Davies – Griffith ( -1827

Gweinidog cyntaf Eglwysy Tabernacl, Caerdydd oedd y Parchg Griffith Davies. Daeth i’w swydd yn 1815, blwyddyn o bwys yn hanes Prydain wedi’r rhyfel â Ffrainc. Gwasanaethodd am gyfnod byr o dair blynedd yn yr eglwys ifanc  hon, ac yn ystod ei weinidogaeth parhâi i ddal cysylltiad â’r fam-eglwys yng Nghroes-y-parc. Brodor o Aberafan ydoedd ac yn aelod o deulu mawr. Yn ôl arferiad y dyddiau hynny rhoddwyd enw bedydd ei dad i’r mab hynaf, sef Dafydd Bowen, a daeth enw cyntaf y tad yn gyfenw i’r mab hwnnw. Brawd i’w dad oedd y Parchg William Bowen, awdur Hynafion Cenedl y Cymry. Bedyddiwyd Griffith Davies yng Nghastell-nedd a dechreuodd bregethu pan yn ifanc. Gweithiodd fel crydd yn Ystradyfodwg ac wedi hynny ym Mhenffordd-wen (Staylittle) yn Nhrefaldwyn. Fe’i addysgwyd am gyfnod bur yn Ffordd-las, Glan Conwy, ac wedi hynny yn Athrofa’r Fenni. Dychwelodd am gyfnod i Benffordd-wen a symud oddi yno’n weinidog yng Nghaerdydd. Ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael am ei weinidogaeth gan nad oes cofnodion eglwysig am ei gyfnod wedi goroesi, ond gwyddys iddo fedyddio’r Parchg Thomas Thomas o’r Bont-faen a Phont Lecwydd ger Caerdydd wedi hynny, ac ymaelododd hwnnw yn y Tabernacl. Roedd ef yn ŵr galluog ac fe’i addysgwyd yntau hefyd yn academi’r Fenni rhwng 1822 a 1824 a choleg y Bedyddwyr yn Stepney, Llundain, bedair blynedd wedi hynny. Fe’i penodwyd yn brifathro academi Pont-y-pŵl ynghyd â bod yn weinidog ar eglwys Saesneg Crane Street. Ef oedd y Cymro Cymraeg cyntaf i gael ei ethol yn Llywydd Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr ac Iwerddon yn 1872. Fe’i amlygwyd am ei dueddiadau radicalaidd; gwrthwynebai’r Deddfau Ŷd yn 1815 a mudiad y Siartiaid yn y 1830au diweddar, a chefnogai ddiwygio’r senedd yn 1832.

Ar ddiwedd ei weinidogaeth yn y Tabernacl yn 1818 gadawodd Griffith Jones i genhadu ym Mro Morgannwg lle bu’n cysylltu â nifer o Gristnogion a fu’n gymorth i sefydlu achosion crefyddol bychain yn yr ardal eang honno. Pan âi ar ei deithiau cenhadol gwisgai gochl wlân, britsys penglin corderoy, hosannau gwlad a het gopa isel, ac yn ddiau bu i  ymddangosiad o’r fath ddenu cynulleidfa dda i wrando arno. Y Cwrdd Misol neu’r Cwrdd Chwarter a’i cynhaliai’n ariannol, ac wedi cyfnod yn y gwaith hwnnw symudodd i weinidogaethu yng Nghaerffili cyn iddo ddychwelyd i’r Rhath, Caerdydd, lle bu farw ar 2 Rhagfyr 1827 cyn iddo gyrraedd ei ddeugeinfed flwyddyn, ac fe’i claddwyd ym mynwent capel cyntaf y Tabernacl. Gan na fu yn yr eglwys honno’n hir nid gorchwyl hawdd yw ceisio mesur gwerth ei weinidogaeth ond, yn ôl yr ychydig a wyddys amdano, bu’n fugail digon cymeradwy ar ei braidd.

Cyfrannwr : John Gwynfor Jones

Hanes y Tabernacl, Caerdydd.  Gwasg Gomer, 2013