Diwrnod Gweddi Chwiorydd Bedyddwyr y Byd 2021

Bob blwyddyn, bydd menywod bedyddiedig ar draws y byd yn dod at ei gilydd er mwyn gweddio dros y byd a’i gilydd mewn dros 80 o ieithoedd. Pam ddim achub ar y cyfle i ddod ynghyd fel eglwys neu fel grwp i weddio, boed hynny yn y cnawd neu dros zoom – neu hyd yn oed defnyddio’r adnodd bendigedig yma ar gyfer myfyrdod personol o flaen Duw? Thema eleni yw byw yn ddewr, gan dynnu ar Hebreaid 13:6:

Felly gallwn ni ddweud yn hyderus, “Yr Arglwydd ydy’r un sy’n fy helpu i; fydd gen i ddim ofn. Beth all pobl ei wneud i mi?”

Mae croeso i chi lawrlwytho, rhannu a defnyddio’r adnoddau isod fel y gwelwch orau ar gyfer y diwrnod ar Dachwedd 1af. Diolch am fod yn rhan o’r diwrnod arbennig hwn o sefyll mewn undod gyda’ch chwiorydd ar draws y byd!

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Caffi yn y festri

Wrth gerdded i mewn i festri capel Tabor ym mhentre Dinas ar arfordir Gogledd Penfro, cewch wledd i’r llygaid sy’n gwbl wahanol i unrhyw festri arall yng Nghymru. ‘Ers y gwaith i drawsnewid yr adeilad, mae’r caffis sy wedi bod ma wedi bod yn llewyrchus dros ben – y lle yn aml wedi bod yn llawn dop!’ esbonia…

Darllen mwy »