Ddoe a Heddiw: Plannu eglwysi o John (Myles) i John (Derek Rees)

Yn ddiweddar cynhaliom oedfa nos arbennig iawn ar zoom, a oedd yn edrych ar waith plannu eglwysi yng Nghymru yn yr 1650au a’r 2020au. Digwyddodd ein Hoedfa Ilston flynyddol, sy’n dwyn enw’r pentre bach yng Ngwyr lle sefydlwyd yr eglwys Fedyddiedig gyntaf yng Nghymru yn yr 1650au, dros zoom am y tro cyntaf eleni. Gyda chymysg o rannau byw ac eitemau wedi eu recordio ar safle adfail Ilston yng Ngwyr, mae’r oedfa yn gyfle i ddysgu mwy am ein gwreiddiau Bedyddiedig yng Nghymru, ynghyd â’r gwaith o blannu eglwysi heddiw:

Cawn gwmni y Parchg Ddr Densil Morgan, Llambed, sydd yn cyflwyno hanes John Myles, y gŵr a sefydlodd yr achos Bedyddiedig cyntaf yng Nghymru yn Ilston ac yn goleuo i ni rai o’r heriau a wynebodd wrth wneud. Mae’r Parchedig Ddr Michael Collis, Sarn yn sôn am bwysigrwydd dathlu ein gwreiddiau a’r Parchedig John Derek Rees yn rhannu ei brofiad o blannu eglwys heddiw yn Abertawe.

Llywyddion yr Undeb, Miss Aldyth Williams, Treforys a’r Parchg Steve Wallis, Pontnewydd ar Wy sydd yn gyfrifol am y defosiwn. Croeso cynnes i bawb i’r oedfa ddwyieithog hon a gynhaliwyd ar nos Fawrth, 2 Tachwedd 2021, 7-8yh.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »