch yn cofio’r cyfathrebwr hwyliog a’r cyfaill didwyll a ffyddlon.

Cyfrannwr:
Denzil Ieuan John