Bedyddiadau 2021!

Rydyn ni’n credu mewn dathlu yr hyn mae Duw yn ei wneud, ac ar ddiwedd blwyddyn yn cynnwys sawl her i ni i gyd, dyma gyfle da i edrych yn ôl mewn diolch. 

Yn 2021 bedyddiwyd 15 o gredinwyr mewn eglwysi bedyddiedig ar draws Cymru, o bentrefi bychain i drefi mawr. Roedd rhai, Sian yn Aberteifi, wedi bod yn gysylltiedig â’r capel am rai blynyddoedd, ond ddim wedi ei bedyddio. Roedd eraill, fel Martha a Guilhem o Penuel, Caerfyrddin wedi eu magu yn y capel ac wedi cyrraedd oedran lle roedden nhw eisiau gwneud datganiad cyhoeddus eu hunain o’u ffydd yn yr Arglwydd Iesu. Roedd eraill eto, fel Dominic o Ganada, wedi dod i ffydd yn ddisymwth ar ôl degawdau fel anffyddiwr.  

Mae pob stori yn wahanol, ond y tu ôl i bob un mae gwaith yr Ysbryd Glân yn cynhesu calonnau tuag at yr Arglwydd Iesu, a dymuniad pobl gyffredin yn sgil hynny i ddatgan eu bod bellach yn dilyn Meistr newydd. Nadolig Llawen i chi i gyd! 

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »