Taith Hannah

Mae’n hyfryd cael cwrdd â ti, Hannah! I’r rhai ohonom sydd ddim yn dy nabod, dweda wrthyn ni ychydig am bwy wyt ti…

Wel, Hannah ydw i! Dwi’n 24 oed, yn wreiddiol o Lanelli a nawr yma yng Nghaernarfon. Dwi’n hoff o bobi cacennau – dyna lle byddwch chi’n ffeindio fi os oes cwpwl o oriau sbâr gen i. A dwi’n hoffi bod tu allan yn y greadigaeth hefyd. O Lanelli byddwn i’n mynd lan i Ben y Fan ac yma mae digonedd o ddewis hefyd.

Sut dest ti i nabod Iesu? 

Fe ges i fy magu o fewn i deulu Cristnogol, a chlywed yr efengyl yno ac mewn clybiau plant ac ati yn y capel. Ro’n i wrth fy modd ac yn gallu gweld bod gan y bobl yno rywbeth arbennig. Pan o’n i’n bump neu chwech dyma fi’n cael sgwrs gyda fy rhieni a dweud fy mod i eisiau Iesu yn fy mywyd. Ers hynny dwi wedi bod yn dysgu o dipyn i beth i’w ddilyn e! 

Beth yw’r interniaeth a sut dest ti i’w wneud e? 

Blwyddyn o waith gydag eglwys leol yw’r interniaeth yn y bôn, ond yn fwy na hynny mae’n gyfle i ddarganfod eich doniau a chynlluniau Duw ar gyfer eich bywyd. Bues i yn rhan o Dim i Gymru yn Arfon yn 2018/19 ar ôl gorffen yn y brifysgol. Roedd hi’n flwyddyn llawn bendith ac ron i’n teimlo galwad Duw i genhadaeth yng Nghymru. Symudais i adre i weithio mewn ysgol gynradd a gweddïo y byddai Duw yn dangos y ffordd ymlaen i mi. Dyma fi’n siarad gyda phobl ron i’n nabod i geisio arweiniad a dyma fi’n dechrau cynllun Derwen ym mis Medi y llynedd. Ac yna des i glywed am yr interniaeth, cael sgwrs gyda’r Undeb, cyfweliad…a dyma fi! 

Dim ond newydd ddechrau wyt ti yno yng Nghaersalem – ond oes uchafbwynt hyd yn hyn y gallet ti rannu gyda ni? 

Byddai’n rhaid i mi ddweud taw’r gwasanaethau ar y Sul! Ar ôl y cyfnod pandemig a’r holl bethau dros zoom, mae cael bod yn y capel, a hwnnw’n llawn a plant a phobl o bob oed yno yn cyd-addoli – mae hynny wedi bod yn wefr go iawn. Dwi’n teimlo i mi gael gweld yr eglwys go iawn unwaith eto, a honno’n llawn bywyd! 

Gwych! A beth yw dy obeithion neu gynlluniau at y flwyddyn sydd i ddod? 

Dwi eisiau tyfu mewn perthynas gyda phobl y capel, a helpu pobl i ddod i nabod Iesu’n well. Ac un ffordd penodol o wneud hynny ydy trwy’r clwb ieuenctid wythnosol. Mewn gwirionedd, dwi jest yn gobeithio cael profiadau eang o fewn bywyd yr eglwys, gan gynnwys rhai sy tu fas i fy ‘comfort zone’ personol i! Ac yn fyw na hynny, dwi eisiau gweld yn fwy glir a phenodol cynllun Duw ar gyfer fy mywyd i ac ar gyfer yr eglwys yn Nghymru.  

Sut gallwn ni weddïo drosot ti, Hannah? 

Tri pheth bach efallai: 

1) Y byddwn i’n ffeindio nhraed yn gyflym ac yn darganfod rhythm wythnosol dda 

2) Y byddwn i’n tyfu yn fy mherthnasau yma ac yn medru adeiladu rhai ystyrlon 

3) I mi wneud y gorau o’r flwyddyn sydd i ddod 

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »