Gweddi dros genhadaeth a gweinidogaeth

Mae’r pandemig yn gadael ei olion cas ar ein bywydau ni oll o hyd, gan effeithio ar bopeth o’n bywydau teuluol i amserlenni’r trenau a gadael creithiau a cholled ar ei ol. Ac wrth i fywyd newid o’n cwmpas, mae gwaith eglwysi yn gwasanaethu eu cymunedau ac yn rhannu Iesu â nhw yn bwysicach nac erioed. Mae dros 40 o eglwysi o bob cwr o’r wlad wedi ymuno â ni ar daith genhadol dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf, wrth i ni archwilio gyda’n gilydd sut y gall ein heglwysi fod yn bresenoldeb ffyddlon yn dangos Iesu i’n cymunedau. Ond wrth i gyrsiau Ethos a Darganfod barhau, ac wrth i eglwysi eraill hefyd barhau i dreiali pethau newydd yn y cyfnod heriol hwn, mae’n hanfodol ein bod yn seilio popeth ar weddi.

Felly, os hoffech ymuno â grŵp o bobl o bob cwr o Gymru i weddïo dros genhadaeth a gweinidogaeth yn ein gwlad yn rheolaidd, fe’ch gwahoddir yn gynnes i ymuno â ni ar zoom unwaith y mis am amser cinio ar dydd Mawrth. Byddwn yn gweddïo o 1pm am 30 munud bob dydd Mawrth y mae Darganfod yn rhedeg, gan ddefnyddio’r ddolen zoom hon bob tro: https://us06web.zoom.us/j/82102583626

ID y cyfarfod: 821 0258 3626

Mae dyddiadau’r flwyddyn ar gyfer Darganfod a’r amseroedd gweddi hyn yma (ac mae croeso i chi ymuno â ni hanner ffordd drwy gwrs y flwyddyn!): Darganfod – The Baptist Union of Wales (ubc.cymru)

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »