Sut mae bod ‘yr eglwys’ heddiw?

Os ydych yn gyrru car newydd efallai eich bod wedi darganfod bod gennych becyn trwsio teiars yn y cefn y dyddiau hyn yn hytrach nag olwyn sbâr. Yr addewid gan y cwmni yw mai’r ‘cwbl mae’n rhaid i chi ei wneud’ yw chwistrellu cynnwys y can i mewn i’r teiar fflat a bant â chi. Mae’n swnio fel ateb perffaith! Does dim rhaid i chi ddefnyddio jac, cael trafferth gyda byllt olwyn sy’n rhy dynn nac ychwaith wagio cynnwys eich cist i godi’r teiar sbâr. Mae’r ateb yn y can. Y drafferth yw mai dim ond pan fydd hi’n rhy hwyr y byddwch yn gwybod os nad yw’r datrysiad newydd hwn yn gweithio, hyd yn oed!

Os ydym yn onest, byddai’n well gan y rhan fwyaf ohonom gael atebion hawdd i lawer o heriau bywyd. Gwyddom hefyd nad yw’r ‘quick fix’ bob amser yn darparu datrysiad hirdymor. Mae llawer o eglwysi ledled Cymru yn gofyn cwestiynau mawr am eu dyfodol: Sut ydyn ni’n dal i fynd? Pwy sy’n mynd i’n dilyn ni? Ble mae’r cenedlaethau coll a sut mae eu cyrraedd heddiw?

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Undeb Bedyddwyr Cymru wedi bod yn buddsoddi mewn hyfforddiant cenhadol. Nid yw hyfforddiant Cenhadol Forge yr ydym wedi’i ddewis yn addo rhyw ateb cyflym ond gobeithio y bydd yn caniatáu i ni feddwl yn ddyfnach a’n harfogi’n fwy effeithiol i fod yn eglwys mewn cymdeithas ôl-Gristnogol.

Wrth wraidd hyn mae’r cwrs hyfforddi cenhadol dwy flynedd ‘Ethos’ a ddechreuodd ym mis Medi 2020 gyda chyfle i fyfyrio’n ddyfnach ynghylch ein dealltwriaeth o bwy yw Duw, ei Eglwys, pwy ydym ni yng Nghrist a pha fath o arweinwyr y mae angen i ni fod er mwyn dirnad i le mae Duw yn ein harwain mewn cenhadaeth. Mae rhyw chwe deg o bobl o bob cwr o Gymru wedi cyfarfod ar-lein bob pythefnos gyda Cameron Roxburgh o Ganada i ddarllen, dysgu a thrafod. Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi dod gyda grŵp bach o arweinwyr o’u heglwys ac mae rhai yn mynychu ar eu pennau eu hunain.

Mae grŵp gwahanol o bobl hefyd wedi bod yn dilyn y rhaglen ‘Darganfod’ sy’n cyfarfod unwaith y mis i fyfyrio a siarad am arferion cenhadol. Drwy gydol 2020 roedd nifer dda yn mynychu bob mis ac mae llawer wedi dewis parhau gyda rhai unigolion newydd yn ymuno â ‘Darganfod’ ym mis Medi. Y llynedd canolbwyntiwyd ar yr hyn y mae bod yn ‘bobl genhadol’ yn ei olygu i ni heddiw, a hynny wedi’i wreiddio yn y Beibl, ein harferion o fewn yr eglwys a sut rydym yn byw ymhlith ein cymdogion. This year we are looking at seven disciplines that shape the church for mission.

Dyma oedd gan un o’n gweinidogion iau i’w ddweud am yr hyfforddiant:

Er bod cenhadaeth yn un o gorchmynion mwyaf Iesu i’r disgyblion, i ni fel Cymry wedi colli yr awydd neu’r gallu i fynd allan o bedwar wal y capel a dweud wrth eraill y Newyddion Da am Iesu Grist. Mae Darganfod wedi agor ein meddyliau ar sut i wneud pethau syml i ddechrau’r sgwrs am ffydd unwaith eto yn ein hardalaoedd. Pwysigrwydd y gymuned yn cenhadu. Pwysigrwydd gweithio gyda tîm yn ein capeli ac Ofalaethau. Pwyslais ar fywyd gweddigar. Er ein bod yn cyfarfod drwy sgrin, rydw i wedi dod i adnabod llawer o bobl ar draws Gymru. Heb Darganfod dwi’n eitha sicr bydden ni byth wedi cael y cyfle i gwneud hyn. Trafod synidadau hen a newydd gyda pobl sydd yn ceisio yr un uchelgais.

Parch Sian Elin Thomas, Bro Cemaes ac Emlyn

Mae Forge wedi bod yn ddefnyddiol dros ben, ac wedi dod a llawer o syniadau ynghyd o ran sut mae’r eglwys a’r unigolyn yn chwarae rol allweddol mewn cenhadaeth. Bu’r cwrs yn gyfle prin i arweinwyr eglwysig i ollwng yr awenau a dysgu. Mae hynny, yn ei dro, wedi creu lle diogel i arweinwyr drafod a gwerthuso sut mae cenhadaeth yn gweithio yn eu cyd-destun nhw. Ron i wrth fy modd yn clywed wrth Cam ac arweinwyr eraill sydd wrthi’n datblygu eglwys genhadol go iawn, ac wedi dysgu a chael ysbrydoliaeth o’u profiadau. Yn anffodus, dyw Forge ddim yn gwneud pob dim drosoch chi! Dim ond cwrs fydd e oni bai ein bod yn codi’r awenau ato ac yn arwain ein heglwysi i ymateb i le mae Duw ar waith yn ein cymunedau.

Parch Tim Moody, Moriah Baptist Church

Os oes gyda chi neu eich eglwys ddioddordeb mewn ymuno ag un o’r cyrsiau hyn yn y dyfodol. ebostiwch simeon@ubc.cymru am ragor o wybodaeth.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »